Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Rydych wedi'ch amddiffyn dan y gyfraith os byddwch yn rhoi gwybod i'r rhai mewn swyddi o awdurdod – ‘chwythu'r chwiban’ - am gamarfer honedig yn y gwaith. Dysgwch am y mathau o ddatgeliadau y gallwch eu gwneud, i bwy y dylech eu gwneud, a beth i'w wneud os ydych yn dioddef oherwydd i chi chwythu'r chwiban.
Lles y cyhoedd yw pwrpas y gyfraith sy'n diogelu chwythwyr chwiban - ac felly anogir pobl i ddweud hynny os gwelant gamarfer mewn sefydliad. Gallant ddatgelu'r hyn a wyddant gan wybod eu bod wedi'u hamddiffyn rhag colli'u swydd a/neu gael eu herlid. Y term mwy ffurfiol am chwythu'r chwiban yw 'datgelu er lles y cyhoedd'.
Fe'ch amddiffynnir rhag cael eich erlid fel chwythwr chwiban os byddwch yn bodloni pob un o’r canlynol:
Gweler isod am fwy o wybodaeth am ddatgeliadau 'cymwys' ac 'a ddiogelir'.
Mae gan y term 'gweithiwr' ystyr eang arbennig ar gyfer yr amddiffyniadau hyn. Yn ogystal â chyflogeion, mae'n cynnwys pobl hunangyflogedig, gweithwyr asiantaeth a phobl nad ydynt yn gyflogedig ond yn cael eu hyfforddi gyda'r cyflogwyr.
Er mwyn cael eich amddiffyn, rhaid i chi gredu'n rhesymol bod camarfer yn digwydd, wedi digwydd neu y bydd yn digwydd yn y gwaith. Rhaid i chi hefyd ddatgelu yn y modd cywir.
Dyma’r mathau o gamarfer sy'n dod o dan y gyfraith:
Mae'r gyfraith hefyd yn weithredol mewn achos o geisio cuddio unrhyw un o'r rhain yn fwriadol.
Efallai na fyddwch yn cael eich amddiffyn os torrwch gyfraith arall wrth chwythu'r chwiban, er enghraifft, os ydych wedi llofnodi'r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol fel rhan o'ch contract cyflogaeth.
Datgeliadau wedi’u diogelu
Er mwyn i'ch datgeliad gael ei ddiogelu dan y gyfraith, rhaid i chi ei wneud i'r person iawn ac yn y ffordd iawn.
Os gwnewch ddatgeliad cymwys mewn ysbryd didwyll i'ch cyflogwr, neu yn unol â gweithdrefnau y mae eich cyflogwr wedi'u hawdurdodi, mae'r gyfraith yn eich amddiffyn. Gallwch hefyd gwyno wrth y person sy'n gyfrifol am y maes sy'n peri pryder i chi. Er enghraifft, gallech leisio pryderon am iechyd a diogelwch gyda chynrychiolydd iechyd a diogelwch.
Er mwyn i ddatgeliad i 'berson rhagnodedig' gael ei ddiogelu, rhaid i chi fodloni'r gofynion canlynol. Rhaid i chi:
Gallwch hefyd ddatgelu i eraill, mewn rhai amgylchiadau. Gallwch ddatgelu:
Fodd bynnag, mae rheolau gwahanol ynghylch pryd y bydd pob un o'r datgeliadau hyn wedi'u diogelu. Er enghraifft, mae'r rheolau ar gyfer datgeliadau 'mwy cyffredinol' yn gaeth iawn (ymysg pethau eraill, chewch chi ddim gweithredu er budd personol).
Os ydych yn ansicr, dylech bob tro gael cyngor proffesiynol cyn bwrw ymlaen (sylwch fod unrhyw beth a ddywedwch wrth gynghorydd cyfreithiol er mwyn cael cyngor yn cael ei ddiogelu'n awtomatig).
Os ydych yn dymuno cwyno am gamarfer yn y gwaith, dylech ddilyn y gweithdrefnau sydd gan eich cyflogwr (yn aml trefn gwyno'ch cyflogwr fydd hwn). Os ydych chi'n perthyn i undeb llafur, gallwch gael cyngor gan eich cynrychiolydd. Os ydych chi'n cwyno am fater iechyd a diogelwch, gallwch siarad â'ch cynrychiolydd diogelwch os oes gennych un.
Os cewch eich diswyddo am gwyno am gamarfer yn y gwaith, gallwch wneud hawliad am ddiswyddo annheg os ydych yn gyflogai. Does dim rhaid ichi fod wedi gweithio am y flwyddyn arferol i wneud hyn.
Os nad ydych yn gyflogai, ond eich bod yn cael eich diogelu dan drefn chwythu'r chwiban a bod eich contract wedi'i derfynu oherwydd i chi chwythu'r chwiban, gallwch fynd â'ch achos at Dribiwnlys Cyflogaeth (Tribiwnlys yng Ngogledd Iwerddon) a hawlio eich bod wedi dioddef 'triniaeth niweidiol'.
Os ydych wedi'ch diogelu dan y drefn chwythu'r chwiban ac wedi cael eich erlid (e.e. wedi'ch israddio neu wedi cael eich gwrthod ar gyfer cyfleoedd hyfforddi neu ddyrchafiad) oherwydd i chi chwythu'r chwiban, gallwch fynd â'ch achos at Dribiwnlys Cyflogaeth a hawlio eich bod wedi dioddef 'triniaeth niweidiol'.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am faterion sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474 747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) lleol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw.
Cael cyngor cyfreithiol gan Dwrnai neu Asiantaeth Gynghori ynghylch materion sy'n ymwneud â chamwahaniaethu