Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfrifo'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol: y pethau pwysig

Mae gan bron bawb sy'n gweithio yr hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf. Er mwyn gweld a ydych yn cael eich talu ar gyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol bydd angen i chi wybod eich cyfnod cyfeirnod cyflog a pha elfennau o'ch tâl sy'n cyfrif tuag at yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Sut mae gwirio'ch cyflog

Cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Gwirio’r cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol presennol

Mae’n ofynnol eich bod yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf bob awr, wedi'i gyfrifo dros gyfnod a elwir yn 'gyfnod cyfeirnod cyflog'.

Er mwyn cael gwybod a ydych chi’n cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, bydd angen i chi wybod beth sy'n cyfrif tuag ato a beth nad yw’n cyfrif tuag ato. Bydd hefyd angen i chi wybod pa oriau y mae gennych chi'r hawl i gael eich talu amdanynt. Mae hyn yn dibynnu ar ba un o’r pedwar math o waith dan reolau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol rydych yn ei wneud:

  • gwaith ar sail amser
  • oriau cyflogedig
  • gwaith fesul tasg neu waith ar sail allbwn
  • gwaith heb ei fesur

Y cyfnod cyfeirnod cyflog

Fel arfer, dyma’r cyfnod o amser rydych chi’n cael eich talu amdano. Er enghraifft, os cewch eich talu'n wythnosol, un wythnos fydd eich cyfnod cyfeirnod cyflog, os cewch eich talu'n fisol, un mis fydd y cyfnod. Mae’n rhaid i chi gael eich talu, ar gyfartaledd, o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn ystod pob cyfnod cyfeirnod cyflog.

O dan reolau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ni all y cyfnod cyfeirnod cyflog fod yn hwy na mis. Os yw eich cyflogwr yn eich talu dros gyfnodau hwy (e.e. unwaith bob chwarter) mae’n rhaid i chi gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfartaledd ar gyfer bob mis yn ystod y chwarter hwnnw.

Wrth gyfrifo p'un ai a ydych yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ai peidio, mae’n bosib nad dim ond y tâl a gewch yn ystod y cyfnod cyfeirnod cyflog a fydd yn cyfrif. Mae hefyd yn cynnwys tâl rydych yn ei ennill yn ystod y cyfnod hwnnw, ond nad ydych yn ei gael tan y cyfnod nesaf. Er enghraifft, os ydych chi’n cael eich talu’n fisol ac yn gwneud rhywfaint o waith goramser yn agos at ddiwedd mis Gorffennaf, efallai na chewch eich talu amdano tan fis Awst. Bydd eich tâl goramser yn dal i gyfrif tuag at eich tâl ar gyfer mis Gorffennaf.

Tâl sy'n cyfrif tuag at yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio

Cymorth a chyngor am yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

0800 917 2368

Gelwir y tâl a gewch y gellir ei ddefnyddio i gyfrifo’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn dâl Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Caiff tâl Isafswm Cyflog Cenedlaethol ei gyfrifo ar dâl gros (cyn i dreth ac Yswiriant Gwladol gael eu didynnu). Bydd eich tâl gros yn cynnwys eich tâl sylfaenol am y gwaith rydych wedi’i wneud a mathau eraill o dâl sy’n cyfrif tuag at yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Er enghraifft, comisiwn ar werthiannau, tâl yn seiliedig ar berfformiad neu daliadau eraill ar sail pa mor dda rydych yn gwneud eich gwaith.

Nid yw rhai taliadau yn cyfrif tuag at dâl Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Dylech ddidynnu'r rhain o gyfanswm eich tâl cyn cyfrifo a ydych chi’n cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ai peidio. Dyma rai o’r taliadau nad ydynt yn cyfrif:

  • benthyciadau
  • blaensymiau o gyflogau
  • taliadau pensiwn
  • cyfandaliadau ymddeol
  • taliadau dileu swydd
  • taliadau dan gynlluniau awgrymiadau staff
  • unrhyw elfen bremiwm (sef unrhyw beth y cewch eich talu yn ychwanegol i'ch cyflog sylfaenol) am weithio ar amseroedd arbennig, e.e. goramser neu ar ŵyl y banc
  • lwfansau ar ben eich cyflog sylfaenol, er enghraifft am weithio oriau anghymdeithasol, mewn ardal benodol (ee Pwysiadau Llundain), mewn amgylchiadau peryglus, 'ar alwad', neu gyflawni dyletswyddau arbennig ar wahân i'ch dyletswyddau arferol
  • tips, taliadau cydnabod a thaliadau gwasanaeth (tan 1 Hydref 2009 roedd y rhain yn cyfrif tuag at dâl Isafswm Cyflog Cenedlaethol, cyn belled ag y byddai’ch cyflogwyr yn eu talu drwy’r gyflogres; nid ydynt yn cyfrif bellach, ni waeth sut rydych chi’n eu derbyn)

Didyniadau o'ch cyflog a thaliadau i'ch cyflogwr

Mae rhai didyniadau a thaliadau yn lleihau tâl Isafswm Cyflog Cenedlaethol, tra nad yw eraill yn gwneud hynny. Fodd bynnag, ni all eich cyflogwr ddidynnu unrhyw arian o’ch cyflog, na chymryd taliadau gennych, oni bai i amodau penodol gael eu bodloni.

