Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Does dim rhaid i chi ddioddef bwlio yn y gwaith ac mae 'na wastad ffyrdd o'i stopio. Darllenwch am beth yw bwlio a sut i wybod os ydych yn cael eich bwlio, a manylion o beth allwch wneud i'w atal.
Bwlio yn y gwaith yw pan fydd rhywun yn ceisio gwneud i weithiwr arall deimlo dan fygythiad, a hynny'n aml o flaen cydweithwyr eraill. Fel arfer, ond nid wastad, rhywun mewn swydd is sy'n cael ei fwlio. Mae'n debyg i aflonyddu (harasio) sef pan fydd rhywun yn ymddwyn yn sarhaus - er enghraifft yn gwneud sylwadau sy'n creu embaras neu'n gwneud sylwadau rhywiol, neu'n sarhau hil, crefydd neu dueddfryd rhywiol rhywun.
Ni allwch wneud hawl cyfreithlon ynghylch bwlio, ond gall cwynion gael eu wneud dan ddeddfau aflonyddu a gwahaniaethu. Gallwch wneud hawliad diswyddo ymarferol os ydych yn cael eich gorfodi i ymddiswyddo oherwydd bwlio.
Mae bwlio'n cynnwys cam-drin, trais corfforol neu eiriol, bychanu a thanseilio hyder rhywun. Mae'n debyg eich bod yn cael eich bwlio, er enghraifft:
Fe all bwlio ddigwydd wyneb-yn-wyneb, ar ffurf ysgrifenedig, dros y ffôn neu'r ffacs neu drwy neges ebost.
Os ydych chi'n meddwl eich bod yn cael eich bwlio, y peth gorau yw cael sgwrs gyda rhywun, oherwydd er bod rhywbeth yn gallu ymddangos fel petai'n enghraifft o fwlio, nid yw hynny bob amser yn wir. Er enghraifft, mae'n bosib bod gennych chi fwy o waith i'w wneud oherwydd newid yn ffordd o weithio'ch lle gwaith. Os yw'n anodd i chi ymdopi, mynnwch sgwrs â'ch rheolwr neu'ch goruchwyliwr. Mae'n bosib eu bod nhw'n poeni cymaint â chi. Weithiau, y cyfan sydd ei angen yw newid eich ffordd o weithio er mwyn rhoi amser i chi addasu.
Mae gan gyflogwyr 'ddyletswydd gofal' i'w gweithwyr ac mae hyn yn cynnwys delio â bwlio yn y gwaith. Os ydych chi'n cael eich bwlio, mae 'na gamau y gallwch eu cymryd.
Siaradwch â rhywun ynglwn â sut y gallech ddelio â'r broblem yn anffurfiol. Fe allech chi siarad â:
Mae gan rai cyflogwyr staff sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i helpu gyda phroblemau bwlio ac aflonyddu - weithiau, fe'u gelwir yn 'ymgynghorwyr aflonyddu'. Os yw'r bwlio'n effeithio ar eich iechyd, ewch i weld eich meddyg.
Mae'n bosib nad yw'r bwlio'n fwriadol. Os gallwch, mynnwch sgwrs â'r person dan sylw. Mae'n bosib nad ydyn nhw'n sylweddoli sut mae eu hymddygiad yn effeithio arnoch. Penderfynwch ymlaen llaw beth i'w ddweud. Disgrifiwch beth sydd wedi bod yn digwydd a pham eich bod yn gwrthwynebu hyn. Peidiwch â chynhyrfu a byddwch yn gwrtais. Os nad ydych chi'n awyddus i siarad â nhw eich hun, gofynnwch i rywun arall wneud hynny drosoch chi.
Ysgrifennwch fanylion pob digwyddiad a chadw copi o unrhyw ddogfen berthnasol.
Dyma'r cam nesaf os na allwch chi ddatrys y broblem yn anffurfiol. I wneud hyn, rhaid i chi ddilyn trefn gwyno'ch cyflogwyr.
Ceir isod enghreifftiau o ambell sefyllfa annifyr y gellwch wynebu yn y gwaith ac awgrymiadau ar sut y gellir delio â nhw.
Rhowch eich cwyn ar bapur a'i rhoi i'ch rheolwr llinell, a gofynnwch iddi gael ei throsglwyddo i reolwr arall i'w harchwilio. Os nad yw hynny'n digwydd neu os nad oes modd gwneud hynny, cwynwch wrth reolwr eich bos, neu wrth yr adran adnoddau dynol.
Dilynwch y drefn gwyno. Fe all hynny fod o help i chi wedyn os bydd rhaid i chi gymryd camau cyfreithiol yn erbyn eich cyflogwr.
Os ydych chi'n meddwl y bydd cwyno'n achosi mwy o fwlio neu aflonyddu, does dim rhaid i chi ddilyn y drefn gwyno arferol. Mewn achosion fel hyn, cewch ddal i gymryd camau cyfreithiol os dymunwch chi.
Weithiau, bydd y broblem yn parhau hyd yn oed ar ôl i chi ddilyn trefn gwyno'ch cyflogwr. Os na wneir dim byd i unioni'r sefyllfa, gallwch feddwl am gymryd camau cyfreithiol, a all olygu mynd at dribiwnlys cyflogaeth. Mynnwch gyngor proffesiynol cyn cymryd y cam hwn.
Cofiwch nad oes modd mynd at Dribiwnlys Cyflogaeth yn syth ynglŷn â bwlio. Mae'n bosib cwyno dan gyfreithiau sy'n ymwneud â gwahaniaethu ac aflonyddu.
Os ydych chi wedi gadael eich swydd oherwydd bwlio, mae'n bosib y byddwch chi'n gallu hawlio diswyddo annheg ar sail 'ymddygiad eich cyflogwyr'. Gall hyn fod yn anodd ei brofi, felly mae'n bwysig cael cyngor cyfreithiwr arbenigol neu rywun proffesiynol arall.
Mae Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol, diduedd ac am ddim ar faterion hawliau cyflogaeth. Gallwch ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00am i 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych yn aelod o undeb llafur, gallwch dderbyn cymorth, cyngor a chefnogaeth wrthynt.