Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n credu nad ydych yn cael digon o gyflog, gallwch edrych ar gofnodion Isafswm Cyflog Cenedlaethol eich cyflogwr, neu ofyn i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi edrych ar y mater ar eich rhan. Gallwch gysylltu â llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith i gael cyngor cyfrinachol yn rhad ac am ddim.
Yn gyntaf oll dylech geisio sicrhau eich bod wedi cyfrifo'ch cyflog yn gywir. Mae gan y rhan fwyaf o gyflogeion hawl i ddogfen ysgrifenedig sy'n nodi cyfradd eu cyflog neu sut mae'n cael ei gyfrifo. Os nad ydych chi'n meddwl eich bod yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (ICC), yn gyntaf oll, ceisiwch siarad â'ch cyflogwr - mae'n ddigon posib mai wedi gwneud camgymeriad y mae.
Os ydych chi dal yn anfodlon ar ôl cael sgwrs â'ch cyflogwr, mae gennych hawl i gael gweld eu cofnodion cyflog. Rhaid i chi ofyn i'ch cyflogwr yn ysgrifenedig, a rhaid iddo yntau ddarparu'r cofnodion i chi o fewn 14 diwrnod i'ch cais, neu ar ddyddiad y bydd y ddau ohonoch yn cytuno arno.
Gallwch fynd â rhywun arall gyda chi i archwilio'r cofnodion, ar yr amod bod eich cais ysgrifenedig yn dweud y bydd rhywun yn dod gyda chi. Chi sy'n penderfynu pwy i fynd gyda chi - ni fydd gan eich cyflogwr lais yn y mater. Cewch wneud copi o'r cofnodion os dymunwch.
Cymorth a chyngor cyfrinachol ar y ICC
0800 917 2368
Os nad oes arnoch eisiau siarad â'ch cyflogwr, gallwch ffonio llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith a gofyn am help i hawlio'r ICC. Bydd eich galwad yn gyfrinachol a chodir y gyfradd leol ar alwadau.
Gellir ymchwilio i'ch cwyn ar eich rhan a gellid gorchymyn i'ch cyflogwr dalu unrhyw ôl-daliadau sy'n ddyledus i chi. Gan ddechrau ar 6 Ebrill 2009, bydd gennych hawl i gael yr ôl-daliadau ar gyfradd gyfredol yr ICC, os yw'n uwch na'r gyfradd a oedd mewn grym pan oedd yr ôl-daliadau'n ddyledus.
Gallwch gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth os nad yw'ch cyflogwr yn gadael i chi weld eu cofnodion cyflog. Os byddwch yn ennill yr achos, bydd y Tribiwnlys Cyflogaeth yn gorchymyn i'ch cyflogwr dalu swm sy'n cyfateb i 80 gwaith yr ICC fesul awr, fel y mae adeg gwneud y gorchymyn.
Os nad yw'ch cyflogwr yn talu eich ôl-daliadau, gall Cyllid a Thollau EM gyflwyno hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth neu lys sifil ar eich rhan er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr arian. Neu, gallwch chi gyflwyno eich hawliad eich hun am ddidyniadau anghyfreithlon o'ch cyflog, neu am dorri contract drwy Dribiwnlys Cyflogaeth (os yw'ch cyflogaeth wedi dod i ben) neu drwy lys sifil.
Os yw'ch cyflogwr yn eich diswyddo am resymau penodol yn ymwneud â'r ICC, bydd y diswyddiad yn cael ei ystyried yn annheg yn awtomatig a gallwch gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth. Dyma'r rhesymau:
Gallwch hefyd gwyno wrth dribiwnlys os ydych chi'n credu bod eich cyflogwr yn eich trin yn wael mewn rhyw ffordd arall, heb eich diswyddo, am y rhesymau hynny.
Mae llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith yn rhoi cymorth a chyngor cyfrinachol ar yr ICC mewn dros 100 o ieithoedd. Os nad ydych yn cael yr ICC gallwch wneud cwyn i’r llinell gymorth.