Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Er 1 Hydref 2009, ni all taliadau gwasanaeth, cildwrn nac arian rhodd gyfrannu at eich tâl Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Yma cewch wybod beth mae hyn yn ei olygu os ydych yn derbyn cildwrn fel rhan o’ch cyflog a pha gyfrifoldebau sydd gan eich cyflogwr
Rhaid i unrhyw daliadau gwasanaeth, cildwrn ac arian rhodd fod yn ychwanegol at eich cyfradd Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae hyn yn berthnasol ble bynnag rydych yn gweithio.
Does dim ots ychwaith sut mae’ch cyflogwr yn talu’r cildwrn i chi, boed yn:
Dylech dynnu cyfanswm y cildwrn o’ch cyflog gros cyn cyfrifo a yw eich cyflog yn cyrraedd o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Eich cyflog gros yw eich cyflog cyn unrhyw ddidyniad megis treth, Yswiriant Gwladol neu fenthyciad myfyriwr.
Mae Cod Arfer Gorau ar daliadau gwasanaeth, cildwrn, arian rhodd a chostau gorfodol yn awgrymu ffyrdd i fusnesau ymdrin â thaliadau gwasanaeth, cildwrn ac arian rhodd.
Dylai busnesau sicrhau bod y gweithwyr yn deall polisi’r cwmni ar gildwrn ac ati, gan gynnwys:
Ceir hefyd awgrymiadau ynghylch yr wybodaeth y dylai eich cyflogwr ystyried ei rhoi i gwsmeriaid
Os yw’ch cyflogwr yn bodloni’r Cod, dylai roi polisi’r cwmni ar gildwrn ac ati i chi mewn datganiad ysgrifenedig.
Dylai’r datganiad gynnwys:
Os yw’ch cyflogwr yn talu cildwrn i chi heb ddidyniadau Yswiriant Gwladol, dylai ddweud wrthych. Gall hyn effeithio ar eich hawl i gael budd-daliadau nawdd cymdeithasol.
Mae’r Cod yn cynghori'ch cyflogwr i geisio dod i gytundeb ynghylch newidiadau i’w bolisïau ar gildwrn ac ati ar gyfer ei weithwyr.
Tronc yw trefniant i gyfuno a dosbarthu taliadau gwasanaeth, cildwrn ac arian rhodd i weithwyr. Troncfeistr yw’r person sy’n dosbarthu’r arian o’r tronc.
Nid oes rhaid i fusnesau ddilyn y Cod, gan nad yw ond yn cynnig arfer da wrth ddelio ag arian cildwrn.
Os oes gennych gwestiwn am gildwrn a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith. Gallwch hefyd gysylltu â’r Llinell Gymorth i gwyno nad yw’ch cyflogwr yn parchu’ch hawliau i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Gallwch ffonio’r llinell gymorth ar 0800 917 2368, neu ddefnyddio'r ffurflen ymholiadau neu ffurflen gwyno ar-lein.