Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfrifo'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol: gwaith ar sail amser neu oriau cyflogedig

Dylai pob gweithiwr bron gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Os ydych yn cael eich talu yn ôl nifer yr oriau yr ydych yn y gwaith, rydych yn gweithio 'ar sail amser'. Bydd y rheini sy'n gweithio 'oriau cyflogedig' yn cael cyflog wythnosol neu fisol am weithio nifer sylfaenol o oriau dros gyfnod o flwyddyn.

Gweithio ar sail amser

Os cewch eich talu yn ôl nifer yr oriau yr ydych yn y gwaith, rydych yn gweithio ar sail amser - felly mae'n debygol bod unrhyw un y mae eu cyflog yn codi neu'n disgyn yn dibynnu ar yr oriau a weithiant yn gweithio ar sail amser. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr sy'n cael eu talu fesul tasg ond sy'n gorfod bod yn y ffatri am nifer penodol o oriau bob dydd er mwyn gwneud eu gwaith.

I gael gwybod a oes gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (ICC) dylech ddarllen yr erthyglau eraill ar yr ICC.

Rhaid i weithwyr sy'n cael eu talu ar sail amser gael yr ICC am yr oriau a dreuliwyd:

  • yn y gwaith ac i fod yn gweithio neu'n aros galwad i ddod i weithio ger eich gweithle (ond nid am gyfnodau egwyl)
  • yn y gweithle ond ddim yn gallu gweithio gan fod peiriant wedi torri
  • yn teithio at ddibenion busnes yn ystod oriau gwaith arferol
  • yn cael hyfforddiant neu'n teithio i gael hyfforddiant yn ystod oriau gwaith arferol
  • yn effro ac yn gweithio, yn ystod 'amser cysgu'

Mae amser cysgu yn golygu unrhyw amser y caniateir i chi gysgu os yw'ch cyflogwr yn trefnu i chi gysgu yn eich gweithle neu gerllaw iddo ac yn darparu cyfleusterau addas i chi wneud hynny.

Nid oes angen i weithwyr sy'n cael eu talu ar sail amser gael yr ICC am yr oriau a dreuliwyd:

  • yn teithio o'u cartref i'r gwaith
  • o'r gwaith yn ystod cyfnodau egwyl, gwyliau, absenoldeb oherwydd salwch neu absenoldeb mamolaeth
  • o'r gwaith oherwydd gweithredu diwydiannol
  • yn cysgu, neu'n effro ond ddim yn gweithio, yn ystod 'amser cysgu'

Gweithio ar sail oriau cyflogedig

Os yw'ch contract yn dweud eich bod yn cael eich talu am weithio nifer sylfaenol o oriau bob blwyddyn, a'ch bod yn cael cyflog blynyddol a gaiff ei dalu'n wythnosol neu'n fisol i chi, rydych yn gweithio ar sail oriau cyflogedig. Nid oes rhaid i'ch contract nodi eich oriau fel ffigur blynyddol (ee, 2,000 awr y flwyddyn), ond rhaid i chi allu cyfrifo o'ch contract faint o oriau yr ydych i fod i'w gweithio bob blwyddyn.

Rhaid i weithwyr sy'n cael eu talu yn ôl oriau cyflogedig gael yr ICC am yr oriau a dreuliwyd:

  • yn y gwaith yn gweithio
  • yn aros galwad i fynd i weithio, neu ar alwad, yn y gweithle neu gerllaw iddo
  • yn y gweithle ond ddim yn gallu gweithio gan fod peiriant wedi torri
  • yn teithio at ddibenion busnes yn ystod oriau gwaith arferol
  • yn cael hyfforddiant neu'n teithio i gael hyfforddiant yn ystod oriau gwaith arferol
  • o'r gwaith ar gyfnod egwyl, ar doriad cinio, ar wyliau, ar absenoldeb oherwydd salwch neu ar absenoldeb mamolaeth, lle mae'r rhain yn rhan o isafswm yr oriau yr ydych i fod i weithio yn ôl eich contract
  • yn effro, ac yn gweithio, yn ystod 'amser cysgu' (gweler 'gweithio ar sail amser' uchod)

Nid oes angen i weithwyr sy'n cael eu talu ar sail oriau cyflogedig gael yr ICC am oriau a dreuliwyd:

  • pan fyddwch yn cael llai o dâl na'ch cyflog arferol, er enghraifft, os dim ond hanner eich cyflog a gewch os ydych yn absennol oherwydd salwch
  • ar unrhyw absenoldeb di-dâl y mae eich cyflogwr yn gadael i chi ei gymryd
  • o'r gwaith oherwydd gweithredu diwydiannol
  • yn cysgu, neu'n effro ond ddim yn gweithio, yn ystod 'amser cysgu' lle mae'ch contract oriau cyflogedig yn nodi'n glir pryd y caniateir i chi gysgu

Os yw'n ofynnol i chi fod ar ddyletswydd am 24 awr ac nad ydych yn cael amser penodol ar gyfer cysgu rhwng oriau penodedig mae'n bosib y bydd yn rhaid talu'r ICC i chi am y 24 awr lawn.

