Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwybodaeth ac ymgynghori – hawliau gweithwyr

Mae'n arfer da i'ch cyflogwr roi gwybod i chi beth sy'n digwydd yn y busnes ac am unrhyw newidiadau a fwriedir ar gyfer y dyfodol. Mewn rhai achosion, efallai fod gennych chi hawl i gael gwybod am faterion pwysig sy'n ymwneud â'r gweithle ac i fod yn rhan o’r drafodaeth.

Beth yw gwybodaeth ac ymgynghori?

Mae gwybodaeth ac ymgynghori yn golygu bod y cyflogwr a'r gweithwyr yn cyfathrebu â'i gilydd mewn ffordd hyblyg drwy'r amser. Dylai eich cyflogwr wneud y canlynol:

  • dweud wrthych beth sydd ar y gweill (rhoi gwybod i chi)
  • gwrando ac ystyried eich barn wrth benderfynu beth i'w wneud (ymgynghori â chi)

Dylai eich cyflogwr geisio bod mor agored â phosib – oni bai fod yr wybodaeth yn fasnachol sensitif.

Bydd sut y bydd eich cyflogwr yn cyfathrebu â chi yn dibynnu ar y canlynol:

  • beth sydd ganddynt i'w ddweud wrthych
  • maint a strwythur y sefydliad
  • eich arferion gwaith arferol, ac arferion gwaith arferol eich cydweithwyr

Er enghraifft, gallai'r wybodaeth gael ei throsglwyddo i chi mewn cyfarfodydd grŵp bach gyda rheolwyr adrannau, neu efallai y byddai holiadur yn cael ei ddefnyddio er mwyn gofyn am eich barn.

Dyma ddulliau eraill y gellid eu defnyddio i gyfathrebu:

  • bwletinau ar y fewnrwyd
  • e-bost
  • cyfarfodydd briffio gyda’r tîm
  • cylchlythyrau misol
  • fideo-gynadledda

Dylai eich cyflogwr feddwl pa ddull mae am ei ddefnyddio i gyfathrebu â chi. Efallai nad yw’n hawdd i chi gael gafael ar gyfrifiadur at eich defnydd ac y byddai cyfathrebu wyneb yn wyneb neu drwy lythyr yn well o’r herwydd.

Os oes gennych chi batrwm gweithio hyblyg neu os ydych chi ar gyfnod mamolaeth neu absenoldeb oherwydd salwch, mae'n rhaid i'ch cyflogwr wneud yn siŵr eich bod yn rhan o'r broses gwybodaeth ac ymgynghori.

Cynrychiolwyr gweithwyr a phwyllgorau staff

Mewn sefydliadau mwy, gallai fod yn ddefnyddiol sefydlu cydbwyllgor ymgynghorol (neu gyngor staff). Mae hyn yn helpu i feithrin ymddiriedaeth rhwng y cyflogwr a chynrychiolwyr staff.

Gallai eich cyflogwr hefyd gysylltu â chynrychiolydd y gweithwyr, sef naill ai:

  • cynrychiolydd undeb llafur
  • cynrychiolydd gwybodaeth ac ymgynghori, neu
  • rhywun sydd wedi’i benodi’n arbennig ar gyfer y pwrpas

Hawl i wybodaeth ac i fod yn rhan o ymgynghoriad

Os ydych chi’n gweithio mewn sefydliad sydd â 50 neu ragor o weithwyr, mae gennych hawl i gael gwybod am faterion pwysig yn y gweithle, a bod yn rhan o'r broses ymgynghori. Mae’n bosib y byddai trefniadau gwybodaeth ac ymgynghori yn cael eu rhoi ar waith yn eich gweithle er mwyn ymdrin â’r canlynol:

  • perfformiad y busnes
  • y lefelau cyflogaeth a ddisgwylir yn y dyfodol
  • newid cyfeiriad y busnes

Os nad oes gennych drefniant gwybodaeth ac ymgynghori gyda'ch cyflogwr yn barod, mae'n rhaid i chi ofyn am un. Neu, efallai y bydd eich cyflogwr yn penderfynu cyflwyno trefniadau newydd yn wirfoddol.

