Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gweithwyr sydd â hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Mae gan bron bob gweithiwr yn y DU yr hawl i gael o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Os byddwch yn weithiwr sydd â hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol bydd eich cyflogwr yn torri'r gyfraith os na fydd yn ei dalu.

Pwy sy'n weithiwr at ddibenion yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol?

Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio

I gael help a chyngor cyfrinachol ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ffoniwch 0800 917 2368

Byddwch yn weithiwr sydd â hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol os:

  • oes gennych gontract cyflogaeth
  • oes gennych gontract i wneud gwaith neu ddarparu gwasanaethau'n bersonol i'ch cyflogwr
  • nad ydych yn hunangyflogedig o dan y contract

Nid oes rhaid i'r contract fod yn un ysgrifenedig, gall fod ar lafar neu ymhlyg. Dilynwch y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth am gontractau.

Nid yw cofrestru'n hunangyflogedig at ddibenion treth o reidrwydd yn eich gwneud yn hunangyflogedig at ddibenion yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mynnwch fwy o wybodaeth am y statws hunangyflogedig.

Mathau penodol o weithwyr sydd â hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Weithiau ceir dryswch ynghylch p'un a oes gan fathau penodol o weithwyr yr hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Os byddwch yn un o'r mathau canlynol o weithwyr, dylech gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol:

Gweithwyr asiantaeth

Os byddwch yn weithiwr asiantaeth bydd gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Ystyrir pwy bynnag sy'n eich talu, sef yr asiantaeth fel arfer yn hytrach na phwy bynnag y cewch eich anfon ato i weithio, fel eich cyflogwr at ddibenion yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Prentisiaid

Mae gan brentisiaid yr hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol - naill ai'r gyfradd prentis neu un o'r cyfraddau uwch. Bydd pa un y bydd gennych hawl i'w gael yn dibynnu ar eich oedran a ph’un a ydych ym mlwyddyn gyntaf eich prentisiaeth o hyd.

Mae prentisiaid at ddibenion yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol naill ai'n weithwyr sydd â chontractau prentisiaeth neu'n weithwyr sy'n cymryd rhan mewn cynlluniau hyfforddiant a gaiff eu trin fel petai ganddynt gontract prentisiaeth. Mae'r cynlluniau fel a ganlyn:

  • yn Lloegr - Prentisiaethau neu Uwch Brentisiaethau
  • yn yr Alban - Prentisiaethau Modern
  • yng Ngogledd Iwerddon - ApprenticeshipsNI neu Brentisiaethau Modern
  • yng Nghymru - Prentisiaethau Sylfaenol, Prentisiaethau Modern, Prentisiaethau Modern Sylfaenol neu Brentisiaethau

Hyfforddeion neu weithwyr ar gyfnod prawf

Os byddwch yn hyfforddi ar gyfer swydd neu os byddwch ar gyfnod prawf, yna bydd gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o hyd. Mae eithriadau i rai prentisiaid a gweithwyr ar gyrsiau hyfforddi.

Cynlluniau cyflogaeth y llywodraeth

Gall pobl sy'n cymryd rhan mewn rhai o gynlluniau cyflogaeth y llywodraeth, fel y Fargen Newydd, fod â hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Os byddwch yn cymryd rhan mewn cynllun arall gan y llywodraeth efallai y cewch fudd-daliadau yn lle'r isafswm cyflog. Holwch y trefnwyr i gadarnhau p'un a fyddwch yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol os byddwch yn cymryd rhan yn y Fargen Newydd neu gynllun arall gan y llywodraeth.

Profiad gwaith a lleoliadau proffesiynol

Gall profiad gwaith fod â thâl neu'n ddi-dâl, yn dibynnu ar y trefniadau a fydd gennych gyda'ch cyflogwr.

Gweithwyr fesul tasg

Os cewch eich talu yn ôl nifer yr eitemau a gynhyrchir neu'r tasgau a gyflawnir gennych, rhaid i chi gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf am bob awr y byddwch yn gweithio neu'r hyn a elwir yn gyfradd fesul tasg 'deg' ar gyfer pob darn a gynhyrchir neu dasg a gyflawnir. Mae rheolau arbennig ar gyfer cyfrifo hyn.

Gweithwyr comisiwn

Os cewch eich talu'n gyfan gwbl neu'n rhannol yn ôl canlyniadau, er enghraifft y gwerthiannau a wneir neu'r deliau a gwblheir, bydd gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Gweithwyr o gartref

Os byddwch yn gweithio o gartref mae gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, oni fyddwch yn rhedeg eich busnes eich hun.

Gweithwyr gydag anabledd

Os ydych yn anabl bydd gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, oni fyddwch yn gwneud gweithgareddau sy'n ymwneud â'r gwaith am resymau therapiwtig yn unig, heb unrhyw rwymedigaeth gytundebol i weithio na hawl i unrhyw daliad neu ddyfarniad arall.

Gweithwyr amaethyddol

Mae gan weithwyr amaethyddol sy'n dod o dan gyfreithiau cyflogau amaethyddol yr hawl i gael yr Isafswm Cyflog Amaethyddol yn hytrach na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Ni ellir talu llai na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i weithiwr amaethyddol. Rhaid talu mwy na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i rai gweithwyr amaethyddol gan fod cyfradd Isafswm Cyflog Amaethyddol uwch.

Gweithwyr tramor

Os ydych yn weithiwr o'r tu allan i'r DU a'ch bod yn gweithio yn y DU yn gyfreithlon, bydd gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Nid oes gwahaniaeth am ba hyd y byddwch yn aros yma na ph'un a yw eich cyflogwr wedi'i leoli yn y DU neu'n rhywle arall.

Morwyr

Os ydych yn forwr ac yn eich contract rydych yn gweithio, neu fel arfer yn gweithio, yn y DU (sy'n cynnwys ei dyfroedd mewnol, sy'n golygu aberoedd a'r môr rhwng tir mawr y DU a sawl ynys) mae gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae hyn yn gymwys waeth ble mae eich llong wedi ei chofrestru.

Mae rheolau arbennig ar gyfer morwyr sy'n gweithio ar longau a gofrestrir yn y DU sy'n golygu bod gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, waeth ble yn y byd y bydd eich llong, oni fyddwch yn gweithio'n gyfan gwbl y tu allan i'r DU neu os na fyddwch fel arfer yn byw yn y DU.

Gweithwyr ar y môr

Os ydych yn gweithio neu fel arfer yn gweithio mewn dyfroedd tiriogaethol y DU neu yn y DU neu sector tramor y sgafell gyfandirol (er enghraifft, ar rigiau olew) bydd gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Nid yw hyn yn gymwys i weithwyr ar longau sydd wrthi'n mordwyo neu sy'n treillio neu'n pysgota.

Rhaglenni Cronfa Gymdeithasol Ewrop

Os byddwch yn cymryd rhan mewn rhaglen a gefnogir yn ariannol gan Gronfa Ariannol Ewrop a bod gennych gontract cyflogaeth gyda'ch cyflogwr, bydd gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Ni fydd hyn yn gymwys os byddwch ar brawf gyda darpar gyflogwr posibl sy'n para dim mwy na chwe wythnos.

Gweithio dramor

Os byddwch fel arfer yn gweithio yn y DU ond eich bod yn gweithio y tu allan i'r DU dros dro, bydd gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU