Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall cyflogwyr a gweithwyr fod yn gyfrifol am dorri contract cyflogaeth - felly mae'n bwysig gwybod beth yw ystyr hynny a beth y dylech ei wneud os byddwch chi neu'ch cyflogwr yn torri'ch contract.
Cytundeb sy'n eich rhwymo chi a'ch cyflogwr yn gyfreithlon yw contract cyflogaeth. Bydd contract yn cael ei dorri pan fydd naill ai eich cyflogwr neu chi'n torri un o'r telerau. Er enghraifft, os na fydd eich cyflogwr yn talu'ch cyflog, neu os na fyddwch chi'n gweithio'r oriau y cytunwyd arnynt.
Ni chaiff holl delerau'r contract eu hysgrifennu. Mae'n bosib y bydd yr amod yn y contract sy'n cael ei dorri'n amod a gytunwyd ar lafar, yn ysgrifenedig, neu'n amod 'ddealledig'.
Mae eich cyflog wedi'i warchod gan amodau arbennig ac mewn rhai sefyllfaoedd, chaiff eich cyflogwr ddim tynnu arian o'ch cyflog hyd yn oed pe na bai hynny'n torri'r contract.
Os tybiwch fod eich contract wedi'i dorri, darllenwch delerau eich contract yn ofalus i wneud yn siŵr. Os oes, dylech geisio datrys y broblem yn uniongyrchol gyda'ch cyflogwr yn gyntaf.
Cyn cymryd camau cyfreithiol, fe allech roi cynnig ar ffyrdd eraill o ddatrys yr anghydfod os bydd eich cyflogwr yn cytuno i hynny. Er enghraifft, mae'n bosib y dewiswch gyfryngu drwy Acas (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu).
Os na allwch chi ddatrys y broblem gyda'ch cyflogwr, fe allwch benderfynu cymryd camau cyfreithiol. Meddyliwch yn ofalus cyn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn eich cyflogwr. Holwch eich hun beth rydych chi'n gobeithio'i gyflawni a faint fydd cost hynny.
Cofiwch mai dim ond os gallwch chi brofi i chi gael colled ariannol go iawn (a elwir yn 'iawndal') y cewch chi iawndal (er enghraifft, os nad yw eich cyflogwr yn talu cyflog i chi) - does dim iawndal ar gyfer trallod neu frifo teimladau.
Hefyd, cofiwch y gall cymryd camau cyfreithiol brocio'ch cyflogwyr i wneud gwrth-hawliad yn eich erbyn os ydyn nhw'n teimlo bod ganddyn nhw achos o'r fath.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, byddai'n beth da siarad â nhw cyn cymryd unrhyw gamau cyfreithiol, gan fod rhai undebau'n darparu gwasanaeth cynghori cyfreithiol ar gyfer eu haelodau. Neu, fe allech siarad â thwrnai, neu drafod eich achos gydag un o gynghorwyr Acas.
Tribiwnlysoedd Cyflogaeth
Os penderfynwch chi gymryd camau cyfreithiol, gellir gwneud hynny naill ai drwy Dribiwnlys Cyflogaeth neu drwy lys sifil.
Er mwyn gwneud hawliad torri contract drwy Dribiwnlys Cyflogaeth, mae'n rhaid i'ch cyflogaeth fod wedi dod i ben. Ceir cyfyngiadau ar y mathau o hawliadau y gellir eu gwneud, er enghraifft, ni allwch wneud hawliad anaf personol drwy'r Tribiwnlys Cyflogaeth.
Mae Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn rhatach ac yn gynt yn aml na'r llysoedd sifil.
Llysoedd sifil
Er mwyn gwneud hawliad a chithau'n dal i fod yn gyflogedig, fel arfer, byddwch yn mynd drwy drefn hawliadau bach y llys sirol neu lys sifil arall.
Mae'r terfyn amser ar gyfer gwneud eich hawliad i lys sifil yn hwy na'r terfyn amser ar gyfer cwyno i Dribiwnlys Cyflogaeth. Mae'r dyfarniad y gallai llys sifil ei wneud yn ddiderfyn.
Os byddwch yn torri eich contract, dylai eich cyflogwr geisio datrys y broblem gyda chi'n anffurfiol. Os bydd eich cyflogwr yn dioddef colled ariannol oherwydd eich bod wedi torri contract, gall wneud cwyn am iawndal yn eich erbyn.
Byddai eich cyflogwr fel arfer yn defnyddio llys sirol ar gyfer hawliad am dorri contract. Yr unig ffordd y gallai eich cyflogwr wneud cais i Dribiwnlys Cyflogaeth yw fel ymateb i hawliad torri contract yr ydych wedi'i wneud.
Dim ond am golled ariannol y dyfernir iawndal. Er enghraifft, os na fyddwch chi wedi rhoi digon o rybudd, fe allai'r iawndal fod ar gyfer cost ychwanegol cyflogi staff dros dro i wneud eich gwaith, neu am golli refeniw. Byddai dal gennych yr hawl i'r cyflog a enillwyd gennych cyn i chi adael, a thâl am unrhyw wyliau statudol sydd heb eu cymryd.
Y ffordd fwyaf cyffredin i gyflogai dorri contract yw pan fydd rhywun yn rhoi'r gorau i weithio heb roi (neu heb weithio) cyfnod o rybudd priodol, neu pan fyddwch chi'n mynd i weithio i rywun sy'n cystadlu yn erbyn eich cyflogwyr yn groes i'ch contract.
Mae'n bosib ateb y rhan fwyaf o gwestiynau am dorri contract drwy edrych ar delerau eich contract.
Ni fyddwch o anghenraid yn cael tâl am oriau na fyddwch chi'n eu gweithio, ond dylai eich cyflogwyr fod yn ofalus ynghylch rhoi mwy o gosb ariannol i chi ar ben hynny. Os nad oes dim byd yn eich contract sy'n galluogi eich cyflogwr i wneud hynny, mae'n rhaid iddo dalu'r hyn rydych wedi'i ennill. Yna dylai benderfynu a yw am eich siwio am unrhyw arian y mae wedi'i golli oherwydd eich bod yn hwyr.
Mae eich cyflog bob amser yn cael ei dalu'n hwyr i chi - ydy hyn yn enghraifft o dorri contract?
Bydd peidio â'ch talu ar yr adeg iawn yn aml yn golygu bod eich cyflogwr yn torri'r contract. Os gallwch chi brofi i chi ddioddef colled ariannol (er enghraifft, gorfod talu ffioedd gorddrafft), gallwch hawlio hyn yn ôl fel iawndal. Siaradwch â'ch cyflogwr gyntaf. Os bydd yn dal i ddigwydd, fe allech geisio gael gwaharddeb llys i'w hatal rhag torri'r contract fel hyn eto.
Beth yw diswyddo anghyfreithlon?
Torri contract wrth eich diswyddo yw hyn (er enghraifft, heb roi rhybudd priodol i chi neu heb ddilyn y drefn sydd yn eich contract). Gallwch gymryd camau yn yr un ffordd ag y byddech ar gyfer unrhyw enghraifft o dorri contract.
Gallwch. Bydd y contract yn cael ei wneud yn syth pan fyddwch chi'n derbyn y cynnig ac mae'r ddwy ochr wedi'u rhwymo gan delerau'r contract hyd nes y caiff ei derfynu.
Mae rhai contractau'n caniatáu i'r cyflogwr newid pethau. Os nad yw eich contract chi'n gwneud hyn, rhaid i chi a'ch cyflogwr gytuno ar unrhyw newid. Mae newid pethau heb gytundeb yn enghraifft o dorri contract.