Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn delio ag anghydfodau cyfreithiol yn y gweithle. Cyn gwneud cais i Dribiwnlys Cyflogaeth, mynnwch wybod beth ydynt, p'un a allwch wneud hawliad, a ble y gallwch gael help a chyngor.
Mae canllawiau ar gael mewn Braille, ar dâp sain, mewn print bras, ar ddisg ac mewn ieithoedd eraill hefyd
Ffoniwch 0845 7959 775
Mae Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn gwrando achosion sy'n ymwneud ag anghydfodau cyflogaeth nad ydynt wedi'u datrys mewn unrhyw ffordd arall. Er bod gwrandawiad Tribiwnlys Cyflogaeth yn llai ffurfiol na gwrandawiad llys, mae'r penderfyniadau a wneir gan Dribiwnlysoedd Cyflogaeth yn gyfreithiol gyfrwymol ac mae'n rhaid cydymffurfio â hwy.
Noder nad eich cyflogwr yw'r unigolyn y mae gennych anghydfod gydag ef o reidrwydd. Efallai mai eich undeb llafur neu gorff proffesiynol rydych yn aelod ohono ydyw.
Byddwch yn rhoi tystiolaeth ar ôl tyngu llw neu wneud cadarnhad, ac os byddwch yn dweud celwydd gallwch gael eich collfarnu am gyflawni anudon.
Fel arfer caiff achosion eu gwrando gan banel o dri unigolyn a elwir yn 'Dribiwnlys' - gan gynnwys Barnwr Cyflogaeth sy'n meddu ar gymwysterau cyfreithiol, a dau aelod 'lleyg' nad ydynt yn ymwneud â'r gyfraith yn broffesiynol sydd â phrofiad o ddelio â phroblemau'n ymwneud â chyflogaeth o safbwynt cyflogwyr a chyflogeion.
Am fod Barnwyr Tribiwnlysoedd ac aelodau nad ydynt yn ymwneud â'r gyfraith yn broffesiynol yn gwbl annibynnol ac nad ydynt yn rhan o'r llywodraeth, maent yn gwneud penderfyniadau'n ddiduedd. Mae eu dyfarniadau'n seiliedig ar y gyfraith, ar dystiolaeth ac ar y dadleuon a gyflwynir iddynt.
Mae gan yr aelodau nad ydynt yn ymwneud â'r gyfraith yn broffesiynol wybodaeth am weithdrefnau yn y gweithle y gallant ei defnyddio yn yr achos. Weithiau bydd y Barnwr Cyflogaeth yn gwrando'r achos ar ei ben ei hun - er enghraifft, i nodi'r materion yn yr achos y bydd y gwrandawiad llawn yn delio â hwy neu i ddelio â hawliadau ariannol a achosir pan gaiff eich cyflogaeth ei therfynu.
Ni chodir tâl am wneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth. Felly oni bai eich bod yn talu cynrychiolydd (er enghraifft, cyfreithiwr) fel arfer ni fydd cost am wneud hawliad.
Fodd bynnag, gall y Tribiwnlys Cyflogaeth orchymyn i chi dalu costau (a elwir yn dreuliau yn yr Alban) os yw o'r farn eich bod chi neu eich cynrychiolydd wedi ymddwyn yn 'afresymol' yn ystod yr achos.
Yn aml, mae'n well ceisio datrys problemau gyda'ch cyflogwr yn ffurfiol cyn gwneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth. Siaradwch â'ch cyflogwr - efallai bod camddealltwriaeth rhyngoch neu efallai y gallwch ddod i gytundeb.
Os nad yw hyn yn bosibl, ceisiwch ddatrys y broblem drwy broses gwyno neu ddisgyblu eich cyflogwr - gallech hefyd geisio help cyfryngwr neu gymodwr trydydd parti.