Didyniadau a thaliadau nad ydynt yn lleihau tâl Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Caiff rhai didyniadau o gyflog, neu daliadau a wnewch i'ch cyflogwr, eu hanwybyddu wrth gyfrifo tâl Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Felly os cewch gyflog o £6.00 yr awr ac y bydd didyniadau neu daliadau am unrhyw un o'r rhesymau a restrir isod yn lleihau hyn i £5.00, dylech weld a yw £6.00 yr awr, nid £5.00, yn bodloni'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ai peidio yn eich achos chi.

Mae'r didyniadau a'r taliadau nad ydynt yn lleihau tâl Isafswm Cyflog Cenedlaethol fel a ganlyn:

  • cosbau am gamymddwyn – ar yr amod bod y cosbau hyn yn eich contract cyflogaeth
  • talu blaenswm cyflog yn ôl
  • talu gordaliad damweiniol o'ch cyflog yn ôl
  • costau unrhyw gyfranddaliadau neu warantau rydych wedi dewis eu prynu yn eich cwmni
  • arian rydych chi’n dewis ei ddidynnu o'ch cyflog, (e.e. cyfraniad pensiwn neu dâl aelodaeth i undeb llafur) ar yr amod nad yw'r didyniad yn ofynnol fel rhan o'ch gwaith ac nad yw ar gyfer defnydd personol eich cyflogwr nac er ei fudd
  • taliadau rydych chi’n dewis eu gwneud i’ch cyflogwr i brynu nwyddau neu wasanaethau ganddo, er enghraifft, os ydych chi’n gwario ychydig o’ch cyflog ar brydau bwyd o ffreutur y staff

Didyniadau a thaliadau sy'n lleihau tâl Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Caiff rhai didyniadau o gyflog, neu daliadau a wnewch i'ch cyflogwr, eu hystyried wrth gyfrifo tâl Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Felly os cewch gyflog o £7.00 yr awr ac y bydd didyniadau neu daliadau am unrhyw un o'r rhesymau a restrir isod yn lleihau hyn i £5.00, dylech weld a yw £5.00 yr awr, nid £7.00, yn bodloni'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ai peidio yn eich achos chi.

Mae'r didyniadau a'r taliadau sy'n lleihau tâl Isafswm Cyflog Cenedlaethol fel a ganlyn:

  • ad-dalu arian a wariwyd gennych yn gysylltiedig â'ch gwaith, er enghraifft y gost o brynu cyfarpar neu wisg
  • ad-dalu unrhyw dreuliau a wariwyd gennych wrth i chi wneud eich gwaith, er enghraifft costau teithio
  • didyniadau i dalu am eitemau mae eich cyflogwr wedi'u rhoi i chi sy'n angenrheidiol i chi wneud eich swydd, er enghraifft, cyfarpar neu wisg
  • didyniadau ar gyfer defnydd personol eich cyflogwr neu er ei fudd am nwyddau a gwasanaethau, er enghraifft, trafnidiaeth mae’n ei darparu i’r gwaith ac o’r gwaith, ni waeth a oes gennych chi’r dewis o ddefnyddio’r nwyddau a’r gwasanaethau ai peidio

Nid oes yn rhaid i’ch cyflogwr wneud elw o ddidyniad iddo fod ‘er ei ddefnydd personol neu er ei fudd’. Er enghraifft, os yw’n gwneud colled wrth ddarparu trafnidiaeth, mae unrhyw ddidyniadau a wna am ei ddarparu yn helpu i leihau’r golled. Bydd y lleihad yn rhan o'r 'defnydd a’r budd' y bydd wedi'i gael o'r didyniadau.

Ydy 'buddiannau ymarferol' yn cyfrif tuag at yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol?

Buddiannau ymarferol yw unrhyw beth y mae eich cyflogwr yn ei ddarparu ar gyfer eich budd chi ar wahân i dâl. Nid oes dim i rwystro eich cyflogwr rhag cynnig buddiannau ymarferol i chi. Fodd bynnag, ni all gwerth cyfatebol i fuddiant ymarferol mewn arian gael ei gyfrif tuag at dâl Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ar wahân i swm penodol ar gyfer llety.

Mae enghreifftiau o fuddiannau ymarferol nad ydynt yn cyfrif tuag at dâl Isafswm Cyflog Cenedlaethol fel a ganlyn:

  • prydau bwyd
  • tanwydd
  • car
  • cyfraniad eich cyflogwr i’ch cronfa pensiwn
  • help wrth symud tŷ
  • yswiriant meddygol
  • talebau cinio
  • talebau gofal plant

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU