Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Cael gwybod sut mae cyfrifo a ydych yn cael o leiaf y gyfradd Isafswm Cyflog Cenedlaethol ai peidio os yw'ch cyflogwr yn darparu llety i chi. Mae’r cyfrifiad yn dibynnu ar sut y bydd eich cyflogwr yn darparu’r llety i chi.
Os yw'ch cyflogwr yn darparu llety i chi, gall rhywfaint o werth y llety hwnnw gyfrannu at eich Isafswm Cyflog Cenedlaethol (ICC). Gelwir hyn yn osod costau llety yn erbyn eich cyflog. Ni chaiff eich cyflogwr gyfrif mwy na'r gyfradd gosod yn erbyn llety sydd mewn grym ar gyfer unrhyw adeg benodol.
Er 1 Hydref 2011, yr isafswm y caiff eich cyflogwr gyfrannu at eich cyflog ICC fel gosod costau llety yn erbyn eich cyflog yw:
Nid yw'n gwneud gwahaniaeth p'un ai:
Ym mhob achos, ni chaiff eich cyflogwr gyfrif mwy na'r gyfradd gosod costau llety yn erbyn cyflog at eich ICC. Nid yw'n gwneud gwahaniaeth chwaith p'un ai a fyddech wedi gallu dewis peidio â byw yn y llety. Os byddwch yn dewis byw ynddo, gellir gosod costau'r llety yn erbyn eich cyflog.
Beth sy'n cyfrif fel darparu llety?
Yn ogystal â'r llety ei hun, mae unrhyw daliadau y mae'n rhaid i chi eu talu i'ch cyflogwr ar gyfer nwy, trydan, golchi a dodrefn yn cael eu hychwanegu at y rhent er mwyn cyfrifo'r costau llety y gellir eu gosod yn erbyn eich cyflog.
Gellir gosod costau llety yn erbyn eich cyflog yn yr amgylchiadau canlynol:
Os mai rhywun arall, nid eich cyflogwr, sy'n darparu'r llety, ond mae cysylltiad rhwng eich cyflogwr a'ch landlord, ystyrir mai eich cyflogwr sy'n ei ddarparu yn ôl rheolau'r ICC.
Fel arfer, gellir gosod cost llety yn erbyn eich cyflog hyd yn oed os nad oes cysylltiad rhwng y swydd a'r llety. Mae eithriad i hyn os ydych yn gweithio i ddarparwr tai cymdeithasol (naill ai awdurdod lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig) ac yn byw mewn llety a ddarperir gan eich cyflogwr. Yn yr achosion hyn, dim ond os ceir cysylltiad rhwng eich swydd a darpariaeth y llety y gellir gosod y costau llety yn erbyn eich cyflog, er enghraifft warden gofal sy'n gorfod byw ar y safle.
Buddion ymarferol eraill
Yn ogystal â llety, nid oes dim i rwystro'ch cyflogwr rhag rhoi 'buddion ymarferol' eraill i chi, megis gwisg neu brydau bwyd. Fodd bynnag, llety yw'r unig fudd ymarferol sy'n gallu cyfrannu at eich ICC. Ni chaiff eich cyflogwr gynnig gwerth prydau na gwisg (er enghraifft) fel rhan o becyn sy'n cyfrannu at yr ICC. Os bydd yn didynnu swm sy'n cynrychioli cost prydau neu wisg o'ch cyflogau, rhaid i'r hyn sy'n weddill, ar gyfartaledd (gan ganiatáu ar gyfer didyniadau a ganiateir gan reolau'r ICC) fod yr un faint â'r ICC neu'n uwch.
Cymorth a chyngor cyfrinachol ar y ICC
0800 917 2368
Mae sut y byddwch yn cyfrifo a ydych yn cael yr ICC ai peidio pan fydd eich cyflogwr yn darparu llety yn amrywio yn ôl eich amgylchiadau.
Gall fod yn gymhleth cyfrifo'r costau llety sy'n cael eu gosod yn erbyn eich cyflog, felly efallai y byddwch am gysylltu â llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith. Mae Business Link yn darparu cyfrifiannell i helpu cyflogwyr i ddeall eu cyfrifoldebau ICC, a all fod yn ddefnyddiol i chi.
Cyn cyfrifo sut mae gosod llety yn erbyn eich cyflog yn effeithio ar eich cyflog, dylech ddarllen 'Cyfrifo'r ICC: y pethau pwysig'. Bydd yr erthygl yn egluro rhai o'r termau sylfaenol, megis ‘cyfnod cyfeirnod cyflog’ a ‘chyflog gros’.
Didyniadau rhent gan eich cyflogwr
Os yw'ch cyflogwr yn didynnu rhent o'ch cyflog (neu os ydych yn gorfod talu rhent iddo), dylech ddilyn y camau syml hyn.
Cam un: cyfrifwch eich cyflog gros dros y cyfnod cyfeirnod cyflog
Cam dau: cyfrifwch y gost ar gyfer llety y gall eich cyflogwr ei osod yn erbyn eich cyflog, a'i gymharu â'r rhent a godir
Os yw'r rhent y mae'ch cyflogwr yn ei godi arnoch yn uwch na'r swm sy'n cael ei osod yn erbyn eich cyflog, dyma'r camau nesaf:
Cam tri: didynnwch swm y rhent o'ch cyflog gros
Cam pedwar: adiwch y costau llety sy'n cael eu gosod yn erbyn eich cyflog
Cam pump: rhannwch y cyfanswm gyda nifer yr oriau a weithiwyd
Drwy wneud hyn fe welwch faint o gyflog y byddwch yn ei gael fesul awr at ddibenion yr ICC.
Fodd bynnag, os yw'ch cyflogwr yn codi llai o rent arnoch na'r swm ar gyfer llety y gellir ei osod yn erbyn eich cyflog, neu os yw'n union yr un fath, ni fydd hyn yn effeithio o gwbl ar eich ICC. Felly ar ôl cam dau, y cam olaf yw rhannu eich cyflog gros gyda nifer yr oriau yr ydych wedi'u gweithio.
Darparu llety fel rhan o becyn
Os yw'ch cyflogwr yn darparu llety fel rhan o becyn yn hytrach na chodi tâl arnoch yn uniongyrchol amdano, dylech ddilyn y camau hyn:
Cam un: cyfrifwch eich cyflog gros dros y cyfnod cyfeirnod cyflog
Cam dau: cyfrifwch gost y llety y gall eich cyflogwr ei osod yn erbyn eich cyflog
Cam tri: adiwch gost y llety y gall eich cyflogwr ei osod yn erbyn eich cyflog at eich cyflog gros
Cam pedwar: rhannwch y cyfanswm gyda nifer yr oriau a weithiwyd.
Cyfrifiad enghreifftiol
Rydych yn weithiwr 22 oed sy'n cael £6.40 yr awr am weithio 40 awr yr wythnos. Bydd eich cyflogwr yn tynnu £50 yr wythnos am lety a ddarperir am saith niwrnod yr wythnos.
Cam un: cyfrifwch eich tâl sylfaenol dros y cyfnod cyfeirnod cyflog (£6.40 x 40 awr = £256 o dâl sylfaenol bob wythnos)
Cam dau: cyfrifwch y swm ar gyfer llety y caiff eich cyflogwr ei osod yn erbyn eich cyflog (£4.73 y gyfradd ddyddiol ar gyfer gosod costau llety yn erbyn eich cyflog x saith niwrnod = £33.11)
Cam tri: mae'r swm y mae eich cyflogwr yn ei godi arnoch am rent yn uwch na'r swm ar gyfer llety y caiff eich cyflogwr ei osod yn erbyn eich cyflog, felly tynnwch y rhent o'ch cyflog gros (£256 - £50 = £206)
Cam pedwar: adiwch y costau llety y gellir eu gosod yn erbyn eich cyflog (£206 + £33.11 = £239.11)
Cam pump: rhannwch y ffigur gyda'r oriau a weithiwyd (£239.11/40 = £5.97 yr awr)
Mae'r swm yn is na chyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol y mae gennych hawl iddo, felly dylech godi hyn gyda'ch cyflogwr neu gysylltu â llinell gymorth yr ICC.
Mae llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith yn rhoi cymorth a chyngor cyfrinachol ar yr ICC mewn dros 100 o ieithoedd. Os nad ydych yn cael yr ICC, gallwch wneud cwyn i’r llinell gymorth. Os nad ydych yn cael eich talu yr ICC gallwch gysylltu â’r Llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith neu ddefnyddio’r ffurflen ymholiadau neu gwyno ar-lein.