Cyfrifo a ydych yn cael yr ICC

Cyn cyfrifo ai fel gweithiwr ar sail amser ynteu weithiwr ar sail oriau cyflogedig y mae'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn cael ei dalu i chi, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ddarllen yr erthygl 'Cyfrifo'r ICC: y pethau pwysig', sy'n egluro rhywfaint o'r telerau, gan gynnwys beth yw 'cyfnod cyfeirnod cyflog'.

Llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith

Cymorth a chyngor cyfrinachol ynghylch yr ICC

0800 917 2368

Os ydych yn gweithio ar sail amser, i gyfrifo a yw'r ICC yn cael ei dalu i chi, dylech rannu'r swm a dalwyd i chi yn eich cyfnod cyfeirnod cyflog gyda nifer yr oriau a dreuliasoch yn gweithio.

Os ydych yn gweithio ar sail oriau cyflogedig, dylech wneud y canlynol:

Cam un: cyfrifwch faint o oriau, dros flwyddyn, y mae'n rhaid i chi eu gweithio yn ôl eich contract

Cam dau: cyfrifwch nifer yr oriau, ar gyfartaledd, sydd ym mhob cyfnod cyfeirnod cyflog

Cam tri: rhannwch swm y cyflog ym mhob cyfnod cyfeirnod cyflog gyda nifer yr oriau ym mhob cyfnod cyfeirnod cyflog.

Bydd hyn yn dweud wrthych faint o dâl yr ydych yn ei gael fesul awr.

Ni fydd nifer gyfartalog yr oriau ym mhob cyfnod cyfeirnod cyflog o anghenraid yr un faint â'r oriau yr ydych yn eu gweithio. Er enghraifft, gallai gweithwyr oriau cyflogedig fod yn staff ysgol - byddant yn cael yr un cyflog misol neu wythnosol drwy'r flwyddyn er mai dim ond yn ystod y tymor y maent yn gweithio.

Gall cyfrifo'r ICC fod yn fwy cymhleth na hyn. Os nad ydych yn sicr sut mae cyfrifo'ch patrwm gweithio dylech gysylltu â llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith i gael cyngor pellach.

Cyfrifiad enghreifftiol ar gyfer gweithwyr ar sail amser

Rydych yn gweithio ar sail amser, yn cael £275 yr wythnos ac yn gweithio 36 awr yr wythnos. Rydych yn treulio pum awr yr wythnos yn teithio i'ch gwaith o'ch cartref ac wyth awr arall yn teithio ar fusnes. Mae gennych hawl i'r ICC ar gyfer y 36 awr yn y gwaith a'r wyth awr yn teithio ar fusnes, ond nid ar gyfer y bum awr yn teithio o'ch cartref i'ch gwaith.

Cam un: cyfrifwch yr oriau sy'n cyfrif at yr ICC (36 awr + 8 awr = 44 awr)

Cam dau: rhannwch eich cyflog gyda'r oriau sy'n cyfrif at yr ICC (£275 / 44 = £6.25)

Mae hyn yn uwch na'r ICC.

Cyfrifiad enghreifftiol ar gyfer gweithwyr oriau cyflogedig

Rydych yn gweithio ar sail oriau cyflogedig ac yn cael £12,400 y flwyddyn. Bob mis, byddwch yn cael £1,033 am weithio 2,080 awr y .

Cam un: cyfrifwch yr oriau y byddwch yn eu gweithio bob blwyddyn (2,080 / 12 wythnos = 173,3 awr)

Cam dau: cyfrifwch eich cyflog fesul awr, sef eich cyflog ym mhob cyfnod cyfeirnod cyflog wedi'i rannu gyda'r oriau ym mhob cyfnod cyfeirnod cyflog (£1,033 / 173.3 = £5.96)

Mae hyn yn is na'r ICC.

Ble mae cael cymorth

Mae llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith yn cynnig cymorth a chyngor cyfrinachol ar yr ICC mewn dros 100 o ieithoedd. Os nad ydych yn cael eich talu yr ICC gallwch gysylltu â’r Llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith neu ddefnyddio’r ffurflen ymholiadau neu gwyno ar-lein.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU