Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cwnsela yn y gwaith

Defnyddir cwnsela mewn amrywiol ffyrdd i gynorthwyo gweithwyr i ddatrys eu problemau. Cael gwybod ynghylch y mathau gwahanol o gwnsela sydd a sut mae cwnsela yn gweithio fel rhan o'r broses ddisgyblu.

Pam fod angen cwnsela arnoch chi o bosibl?

Os yw eich gwaith yn dioddef oherwydd rhesymau personol, efallai bod angen cwnsela arnoch i ddatrys y broblem. Gall cwnsela fod yn ffordd anffurfiol o ddatrys problemau cyn iddynt droi'n faterion disgyblu. Efallai y bydd eich cyflogwr yn darparu gwasanaeth cwnsela, ond does dim cyfraith yn dweud bod hyn yn orfodol.

Er nad oes yn rhaid i chi gytuno i gwnsela os bydd yn cael ei gynnig gan eich cyflogwr, ystyriwch a fyddai hynny'n well na wynebu materion disgyblu yn y gwaith.

Sut fathau o gwnsela sydd ar gael?

Cwnsela fel cam disgyblu

Un cyfweliad yw'r math hwn o gwnsela fel arfer sy'n delio gyda safonau is o ymddygiad a pherfformiad nag a ddisgwylir yn y gwaith. Yn aml, mae rhesymau dros hyn a nod y cyfweliad cwnsela yw canfod beth yw'r rhesymau hynny a sut i ddelio â hwy. Er enghraifft, efallai mai bwlio yw'r rheswm dros fod yn absennol o'r gwaith.

Mae cwnsela fel cam disgyblu'n ceisio rhoi terfyn ar berfformiad gwael heb gymryd camau disgyblu. Mewn cyfweliad cwnsela dylech gael gwybod pa welliant sy'n ddisgwyliedig ac am ba hyd y bydd eich perfformiad yn cael ei adolygu. Weithiau gelwir hyn yn 'rhybudd anffurfiol' ond nid yw'n rhan o drefn gwyno. Dylech gael gwybod hefyd pryd y gallai'r drefn ddisgyblu ffurfiol gychwyn os nad oes gwelliant.

Ni ddylai cyfweliad cwnsela fel cam disgyblu droi'n wrandawiad disgyblu ffurfiol. Os digwydd hynny, dylech nodi'n glir eich bod am i'r cyfarfod ddod i ben ac y dylid trefnu gwrandawiad disgyblu ffurfiol er mwyn i chi allu defnyddio'ch hawl i gael cydweithiwr neu gynrychiolydd o blith y gweithwyr yn bresennol gyda chi.

Cwnsela personol

Digwydd hyn pan fo gennych broblemau personol a bod angen cyngor neu gefnogaeth arnoch. Efallai bod y broblem yn effeithio ar eich iechyd corfforol neu feddyliol.

Dyma'r prif broblemau y mae pobl yn gofyn am gwnsela personol yn y gwaith ar eu cyfer neu y cynigir cwnsela ar eu cyfer:

  • straen
  • harasio a bwlio
  • iselder
  • camddefnyddio alcohol
  • camddefnyddio cyffuriau

Bydd cyflogwr da yn hybu iechyd da yn y gwaith. Efallai bod gan sefydliadau mawr adrannau iechyd galwedigaethol cyflawn. Gall sefydliadau eraill gynnig un neu fwy o'r canlynol:

  • cymorth i roi'r gorau i ysmygu, alcohol neu gyffuriau
  • cwnsela ar gyfer straen
  • dosbarthiadau ymlacio
  • rhaglenni cymorth i weithwyr

Dylai cwnsela ar gyfer unrhyw broblem fod yn gyfrinachol a'i gynnal gan berson gyda'r cymwysterau priodol. Os nad oes gan eich cyflogwr gwnselydd yn y gwaith, efallai y gall drefnu i chi weld arbenigwr allanol. Efallai y bydd angen amser o'r gwaith ar gyfer hyn a dylai eich cyflogwr dderbyn hynny. Mater i'r cyflogwr fydd rhoi'r amser i chi yn ddi-dâl neu beidio.

Rheoli straen

Mae straen yn y gwaith yn gyffredin. Mae gan gyflogwyr ddyletswyddau cyfreithiol i ofalu am ddiogelwch eu gweithwyr ac mae hyn yn cynnwys rheoli straen. Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch hefyd wedi darparu gwybodaeth a safonau rheoli am ddelio gyda straen yn y gwaith i gyflogwyr.

Os ydych yn dioddef gyda straen - neu'n meddwl eich bod - efallai fod gan y gwaith gwnselydd y gallwch ei weld. Os na, efallai y cewch eich anfon at wasanaeth cwnsela annibynnol fel rhan o'r rhaglen cymorth i weithwyr.

Cyffuriau ac alcohol

Os oes gennych broblemau gyda chyffuriau neu alcohol, efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig cymorth. Gall hyn gynnwys rhoi amser i chi o'r gwaith i fynychu sesiynau cwnsela yn ystod oriau gwaith neu gyfnod o wyliau er mwyn ichi gael triniaeth.

Efallai fod gan eich cyflogwr bolisi ar gyffuriau ac alcohol fel rhan o'ch telerau ac amodau cyflogaeth. Os nad ewch am gymorth a bod eich problemau'n effeithio ar eich gwaith, efallai y bydd gan eich cyflogwr reswm dros eich diswyddo.

Cwnsela ac anabledd

Os ydych yn dioddef o iselder neu bryder, mae'n bosibl ei fod yn cael ei gategoreiddio fel anabledd. Dan y gyfraith gwahaniaethu ar sail anabledd, disgwylir i gyflogwr drin gweithwyr ag anableddau gyda chydymdeimlad gyda golwg ar amser yn rhydd o'r gwaith i gael triniaeth feddygol, gan gynnwys cwnsela.

Mae rhai sefydliadau'n trin dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol fel salwch ac mae ganddynt bolisïau wedi'u hanelu at adsefydlu. Ond nid yw dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol yn rhoi'r un hawliau â pherson anabl ichi.

Ble i gael cymorth

Am fwy o wybodaeth am ble i gael cymorth gyda materion cyflogaeth, gallwch ymweld â’r dudalen cysylltiadau cyflogaeth neu gael gwybod mwy ynghylch undebau llafur.

Allweddumynediad llywodraeth y DU