Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gwahaniaethu ar sail hil

Mae'n anghyfreithlon i gyflogwr wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil. Cewch eich diogelu rhag achosion o wahaniaethu ar sail hil ar bob cam o'ch cyflogaeth. Darllenwch i weld beth yw eich hawliau a beth i'w wneud os ydych yn teimlo bod rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn.

Beth yw gwahaniaethu ar sail hil?

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn golygu ei bod yn anghyfreithlon i gyflogwr wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil. Mae hil yn cynnwys:

  • lliw
  • cenedl
  • tarddiad ethnig neu genedlaethol

O dan y Ddeddf, nid oes ots a yw'r gwahaniaethu’n cael ei wneud yn fwriadol ai peidio. Beth sy'n bwysig yw p'un a ydych yn cael eich trin yn llai ffafriol na rhywun arall oherwydd eich hil (o ganlyniad i gamau cyflogwr).
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu pob grŵp hiliol, waeth beth yw ei hil, lliw, cenedl neu darddiad cenedlaethol neu ethnig.

Y mathau gwahanol o wahaniaethu ar sail hil yn y gwaith

Mae'r cyfreithiau yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil yn y gwaith yn cwmpasu pob rhan o gyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys recriwtio, telerau ac amodau, cyflog a buddiannau, statws, hyfforddiant, dyrchafiadau a chyfleoedd i drosglwyddo, yn ogystal â dileu swyddi a diswyddo.

O dan y gyfraith, gellir cyfyngu swydd i bobl o grŵp hiliol neu ethnig penodol lle ceir 'gofyniad galwedigaethol'. Un enghraifft yw lle mae angen actor du ar gyfer ffilm neu raglen deledu am resymau dilysrwydd.

Ceir pedwar prif fath o ymddygiad anghyfreithlon o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010:

  • gwahaniaethu uniongyrchol - lle mae hil yn achos gwirioneddol dros gael triniaeth lai ffafriol (e.e. lle mae swydd benodol ond yn agored i bobl o grŵp hil penodol)
  • gwahaniaethu anuniongyrchol - lle caiff rheolau neu bolisïau eu cymhwyso i bawb ond sy'n golygu bod aelodau grŵp penodol dan anfantais benodol os na ellir eu cyfiawnhau (e.e. cyflwyno cod gwisg heb reswm da, a allai wahaniaethu yn erbyn rhai grwpiau ethnig)
  • aflonyddu - ymddwyn mewn modd anffafriol sy'n peri tramgwydd i rywun neu sy'n creu awyrgylch gelyniaethus (e.e. dweud jôcs hiliol yn y gwaith), caniatáu neu annog ymddygiad o'r fath
  • erledigaeth - trin rhywun yn wael am ei fod wedi cwyno neu gefnogi rhywun sy'n dwyn cwyn ynghylch achos o wahaniaethu (e.e. cymryd camau disgyblu yn erbyn rhywun i ddial am ei gŵyn yn erbyn achos o wahaniaethu ar sail hil)


Gall cyflogwyr nad ydynt yn atal ymddygiad anghyfreithlon gan eu cyflogeion fod yn torri'r gyfraith eu hunain.

Swyddi sy'n gyfyngedig i grwpiau ethnig neu genedlaethol

O dan amgylchiadau prin ceir rhai swyddi lle mae'n ofynnol i chi berthyn i grŵp hil penodol. Gelwir hyn yn ofyniad galwedigaethol.

Beth yw 'gweithredu cadarnhaol'?


Mae gweithredu cadarnhaol yn cyfeirio at achosion pan fydd cyflogwr yn gweithredu i roi cymorth, hyfforddiant neu anogaeth i bobl sy'n rhannu nodwedd a ddiogelir fel grŵp hil.
Dim ond pan fydd y canlynol yn berthnasol i grŵp hil y caniateir gweithredu cadarnhaol:

  • ei fod yn wynebu anfantais
  • ei fod yn cael ei dangynrychioli yn anghymesur
  • mae ganddo anghenion sy'n wahanol i anghenion grwpiau hil eraill yn y gweithlu

Mae'n rhaid i gyflogwr sicrhau bod unrhyw gamau gweithredu cadarnhaol a gymerir yn ffordd gymesur o fynd i'r afael â'r anfantais neu'r tangynrychiolaeth y mae grwpiau hil penodol yn ei wynebu, heb wahaniaethu yn erbyn pobl y tu allan i'r grŵp hwn.

Os bydd rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn yn y gwaith

Os ydych yn teimlo bod cyflogai arall neu un o'r rheolwyr heblaw eich bos uniongyrchol yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd hil, siaradwch â'ch bos uniongyrchol ac eglurwch eich pryderon. Efallai y bydd eich cynrychiolydd cyflogeion (fel swyddog undeb llafur) - os oes gennych un - yn gallu helpu hefyd.

Os yw eich rheolwr llinell neu eich goruchwyliwr yn gwahaniaethu yn eich erbyn, dylech siarad â'i fos neu adran adnoddau dynol y cwmni.

Byddwch yn glir eich meddwl ynghylch beth a gaiff ei ystyried yn wahaniaethu yn eich barn chi, a rhowch enghreifftiau ysgrifenedig os bydd angen. Mae gan sawl cyflogwr bolisi cyfle cyfartal, a dylech ofyn am gael gweld copi o hwn.

Dylech hefyd siarad â'ch cyflogwr os dywedir wrthych weithredu mewn modd sy'n gwahaniaethu yn erbyn rhywun yn eich barn chi - er enghraifft os dywedir wrthych drin rhywun yn wahanol oherwydd hil, lliw, cenedl, ethnigrwydd neu darddiad cenedlaethol.

Os nad yw eich cyflogwr am helpu, efallai y bydd angen i chi wneud cwyn gan ddefnyddio gweithdrefn gwyno eich cyflogwr. Ni ddylech gael eich erlid am gwyno oherwydd byddai hyn yn cyfrif fel ymddygiad anghyfreithlon.

Os ydych yn anfodlon o hyd, gallech gyflwyno honiad o wahaniaethu ar sail hil i Dribiwnlys Cyflogaeth.Gallech gysylltu â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol neu eich Cyngor Cydraddoldeb Hiliol lleol, os oes un, i gael cyngor.

Os ydych yn teimlo na chawsoch gynnig swydd oherwydd eich hil

Efallai y gallwch gyflwyno eich achos i Dribiwnlys Cyflogaeth.Efallai y byddwch am gael cyngor cyn gwneud hyn.

Ble i gael help

I gael rhagor o wybodaeth am ble i gael help gyda materion cyflogaeth ewch i'r dudalen cysylltiadau cyflogaeth neu ceisiwch gael mwy o wybodaeth am undebau llafur.

Allweddumynediad llywodraeth y DU