Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallai cymodi eich helpu chi a'ch cyflogwr i ddatrys problem yn y gwaith heb wneud hawliad mewn Tribiwnlys Cyflogaeth. Os yw'r broblem yn cynnwys hawliad posibl neu hawliad gwirioneddol mewn Tribiwnlys Cyflogaeth, cewch wybod yma sut y gallai’r gwasanaeth cymodi di-dâl Acas (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) eich helpu chi.
Math ar gyfryngu yw cymodi sy’n cymryd lle:
Dan yr amgylchiadau hyn, gall Acas gynnig gwasanaeth di-dâl i’ch helpu i setlo hawliad neu hawliad posib.
Mae cymodi yn debyg i gyfryngu, mae'r ddau air yn disgrifio'r un broses. Defnyddir y gair cymodi fel arfer pan fydd hawliad posibl neu wirioneddol mewn Tribiwnlys Cyflogaeth, yn hytrach na phroblemau mwy cyffredinol ynghylch cyflogaeth.
Gyda chymodi a chyfryngu, bydd rhywun annibynnol, diduedd o'r tu allan yn trafod materion yr anghydfod rhyngoch chi a’ch cyflogwr. Gwneir hyn weithiau ar wahân, dro arall gyda'i gilydd, gyda'r nod o ddod o hyd i ateb y gall y ddau ohonynt ei dderbyn.
Mae cymodi yn wirfoddol. Mae'n rhaid i chi a'ch cyflogwr gytuno i gymodi cyn y gall ddigwydd. Nid oes gan y cymodwr ddim grym i orfodi ateb o'i ddewis ei hun.
Nid effeithir ar benderfyniad Tribiwnlys Cyflogaeth gan eich penderfyniad i roi cynnig ar gymodi. Ni fydd Tribiwnlys Cyflogaeth yn dod i benderfyniad ar sail p'un ai a ydych wedi ceisio datrys y broblem drwy gymodi neu faint o ymdrech yr ydych wedi gwneud i’w datrys drwy gymodi.
Ar y llaw arall, does gennych ddim i'w golli o geisio datrys problemau drwy gymodi. Yn ogystal ag osgoi’r straen a’r costau posib o fynd i Dribiwnlys Cyflogaeth, mae manteision posibl eraill yn cynnwys y canlynol:
Pan fyddwch yn mynd ag achos at Dribiwnlys Cyflogaeth, bydd y Tribiwnlys Cyflogaeth yn anfon copi at Acas. Bydd cymodwr yn cysylltu â chi a'ch cyflogwr (neu ei gynrychiolwyr, os oes unrhyw rai wedi'u penodi) i gynnig gwasanaeth cymodi di-dâl.
Gall Acas ddarparu gwasanaeth cymodi yn gynt na hynny. Os bydd problem wedi cyrraedd y pwynt lle'r ydych yn teimlo eich bod yn debygol o gyflwyno achos, gallwch chi neu'ch cyflogwr ofyn i Acas gymodi.
Mae'n bosib y gall y gwasanaeth cymodi cynnar hwn (a elwir yn 'gymodi cyn-hawlio' gan Acas) eich helpu chi a'ch cyflogwr i ddod o hyd i ffordd o ddatrys y mater. Bydd hyn yn osgoi'r angen i fynd ag achos at Dribiwnlys Cyflogaeth.
Mae cymodi cyn-hawlio yn wasanaeth di-dâl sydd ar gael i chi a'ch cyflogwr dan amgylchiadau priodol. Os hoffech gael gwybod a yw'r gwasanaeth hwn yn addas i'ch sefyllfa chi, dylech gysylltu â llinell gymorth Acas.
Mae gan Ogledd Iwerddon wasanaethau cymodi ar wahân. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y rhain gan wefan nidirect.
Mae Acas yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw.