Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymorth gyda ffeiliau PDF

Gwybodaeth am ffeiliau PDF; beth ydyn nhw, sut i'w hagor a sut i'w creu

Fformat ffeil rhyngrwyd cyffredin yw'r fformat ffeil PDF (ystyr PDF yw Portable Document Format).

Fe'i defnyddir ar gyfer dosbarthu electronig gan ei fod yn cadw diwyg a golwg y ddogfen wreiddiol yn union, ynghyd â'r un ffontiau, lliwiau, delweddau a chynllun. Gellir ei ddefnyddio hefyd gyda llu o wahanol fathau o gyfrifiaduron a phorwyr. Dyma sy'n cael ei ddefnyddio fel arfer ar gyfer ffurflenni, taflenni a chyhoeddiadau'r llywodraeth.

Agor ffeiliau PDF

I agor ffeil PDF, mae gennych ddau ddewis. Gallwch lwytho'r rhaglen Acrobat Reader a'i gosod ar eich cyfrifiadur. Mae'r rhaglen ar gael am ddim ar safle Adobe Acrobat. Oherwydd bod angen llawer o gof i'w llwytho i lawr - rhwng 8MB a 16MB - efallai y byddai'n haws cael copi o'r rhaglen ar un o'r CDs a ddosberthir gan gylchgronau cyfrifiadurol.

Yr ail ddewis yw defnyddio cyfrwng trosi ffeiliau PDF ar-lein. Gallwch fynd i wefan Adobe Acrobat, teipio cyfeiriad ffeil PDF a'i gael i drosi'r ffeil i fformat mwy darllenadwy tra'ch bod yn disgwyl. Neu gallwch e-bostio cyfeiriad y ffeil (neu'r ffeil ei hun) i Adobe, a byddant yn e-bostio'r ffeil wedi'i throsi yn ôl ichi. Efallai na fydd y fersiwn hwn o'r ffeil mor glir ei fformat â'r ffeil PDF wreiddiol.

Porwyr a ffeiliau PDF

Gallwch ffurfweddu'ch porwr gwe i agor ffeiliau PDF naill ai o fewn ffenest y porwr neu mewn ffenest Adobe Acrobat ar wahân. Mae cyfarwyddiadau manwl ar wefan Acrobat ynghylch sut i wneud hyn ar gyfer porwyr gwahanol.

Ydy ffeiliau PDF yn hwylus o ran mynediad?

Mae safonau ffeiliau PDF wedi gwella dros y blynyddoedd ac maent wedi dod yn fwy hwylus trwy dechnolegau megis darllenwyr sgrin, llywio trwy'r bysellfwrdd a delweddau gwell. Mae safle Adobe yn darparu gwybodaeth am y ffordd orau o ddefnyddio'r nodweddion hyn. Efallai y dowch ar draws fersiynau cynharach o ffeiliau PDF nad ydynt mor hwylus i gael mynediad atynt.

Sut i chwilio ffeil PDF?

Pan fyddwch yn agor ffeil PDF, bydd bar offer Acrobat yn ymddangos, gyda nifer o offer arno i'ch helpu chi i weld a chwilio'r ddogfen. Bydd gosod y llygoden dros yr eiconau, heb glicio, yn dweud beth y mae pob un yn ei wneud. Bydd y cyfleuster Chwilio yn chwilio'r ddogfen am air neu ymadrodd.

Rhaglenni eraill tebyg i Adobe Acrobat Reader

Adobe Acrobat Reader ydy'r gweledydd PDF mwyaf poblogaidd o bell ffordd, ond mae eraill ar gael i'w llwytho a fydd yn gadael i chi weld ac argraffu dogfennau PDF ar amrywiaeth o lwyfannau a systemau. Gall y safleoedd canlynol fod o gymorth:

Allweddumynediad llywodraeth y DU