Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Porwyr, cyfrifiaduron a Cross & Stitch - Hygyrchedd

Mae Cross & Stitch wedi'i brofi gydag amrediad eang o borwyr a systemau gweithredu. Mae'r dudalen hon yn rhoi manylion ynghylch pa raglenni gosod sy'n gweithio orau gyda'r wefan.

Porwyr a argymhellir

Mae Cross & Stitch wedi'i brofi'n eang gydag amrywiaeth o borwyr (gweler y rhestr isod).

Gwasanaethau rhyngweithiol

Tra bo gwefan Cross & Stitch wedi'i chynllunio i gefnogi'r rhestr hon o borwyr, mae angen rhai o'r porwyr mwyaf newydd er mwyn gwneud i rai o'r gwasanaethau rhyngweithiol fel y cynghorydd budd-daliadau weithio. Er mwyn defnyddio'r gwasanaethau rhyngweithiol hyn efallai y bydd angen i chi ddewis yr opsiwn javascript a chwcis yn eich porwr.

Windows

MS Internet Explorer 6.0 SP2 (ar Windows 2000, Windows XP)

MS Internet Explorer 7 (ar Windows XP, Windows Vista)

Mozilla Firefox 1.5.0 (ar Windows XP)

Mozilla Firefox 2 (ar Windows XP, Windows Vista)

Netscape 7.2 (ar Windows XP)

Netscape 8.1.3 (ar Windows XP)

Opera 9.27 (ar Windows XP)

Lynx 2.8.5 (ar Windows XP)

Avant 11.6 (ar Windows XP)

Avant 11.5 (ar Windows XP)

Macintosh

Safari (OS X) 1.3.2 (on OS X 10.3)

Safari (OS X) 2.0.4 (on OS X 10.4)

Linux

Mozilla '20070308'

Mozilla '20080109'



Porwyr eraill

Mae'r wefan hon wedi'i chynllunio i gefnogi cymaint ag y bo modd o gyfuniadau o systemau gweithredu a phorwyr. Os nad ydych yn defnyddio un o'r porwyr uchod, dylech allu cael mynediad i'r safle o hyd a defnyddio'r tudalennau ond efallai na fydd yn arddangos y safle fel y'i bwriadwyd, nac ychwaith yn rhoi'r profiad gorau i chi o ddefnyddio'r wefan.

Uwchraddio porwyr

Byddem yn argymell eich bod yn uwchraddio'ch porwr i'r graddau a ganiateir gan eich cyfrifiadur. Mae gan fersiynau diweddarach o borwyr lefelau uwch o warchodaeth a swyddogaethau gwell.

Bydd y rhan fwyaf o gyflenwyr porwyr yn gadael ichi uwchraddio am ddim. Ewch i wefan y porwr i gael gwybodaeth am y fersiynau diweddaraf ac i'w llwytho i lawr. Mae angen tipyn o gof i lwytho'r rhain i lawr; mae llawer o borwyr ar gael ar CD hefyd megis y rhai a ddosberthir gan gylchgronau cyfrifiadurol.

Pam nad ydy'r porwr sydd gen i yn dangos y wefan yn iawn?

Er mwyn cynnal cymaint ag y bo modd o borwyr a gadael i ddefnyddwyr o bob gallu (gan gynnwys y rhai gyda nam ar eu golwg neu anabledd corfforol) gael mynediad i'r wefan hon, mae wedi'i datblygu yn unol â safonau cydnabyddedig a bennir gan Gonsortiwm y We Fyd Eang (W3C). Mae un o'r safonau hyn ar gyfer defnyddio Daflenni Arddull Rhaeadrol (CSS2) fel bo'r safle'n cynnal unrhyw borwr sy'n cynnal y safon honno. Dydy rhai porwyr, yn arbennig fersiynau cynharach, ddim yn cynnal y safon hon neu ond yn rhannol wneud hynny. Efallai na fydd y porwyr hyn yn dangos y testun a'r graffeg yn iawn.

Cydraniad sgrîn

Gallwch osod eich cyfrifiadur i ddangos cydraniadau sgrîn gwahanol. Mae Cross & Stitch yn gweithio orau gyda chydraniad picsel 800 x 600 a 1024 x 768.

I gael gwybodaeth am addasu'r cydraniad, ewch i'r ffeiliau help yn eich system weithredu neu ewch ar wefan y gwneuthurwr.

Lliwiau'r sgrîn

Yn dibynnu ar eich cyfrifiadur, gallwch hefyd reoli nifer y lliwiau a ddangosir ar eich sgrîn. Mae Cross & Stitch yn edrych orau gyda lliw 16-did (65,356 lliw neu filoedd o liwiau yn dibynnu ar eich system weithredu).

Allweddumynediad llywodraeth y DU