Os ydych chi'n gweithio mewn sefydliad mawr gyda gweithwyr wedi'u lleoli mewn mwy nag un wlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, efallai y bydd modd i chi ofyn am sefydlu Cyngor Gwaith Ewropeaidd. Bydd Cyngor Gwaith Ewropeaidd yn galluogi gweithwyr a chyflogwyr i drafod materion sy’n effeithio ar y busnes mewn mwy nag un wlad.

I wneud cais am sefydlu Cyngor Gwaith Ewropeaidd, bydd angen i chi gael cefnogaeth o leiaf 100 o weithwyr mewn o leiaf dwy wlad wahanol yn Ewrop. Yna, bydd yn rhaid i reolwyr canolog y cwmni sefydlu corff trafod arbennig i drafod telerau cytundeb y Cyngor.

Os ydych chi’n gweithio i gwmni sydd â llai na 50 o weithwyr, nid oes gennych hawl i ofyn am gytundeb gwybodaeth ac ymgynghori. Fodd bynnag, byddai'n ymarfer da ar ran eich cyflogwr pe bai’n cytuno i sefydlu un ar ôl i chi ofyn amdano.

Sefyllfaoedd lle mae'n rhaid i'ch cyflogwr ymgynghori

Mewn rhai sefyllfaoedd, mae gennych hawl i gael gwybod beth sy’n digwydd, beth bynnag fo'r trefniadau o ran rhoi gwybodaeth ac ymgynghori yn eich gweithle.

Cynlluniau i ddileu swyddi

Dylai eich cyflogwr ymgynghori â chi cyn dileu eich swydd. Os bwriedir dileu mwy nag 20 o swyddi mewn cyfnod o 90 diwrnod, rhaid i'r cyflogwr ymgynghori â chynrychiolwyr y staff yr effeithir arnynt hefyd. Rhaid i’ch cyflogwr nodi pryd y bydd y swyddi'n cael eu dileu ac esbonio pam mae hynny'n digwydd. Mae’n rhaid iddo roi amser rhesymol i chi o'r gwaith i chwilio am swydd newydd.

Os na fydd eich cyflogwr yn ymgynghori’n briodol â chi am fwriad i ddileu swyddi, gallech gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth er mwyn cael iawndal a elwir yn ‘ddyfarniad gwarchodol’.

Pan fydd busnes yn cael ei drosglwyddo

Rhaid i'ch cyflogwr ymgynghori â chi neu’ch cynrychiolwyr os yw'r busnes yn mynd i newid dwylo. Rhaid iddo ddweud:

  • pryd mae’r busnes yn debygol o newid dwylo
  • pam mae hyn yn digwydd
  • os yw'r perchennog newydd yn bwriadu gweithredu mewn ffordd a fydd yn effeithio ar y gweithwyr, a beth fydd y camau gweithredu hynny

Os na fydd eich cyflogwr yn ymgynghori’n briodol â chi am y bwriad i ddileu swyddi gan fod y busnes yn cael ei drosglwyddo, gallech gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth er mwyn cael iawndal a elwir yn 'ddyfarniad gwarchodol'.

Pan geir cynlluniau i newid pensiynau

Os ydynt yn bwriadu gwneud newid sylweddol i gynllun pensiwn sy’n seiliedig ar waith, dylai cyflogwyr sydd ag o leiaf 50 o weithwyr ymgynghori. Rhaid i'r holl staff y mae hyn yn effeithio arnynt gael:

  • manylion ysgrifenedig am y newid arfaethedig, a hynny cyn cychwyn yr ymgynghoriad
  • gwybodaeth gefndir berthnasol
  • yr amserlen ar gyfer pryd y bwriedir cyflwyno'r newid

Dylai eich cyflogwr gysylltu â chynrychiolydd gweithwyr, naill ai:

  • cynrychiolydd undeb llafur
  • cynrychiolydd gwybodaeth ac ymgynghori, neu
  • rhywun sydd wedi’i benodi’n arbennig ar gyfer y pwrpas

Mae'n rhaid i'ch cyflogwyr ganiatáu o leiaf 60 diwrnod i ymgynghori. Os na fydd eich cyflogwr yn ymgynghori'n briodol â chi ynghylch newidiadau perthnasol i’ch pensiwn, mae'n bosib y bydd modd i chi neu'ch cynrychiolydd gwyno wrth y Rheoleiddiwr Pensiynau.

Allweddumynediad llywodraeth y DU