Mae Cod Ymarfer Acas sy'n disgrifio safon ymddygiad resymol ar gyfer delio â chwynion a materion disgyblu yn y gwaith. Yn y rhan fwyaf o achosion, gan Tribiwnlysoedd Cyflogaeth benderfynu dyfarnu arian i chi os byddwch yn ennill eich achos. Gellir cynyddu neu leihau swm yr arian y maent yn ei ddyfarnu hyd at 25 y cant os byddant yn penderfynu bod y naill ochr neu'r llall wedi bod yn afresymol drwy beidio â dilyn y Cod. Am fwy o wybodaeth, dilynwch y dolenni isod.
Dim ond achosion sy'n ymwneud â hawliau penodol y gall Tribiwnlys Cyflogaeth eu penderfynu, felly mae'n bwysig eich bod yn gwybod yn union beth rydych yn ei hawlio. Er enghraifft, os ydych yn cwyno am nad ydych wedi cael eich talu, fe'i gelwir yn 'didyniadau anghyfreithlon o gyflog'. Os ydych yn credu bod eich cyflogwr yn eich trin yn llai ffafriol am eich bod yn anabl, 'gwahaniaethu ar sail anabledd' ydyw. Ymhlith yr amrywiaeth o gwynion y mae'r Tribiwnlys Cyflogaeth yn delio â hwy mae:
Mae llawer mwy. Ceir rhestr lawn drwy ddilyn y ddolen isod, 'Mynnwch wybod pa fathau eraill o gwynion y gall Tribiwnlys Cyflogaeth eu gwrando'. Fel arall gallwch ffonio Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) neu linell gymorth ymholiadau cyhoeddus Tribiwnlysoedd Cyflogaeth os oes angen i chi wybod a all Tribiwnlys Cyflogaeth ddelio â'r hyn rydych am wneud hawliad ar ei gyfer.
Yn y rhan fwyaf o achosion, rhaid i chi wneud cais o fewn tri mis i'r dyddiad:
Fel arfer, ni fydd Tribiwnlys Cyflogaeth yn derbyn hawliadau a dderbynnir ar ôl y terfyn amser perthnasol. O dan amgylchiadau eithriadol iawn, gall Tribiwnlysoedd Cyflogaeth ymestyn y terfyn amser hwn. Gallwch gadarnhau hwn drwy ffonio llinell ymholiadau cyhoeddus Tribiwnlysoedd Cyflogaeth ar 08457 959 775. Dylech weithredu'n gyflym i gael mwy o wybodaeth os ydych yn credu bod eich hawliad y tu hwnt i'r terfyn amser yn barod neu os yw diwedd y cyfnod o dri mis yn agos.
Cyn gwneud hawliad, dylech geisio cael cyngor ar sut y gallech ddatrys eich cwyn heb yr angen i fynd i Dribiwnlys Cyflogaeth.
Mae Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) yn cynnig cyngor diduedd a chyfrinachol am ddim ar bob mater yn ymwneud â hawliau cyflogaeth.
Gallwch hefyd gael cyngor gan undeb llafur os ydych yn aelod neu gan wasanaethau megis Canolfan Cyngor ar Bopeth.
Nid oes angen i chi ddeall y gyfraith i wneud hawliad, ond efallai y bydd yn ddefnyddiol cael cyngor cyfreithiol neu ddod o hyd i rywun i'ch cynrychioli.
Os ydych yn byw yn yr Alban, efallai y gallwch gael cyngor a chymorth proffesiynol am ddim gan gyfreithiwr o dan y cynllun cymorth cyfreithiol. Mae gan Gymdeithas Cyfreithwyr yr Alban restr o gyfreithwyr sy'n arbenigo mewn cyfraith cyflogaeth.
O dan amgylchiadau arbennig, efallai y byddwch yn gallu cael help er mwyn cael cynrychiolaeth gyfreithiol hefyd. Gelwir hyn yn ABWOR – 'cynhorthwy trwy gynrychiolaeth'. Bydd yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon ac mewn anghydfod cyflogaeth, bydd angen i chi gysylltu â Swyddfa'r Tribiwnlysoedd Diwydiannol a'r Tribiwnlys Cyflogaeth Deg (OITFET). Gallwch gael mwy o wybodaeth drwy ddefnyddio'r ddolen isod.