Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi anfon eich ffurflen hawlio i'r Tribiwnlys Cyflogaeth. Mynnwch wybod sut mae'n penderfynu a ddylid derbyn eich hawliad a'r camau nesaf y bydd yn eu cymryd.
Mae canllawiau hefyd ar gael mewn Braille, ar dâp sain, mewn print bras, ar ddisg ac mewn ieithoedd eraill.
Ffoniwch 08457 959 775
Unwaith y caiff eich hawliad ei dderbyn, caiff ei adolygu ac yna ei dderbyn neu ei wrthod.
Os caiff eich hawliad ei dderbyn
Os caiff eich hawliad ei dderbyn, anfonir llythyr atoch yn nodi hyn, ynghyd â llyfryn sy'n esbonio'r camau nesaf.
Os na chaiff eich hawliad ei dderbyn
Ni chaiff eich hawliad ei dderbyn os nad yw ar y ffurflen gywir, neu os nad ydych wedi nodi'r holl wybodaeth angenrheidiol. Os bydd hyn yn digwydd, caiff eich ffurflen ei hanfon yn ôl atoch gyda llythyr yn egluro'r broblem a'r hyn y dylech ei wneud.
Unwaith y caiff eich hawliad ei dderbyn, bydd y Tribiwnlys Cyflogaeth fel arfer yn anfon copi o'ch ffurflen hawlio:
Bydd un o gymodwyr ACAS yn cysylltu â chi i geisio eich helpu i ddatrys y broblem heb fynd i Dribiwnlys Cyflogaeth. Mae'r gwasanaeth hwn am ddim ac mae eich holl drafodaethau ag ACAS yn gyfrinachol. Byddant bob amser ar gael i'ch helpu i ddatrys eich hawliad heb wrandawiad.
Mae'n rhaid i ymatebydd eich achos anfon ymateb o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad yr anfonwyd yr hawliad ato. Gall gael estyniad os caniateir hynny gan y Tribiwnlys Cyflogaeth. Os na fydd yn ymateb yn brydlon, neu os na fydd yn darparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ni chaiff ei ymateb ei dderbyn.
Dyfarniadau oherwydd diffyg
Yn yr achosion hyn, gall y Barnwr Cyflogaeth gyflwyno 'dyfarniad oherwydd diffyg', ac fel arfer bydd yn gwneud hynny. Golyga hyn y bydd yn gwneud penderfyniad ynghylch eich hawliad heb i chi orfod mynd i wrandawiad.
Fodd bynnag, os nad ydych wedi rhoi digon o wybodaeth am yr arian rydych yn ei hawlio, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i 'wrandawiad atebion'. Bydd hyn yn rhoi cyfle i'r Barnwr Cyflogaeth wneud y cyfrifiadau angenrheidiol.
Mae Adran 6 o ffurflen hawlio ET1 yn gofyn am swm yr arian rydych yn ei hawlio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl.
Unwaith y caiff ymateb ei dderbyn, bydd Barnwr Cyflogaeth yn ystyried y ffordd orau o reoli eich achos, a'r math(au) o wrandawiad y bydd angen i chi fynd iddo.
Trafodaethau rheoli achos
Yn ystod trafodaeth rheoli achos, gall y Tribiwnlys Cyflogaeth benderfynu bod angen mwy o wybodaeth gennych chi neu'r ymatebydd (y parti arall) i ddatrys mater penodol. Gall roi cyfarwyddiadau yn ysgrifenedig neu gyflwyno gorchmynion am wybodaeth bellach y mae'n rhaid i chi (neu'r ymatebydd) eu dilyn.
Os byddwch yn penderfynu bod angen mwy o wybodaeth arnoch gan yr ymatebydd, dylech ofyn amdani yn ysgrifenedig, gan roi terfyn amser rhesymol iddo ymateb. Os na fydd yn ymateb, gallwch ofyn i'r Tribiwnlys Cyflogaeth gyflwyno gorchymyn. Dylech wneud hyn cyn gynted â phosibl gan gynnwys copi o'ch cais ysgrifenedig.
Os bydd angen tystion yn y gwrandawiad ac nad ydynt yn fodlon dod o'u gwirfodd, gall y Tribiwnlys Cyflogaeth anfon gorchymyn tyst i'w gorfodi i fynychu.
Bydd trafodaeth rheoli achos fel arfer yn pennu dyddiad, amser a hyd y gwrandawiad llawn. Fel arfer cânt eu cynnal yn breifat gerbron Barnwr Cyflogaeth a fydd yn eistedd ar ei ben ei hun, neu dros y ffôn.
Adolygiadau cyn gwrandawiadau
Os oes unrhyw amheuaeth ynghylch a all y Tribiwnlys Cyflogaeth ddelio â'ch hawliad, gellir cynnal adolygiad cyn y gwrandawiad i wneud penderfyniad.
Os yw'r Barnwr Cyflogaeth o'r farn nad yw eich hawliad (neu unrhyw ran ohono) yn debygol o fod yn llwyddiannus, gall orchymyn i chi dalu blaendal o hyd at £1,000. Cewch gyfle i esbonio ffeithiau sylfaenol eich achos i'r Barnwr Cyflogaeth cyn iddo wneud y penderfyniad hwn.
Mae hyn yn berthnasol i'r rhan benodol honno o'r achos - efallai y bydd rhannau eraill o'r achos na fydd yn rhaid i chi dalu blaendal ar eu cyfer. Nid yw hyn yn digwydd yn aml iawn.
Os byddwch yn colli eich achos, efallai y caiff y blaendal hwn ei ddefnyddio i helpu i ad-dalu'r costau neu'r treuliau yr aeth eich cyflogwr iddynt wrth amddiffyn yr achos. Cofiwch ei bod yn bosibl y ceir mwy o orchmynion costau. Gallwch ffonio llinell ymholiadau cyhoeddus y Tribiwnlys Cyflogaeth ar 08457 959 775 am fwy o wybodaeth.
Fel arfer, cynhelir adolygiadau cyn gwrandawiadau yn gyhoeddus gerbron Barnwr Cyflogaeth a fydd yn eistedd ar ei ben ei hun.
Y gwrandawiad
Byddwch yn cael llythyr yn cynnwys manylion y gwrandawiad - lle y caiff eich achos ei ystyried a phenderfyniad terfynol ei wneud.
Unwaith y caiff eich hawliad ei dderbyn, rhoddir rhif achos iddo. Bydd angen i chi roi'r rhif hwn bob tro y byddwch yn cysylltu â Swyddfa'r Tribiwnlys Cyflogaeth dros y ffôn neu'n ysgrifenedig.
Bydd y Tribiwnlys Cyflogaeth yn eich galw'n 'hawlydd' ac yn galw'r unigolyn rydych yn cwyno yn ei erbyn yn 'ymatebydd' mewn unrhyw lythyrau a anfonir atoch. Bydd hefyd yn anfon copi o'ch hawliad a chopïau o unrhyw ddogfennau neu lythyrau eraill rydych yn eu hanfon at yr ymatebydd. Bydd hefyd yn anfon copïau o'r holl ddogfennau y mae'r ymatebydd yn eu hanfon atoch.
Os byddwch yn symud tŷ, neu'n newid eich manylion cyswllt, dylech sicrhau bod y Tribiwnlys Cyflogaeth yn cael gwybod ar unwaith.
Beth fydd yn digwydd os oes rhywun arall yn eich cynrychioli yn yr achos
Os ydych yn defnyddio cyfreithiwr neu rywun arall i'ch cynrychioli, caiff pob llythyr a phob darn arall o wybodaeth sy'n ymwneud â'ch achos eu hanfon at yr unigolyn hwnnw ac nid atoch chi. Os ydych am ofyn am fwy o wybodaeth gan y Tribiwnlys Cyflogaeth, bydd angen i'ch cyfreithiwr neu eich cynrychiolydd wneud hyn yn eich lle chi.