Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Trefniadau hysbysu ac ymgynghori newydd

Does gan bawb mo'r hawl i ddisgwyl i'w cyflogwr eu hysbysu ac ymgynghori â hwy. Ond os oes gennych chi'r hawl, ac nad oes trefniadau ar gyfer hysbysu ac ymgynghori eisoes yn bodoli, bydd rhaid i chi ofyn i'ch cyflogwr wneud rhai.

Gofyn am drefniadau hysbysu ac ymgynghori

Os oes arnoch eisiau rhoi trefniadau hysbysu ac ymgynghori ar waith lle rydych chi'n gweithio, rhaid i chi ofyn i'ch cyflogwr amdanynt. Rhaid i o leiaf 10 y cant o'r cyflogeion ofyn am gael trefniadau newydd, yn amodol ar isafswm o 15 o gyflogeion ac uchafswm o 2,500 o gyflogeion. Dim ond cyflogeion all ofyn am drefniadau hysbysu ac ymgynghori, ac nid 'gweithwyr'.

Oes gennych chi hawl i wneud cais?

Cyn i chi wneud cais i'ch cyflogwr, efallai yr hoffech wneud yn siŵr bod gennych hawl i ofyn am drefniadau hysbysu ac ymgynghori, a bod eich sefydliad yn gymwys. Er mwyn gwneud hyn, gallwch ofyn i'ch cyflogwr gadarnhau faint o gyflogeion a gyflogir yn eich sefydliad. Os ydych chi'n gweithio mewn sefydliad sydd â 50 neu ragor o gyflogeion, mae gennych yr hawl i gael eich hysbysu ac i ymgynghori ar faterion pwysig yn y gweithle. Bydd faint o gymorth sydd ei angen arnoch i wneud cais dilys hefyd yn dibynnu ar nifer y cyflogeion, ac mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'ch cyflogwr roi'r wybodaeth hon i chi.

Caiff eich cyflogwr gyfrif cyflogeion rhan amser fel 'hanner cyflogai' os ydynt yn gweithio llai na 75 awr y mis yn ôl eu contract. Ni fydd 'gweithwyr' yn cyfrif tuag at y cyfanswm.

Sut i wneud eich cais

Rhaid i gais am drefniadau hysbysu ac ymgynghori newydd:

  • fod ar bapur
  • nodi enw'r person sy'n gwneud cais am y trefniadau
  • nodi’r dyddiad y cafodd ei anfon

Mae'n syniad da ei lofnodi hefyd. Os hoffech fod yn ddi-enw, gallwch anfon eich cais at y Pwyllgor Cyflafareddu Canolog (neu'r Llys Diwydiannol yng Ngogledd Iwerddon) yn hytrach nag at eich cyflogwr.

Er mwyn cyrraedd y trothwy angenrheidiol, sef cael 10 y cant o'r staff i gytuno, gall cyflogeion wneud cais am drefniadau hysbysu ac ymgynghori dros gyfnod o chwe mis.

Pan fyddwch chi wedi anfon cais dilys, rhaid i'ch cyflogwr ei gydnabod a dweud wrth yr holl gyflogeion sut bydd yn mynd ati i drafod cytundeb hysbysu ac ymgynghori. Rhaid i'r drefn hon gynnwys cyfle i chi a'ch cyd-gyflogeion ethol neu benodi cynrychiolwyr trafod. Yn ystod y trafodaethau, rhaid i'ch cyflogwr gwrdd â'r cyflogeion (neu eu cynrychiolwyr) er mwyn ceisio dod i gytundeb ar ba bryd y bydd yn ymgynghori â chyflogeion, sut bydd yn gwneud hynny, ac ar beth y byddant yn ymgynghori.

Diogelu cyflogeion a chynrychiolwyr cyflogeion

Os byddwch yn gwneud cais am gytundeb hysbysu ac ymgynghori, neu y byddwch chi'n rhan o'r cytundeb, un ai fel cyflogai neu gynrychiolydd cyflogeion, mae gennych hawliau penodol. Fe'ch diogelir rhag cael eich trin neu eich diswyddo'n annheg gan eich cyflogwr am unrhyw reswm sy'n ymwneud â'r canlynol:

  • gofyn am wybodaeth gan eich cyflogwr
  • gofyn am gytundeb hysbysu ac ymgynghori newydd
  • sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad hysbysu ac ymgynghori
  • unrhyw ddyletswydd sy'n gysylltiedig â bod yn gynrychiolydd cyflogeion

Os ydych chi'n gynrychiolydd trafod neu'n gynrychiolydd hysbysu ac ymgynghori, mae gennych hawl i gael amser i ffwrdd yn ystod oriau gwaith, o fewn rheswm, a hynny gyda thâl, er mwyn ymgymryd â'ch dyletswyddau cynrychioli.

Gallwch wneud cwyn i Dribiwnlys Cyflogaeth os byddwch chi'n defnyddio'ch hawliau dan y Rheoliadau Hysbysu ac Ymgynghori â Chyflogeion, a bod eich cyflogwr:

  • yn gwrthod gadael i chi gael amser rhesymol i ffwrdd, a hynny gyda thâl
  • yn eich diswyddo mewn modd annheg
  • yn peri i chi fod 'ar eich colled' - hynny yw, eich bod dan anfantais yn y gwaith - na chewch chi godiad cyflog neu y cyfyngir ar eich oriau, er enghraifft

Gallech chi neu'ch cynrychiolwyr wneud cwyn i'r Pwyllgor Cyflafareddu Canolog:

  • os na fydd eich cyflogwr yn ymgynghori â chyflogeion mewn modd sy'n dderbyniol yn ôl y Rheoliadau
  • os na fydd eich cyflogwr yn gwneud trefniadau sy'n bodloni safonau arferol hysbysu ac ymgynghori - amlinellir y rhain yn y Rheoliadau

Os bydd y Pwyllgor yn cytuno â'ch cwyn, caiff eich cynrychiolwyr (neu chi) wneud cais i'r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth, a gofyn iddynt roi gorchymyn i'ch cyflogwr dalu dirwy o hyd at £75,000.

Allweddumynediad llywodraeth y DU