Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gellir datrys problemau yn y gweithle mewn sawl ffordd heb fynd i’r llys neu i Dribiwnlys Cyflogaeth, gan gynnwys defnyddio gwasanaeth cyfryngu. Os byddwch chi a’ch cyflogwr yn cytuno i ddefnyddio gwasanaeth cyfryngu, gall fod yn broses gyflym, gan amlaf yn para llai na diwrnod, ac mae bron bob amser yn llai costus ac yn peri llai o straen na chymryd camau cyfreithiol.
Yn ystod y broses gyfryngu, bydd trydydd parti annibynnol a diduedd yn trafod y materion sy’n peri anghydfod gyda chi a’ch cyflogwr. Weithiau, bydd yn trafod â’r ddau ohonoch ar wahân, ac weithiau gyda’ch gilydd, a’i fwriad fydd helpu’r ddau ohonoch i ddod o hyd i ateb derbyniol.
Mae cyfryngu yn broses wirfoddol, felly mae’n rhaid i chi a’ch cyflogwr ill dau gytuno i fod yn rhan o’r broses. Ni all cyfryngwr orfodi ateb o'i ddewis ei hun – mae'n rhaid i chi a'ch cyflogwr gytuno iddo.
Gellir defnyddio gwasanaeth cyfryngu ar unrhyw adeg yn ystod anghydfod. Gan amlaf, bydd fwyaf effeithiol os defnyddir y gwasanaeth yn fuan ar ôl i'r broblem godi.
Nid yw cyfryngu yn wasanaeth sy’n rhad ac am ddim, er yn gyffredinol y cyflogwr fydd yn talu amdano.
Er y gallai cyfryngu fod yn rhan o drefn gwyno neu ddisgyblu, nid yw’n wasanaeth sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer datrys problemau rhwng gweithwyr a chyflogwyr yn unig. Gallai hefyd fod o gymorth lle ceir anghytuno neu wrthdaro rhwng personoliaethau pobl mewn tîm.
Gallai defnyddio gwasanaeth cyfryngu i geisio datrys problemau eich helpu i osgoi’r straen a’r gost bosib o fynd i Dribiwnlys Cyflogaeth. Mae’r manteision posib eraill yn cynnwys y canlynol:
Ni fydd peidio â defnyddio gwasanaeth cyfryngu, neu fethu â dod i gytundeb drwy gyfryngu, yn cael effaith ar eich hawl i wneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth.
Mae gan rai sefydliadau eu cyfryngwyr hyfforddedig mewnol eu hunain. Ceir hefyd ddarparwyr gwasanaethau cyfryngu masnachol.
Yng Nghymru a Lloegr, mae rhai o’r darparwyr gwasanaethau cyfryngu hyn yn aelodau cofrestredig o’r Cyngor Cyfryngu Sifil.
Yn yr Alban, mae rhai o’r darparwyr gwasanaethau cyfryngu wedi’u cofrestru gyda Chofrestr Cyfryngu’r Alban sy’n cael ei rheoli gan Rwydwaith Cyfryngu’r Alban.
Gellir dod o hyd i restr o ddarparwyr gwasanaethau cyfryngu ar gyfer y gweithle ar y gwefannau hyn.
Mae’r darparwyr hyn yn datgan eu bod yn bodloni safonau penodol o ran:
Nid yw’r rhain yn rhestri cyflawn o’r holl ddarparwyr ym Mhrydain Fawr sydd o bosib yn cynnig gwasanaethau cyfryngu.
Mae cymodi yn debyg i gyfryngu. Mae’r ddau air yn disgrifio’r un broses, ond defnyddir cymodi fel arfer pan fydd hawliad posibl neu wirioneddol i Dribiwnlys Cyflogaeth, yn hytrach na phroblemau mwy cyffredinol ynghylch cyflogaeth.
Mae gan Ogledd Iwerddon wasanaethau cyfryngu ar wahân. Gallwch gael gwybod mwy am y rhain ar wefan nidirect.
Mae Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd yn rhad ac am ddim ynghylch pob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol ddarparu cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, gallwch gael help, cyngor a chefnogaeth ganddo.
Efallai y gall twrnai neu asiantaeth gynghori eich helpu i benderfynu ar y llwybr gorau ar eich cyfer.