Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gan y rhan fwyaf o weithwyr hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Dim ond mewn sefyllfaoedd penodol iawn y caiff pobl eu heithrio. Os nad ydych chi'n cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol dylech ganfod a oes gennych hawl iddo cyn gwneud cwyn.
Ceir rhestr isod o bobl nad oes ganddynt hawl i gael eu talu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Os nad ydych chi’n cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol dylech ddarllen yr erthygl ‘Gweithwyr sydd â hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol’ i ganfod a ddylech chi i’w cael.
Hunangyflogedig
Os ydych chi'n hunangyflogedig nid oes gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Os ydych chi'n credu eich bod yn weithiwr ond bod eich 'cyflogwr' yn dweud eich bod yn hunangyflogedig, os ceir anghydfod am yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol sy'n mynd ymlaen i Dribiwnlys Cyflogaeth neu lys sifil, lle eich cyflogwr yw profi eich bod yn hunangyflogedig.
Gwirfoddolwyr
Rydych chi’n debygol o fod yn wirfoddolwr os nad oes gennych gontract cyflogaeth na chontract gweithiwr (ee nad ydych chi’n weithiwr). Nid oes ots i bwy yr ydych yn gwirfoddoli; gall fod yn unrhyw un, nid mudiadau gwirfoddol yn unig.
Fodd bynnag, nid yw'r ffaith eich bod yn cael eich disgrifio fel gwirfoddolwr o reidrwydd yn golygu nad oes gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Os yw'ch trefniadau 'gwirfoddoli' mewn gwirionedd yn gontract cyflogaeth neu'n gontract gweithiwr, bydd gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol oni cheir eithriad penodol (megis yr eithriad ar gyfer 'gweithwyr gwirfoddol').
Gweithwyr gwirfoddol
Mae gweithiwr gwirfoddol yn wahanol i wirfoddolwyr at ddibenion yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. At ddibenion yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, i fod yn weithiwr gwirfoddol rhaid i chi weithio dan gontract cyflogaeth neu gontract i weithio neu ddarparu gwasanaethau i elusen, i fudiad gwirfoddol, i gorff codi arian cysylltiedig neu i gorff statudol. Ni ddylech gael mwy nag ychydig o dreuliau a buddion ymarferol ac nid oes gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Profiad gwaith
Os ydych chi'n fyfyriwr sy'n gwneud profiad gwaith fel rhan o gwrs addysg uwch neu addysg bellach nid oes gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol os nad yw'r profiad gwaith yn para mwy na blwyddyn.
Os ydych chi'n gyfarwyddwr cwmni, yng ngolwg y gyfraith, rydych yn 'ddeiliad swydd. Nid oes gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am y gwaith a wnewch fel deiliad swydd. Os oes gennych hefyd gontract cyflogaeth neu gontract gweithiwr bydd gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol am y gwaith a wnewch dan y contract hwnnw. Os nad ydych yn sicr a yw hyn yn berthnasol i chi ai peidio, dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol.
Ambell gynllun gan y llywodraeth ar lefel cyn prentisiaeth
Os ydych yn cymryd rhan yn un o'r cynlluniau canlynol nid oes gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol:
Os ydych chi’n brentis ond nid ydych yn cael eich talu am eich cyflogaeth ond yn ymgymryd profiad gwaith fel rhan o’ch hyfforddiant prentisiaeth ar Brentisiaethau Sylfaenol a Phrentisiaethau Modern Sylfaenol yng Nghymru, cysylltwch â’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau am wybodaeth ar eich hawliau. Gallwch naill ai ffonio 0300 0603300 neu 0845 010 3300 (Saesneg) neu 0300 0604400 neu 0845 010 4400 (Welsh).
Rhaglenni cyflogaeth y Llywodraeth
Mae'n bosib na fydd gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol os byddwch yn cymryd rhan yn un o raglenni cyflogaeth y llywodraeth sydd â'r bwriad o ddarparu hyfforddiant neu brofiad gwaith i chi, neu eich helpu i gael gwaith neu i chwilio am waith. Os ydych chi'n mynd i gymryd rhan mewn cynllun fel hwn, holwch y trefnwyr i weld a fyddwch yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Rhaglenni Leonardo da Vinci, Youth in Action, Erasmus a Comenius y Gymuned Ewropeaidd
Os ydych yn cymryd rhan yn unrhyw un o'r cynlluniau hyn ni fydd gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol am waith a wnewch fel rhan ohonynt.
Byw yng nghartref eich cyflogwr
Os ydych yn aelod o deulu eich cyflogwr, yn byw yn ei gartref ac yn helpu i redeg busnes y teulu neu'n helpu â'r gwaith tŷ, nid oes gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol os ydych yn helpu â thasgau'r teulu ac yn ymuno yn eu gweithgareddau.
Os nad ydych yn aelod o deulu eich cyflogwr ond eich bod yn byw yn ei gartref ac yn helpu â'r gwaith tŷ ac yn ymuno â'r teulu mewn gweithgareddau hamdden, er enghraifft os ydych yn 'au pair', nid oes gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Gwaith i ffrindiau a chymdogion
Os byddwch yn gwneud gwaith i ffrind neu gymydog, ond yn gwneud hynny'n anffurfiol, heb fod yn rhwym i gontract, er enghraifft, os cewch dâl fel diolch am helpu gyda'r siopa, nid oes gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Aelodau’r lluoedd arfog
Os ydych chi'n aelod o'r lluoedd arfog, nid oes gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys aelodau wrth gefn sy'n cynorthwyo gyda gweithgareddau'r cadetiaid (y Cadetiaid Cyfun, Cadetiaid y Môr, Cadetiaid y Fyddin a'r Corfflu Hyfforddiant Awyr) fel Oedolion Gwirfoddol y Cadetiaid (CFAV). Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol pan nad ydych yn gweithio fel aelod wrth gefn neu CFAV.
Pysgotwyr cyfran
Os ydych chi'n bysgotwr cyfran sy'n cael cyfran o'r elw a geir o bob daliad yn hytrach na chyflog sefydlog, nid oes gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Carcharorion
Os ydych chi'n garcharor sy'n gweithio dan reolau carchar, neu'n rhywun sy'n cael ei gadw dan ddeddfau mewnfudo ac yn gweithio mewn Canolfan Symud o'r Wlad dan ei rheolau hi, nid oes gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Pobl sy'n byw mewn cymuned grefyddol neu gymuned arall
Os ydych chi'n byw mewn cymuned grefyddol neu gymuned arall (heblaw cymunedau sy'n ysgolion annibynnol neu sy'n darparu addysg bellach neu addysg uwch) nid oes gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol am unrhyw waith a wnewch i'r gymuned. I hyn fod yn gymwys, mae'n ofynnol bod ymarfer neu annog cred grefyddol neu debyg yn un o ddibenion y gymuned, a rhaid i rai, neu bob un, o'i haelodau fod yn byw gyda'i gilydd at y diben hwn. Rhaid i'r gymuned hefyd fod yn elusen neu rhaid ei bod wedi'i sefydlu gan elusen.
Mae’r llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith yn rhoi cymorth a chyngor cyfrinachol ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a gall ddelio â galwadau mewn dros 100 o ieithoedd. Os nad ydych yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a chithau â hawl iddo gallwch wneud cwyn wrth linell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith.