Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth

Os oes gennych broblem yn y gwaith na ellir ei datrys, efallai eich bod yn ystyried gwneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth. Mynnwch wybod beth i'w wneud er mwyn gwneud hawliad a ble i anfon y ffurflen hawlio.

Cyn gwneud hawliad

Cyn i chi wneud hawliad, bydd yn ddefnyddiol ceisio cyngor arbenigol, yn arbennig ar y canlynol:

  • proses y tribiwnlys
  • y math o dystiolaeth y gallai fod angen i chi ei chyflwyno i ategu eich hawliad

Mae Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) yn cynnig gwybodaeth ddiduedd a chyfrinachol am ddim ar bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.

Bydd Tribiwnlys Cyflogaeth yn ystyried a ydych chi a'ch cyflogwr wedi ceisio datrys y broblem cyn i chi wneud hawliad, yn unol â Chod Ymarfer Acas ar weithdrefnau disgyblu a chwyno.

I gael canllawiau ar ddatrys problemau yn y gwaith dilynwch y dolenni isod.

Cymodi mewn cyn gwneud hawliad

Os byddwch yn teimlo, er gwaetha'r ffaith eich bod wedi gwneud ymdrechion rhesymol i ddatrys y broblem, eich bod yn debygol o wneud hawliad, gallwch chi neu'ch cyflogwr ofyn i un o gymodwyr Acas siarad â'r ddau ohonoch a cheisio eich helpu i ddod i gytundeb.

Sut i wneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth

Os byddwch yn penderfynu cyflwyno hawliad, bydd angen i chi lenwi ffurflen hawlio'r Tribiwnlys Cyflogaeth, sef 'ET1'.

Gallwch gwblhau'r ffurflen ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen isod. Gallwch hefyd weld nodiadau ar sut i lenwi'r ffurflen yn gywir.

Ffyrdd eraill o gael ffurflen hawlio ET1

Mae canllawiau ar gael mewn Braille, ar dâp sain, mewn print bras, ar ddisg ac mewn ieithoedd eraill hefyd
Ffoniwch 08457 959 775

Gallwch hefyd gael ffurflen hawlio ET1 o'r canlynol:

  • unrhyw Ganolfan Cyngor ar Bopeth
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM
  • swyddfa Tribiwnlys Cyflogaeth

Bydd eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol yn gallu eich helpu i gwblhau'r ffurflen os bydd angen. Mae'n syniad da cadw copi o'r ffurflen wedi'i chwblhau ar gyfer eich cofnodion.

Ble i anfon y ffurflen

Fel arfer, cynhelir achosion yn y swyddfa Tribiwnlys Cyflogaeth agosaf at y man lle roeddech yn gweithio fel arfer neu y gwnaethoch gais am waith. Gallwch ddefnyddio'r adnodd ar ddiwedd yr adran hon i ddod o hyd i'r swyddfa agosaf at eich gweithle drwy nodi'r cod post.

Anfonir ffurflenni ar-lein i'r swyddfa gywir yn awtomatig. Fodd bynnag, os bydd y man lle roeddech yn gweithio yn wahanol i brif gyfeiriad eich cyflogwr, sicrhewch eich bod yn nodi cyfeiriad a chod post y man penodol lle roeddech yn gweithio os byddwch am i'r ffurflen gael ei chyfeirio at y swyddfa agosaf at eich gweithle.

Bydd swyddfa'r Tribiwnlys Cyflogaeth yn anfon copi o'r ffurflen at eich cyflogwr ac, yn y rhan fwyaf o achosion, i Acas. Wedyn bydd gan eich cyflogwr 28 diwrnod i ymateb.

Yn yr Alban, caiff pob hawliad ei brosesu gan swyddfa Glasgow yn gyntaf, felly'r drefn orau fyddai anfon eich hawliad yno:

Employment Tribunal office
Eagle Building
215 Bothwell Street
Glasgow
G2 7TS

Fodd bynnag, efallai y bydd yn fwy cyfleus i chi fynd â'ch hawliad i swyddfa Aberdeen, Dundee neu Gaeredin. Gallwch wneud hynny, a chaiff ei anfon i swyddfa Glasgow ar eich rhan.

Employment Tribunal office
Mezzanine Floor
Atoll House
84-88 Guild Street
Aberdeen
AB11 6LT

Employment Tribunal office
2nd Floor
13 Albert Square
Dundee
DD1 1DD

Employment Tribunal office
54-56 Melville Street
Edinburgh
EH3 7HF

Gall anfon eich hawliad i'r swyddfa anghywir achosi oedi. Os nad ydych yn gwybod ble i'w anfon, neu os nad ydych yn gwybod cod post eich gweithle, ffoniwch linell ymholiadau cyhoeddus y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth ar 08457 959 775.

Amodau arbennig ynghylch rhai mathau o hawliad

Os byddwch yn gwneud hawliad ar gyfer ‘torri contract’

Os byddwch yn gwneud hawliad ar gyfer torri contract, dim ond iawndal o hyd at £25,000 y gall y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth ei ddyfarnu. Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen 'Torri Contract' isod.

Os byddwch yn gwneud hawliad ar gyfer ‘diswyddo annheg’

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys ar gyfer 'cymorth dros dro', sef gweithdrefn frys sydd ond ar gael ar gyfer nifer fach o achosion diswyddo annheg. Os bydd y Tribiwnlys Cyflogaeth yn penderfynu eich bod yn gymwys ar gyfer y math hwn o gymorth gall wneud gorchymyn sy'n atal y diswyddiad rhag dod i rym yn llawn cyn bod y Tribiwnlys Cyflogaeth yn ystyried yr achos yn llawn.

Os byddwch am wneud hawliad am y math hwn o gymorth, dylech gael cyngor gan Acas neu linell gymorth ymholiadau cyhoeddus y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth ar unwaith, gan fod yn rhaid i'r Tribiwnlys Cyflogaeth gael eich hawliad am gymorth o fewn saith diwrnod i chi gael eich diswyddo.

Cael help a chyngor

Cyn gwneud hawliad, dylech gael cyngor ar sut y gallech ddatrys eich cwyn heb fod angen mynd i Dribiwnlys Cyflogaeth.

Mae Acas yn cynnig gwybodaeth gyfrinachol a diduedd am ddim ar bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.

Gallwch hefyd gael cyngor gan undeb llafur os ydych yn aelod neu gan wasanaethau fel y Ganolfan Cyngor ar Bopeth.

Nid oes angen i chi ddeall y gyfraith i wneud hawliad, ond efallai y bydd yn ddefnyddiol cael cyngor cyfreithiol neu ddod o hyd i rywun i'ch cynrychioli. Os ydych yn byw yn yr Alban, efallai eich bod yn gallu cael cyngor a chymorth proffesiynol am ddim gan gyfreithiwr o dan y cynllun cymorth cyfreithiol. O dan amgylchiadau arbennig, efallai y byddwch yn gallu cael help er mwyn cael cynrychiolaeth gyfreithiol hefyd. Gelwir hyn yn ABWOR – 'cynhorthwy trwy gynrychiolaeth'. Bydd yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU