Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hysbysu ac ymgynghori mewn cwmnïau rhyngwladol

Os ydych chi'n gweithio i gwmni rhyngwladol, efallai bod gennych hawl i ddisgwyl i'ch cyflogwr eich hysbysu ac ymgynghori â chi am faterion 'trawswladol' pwysig yn y gwaith. Materion sy'n effeithio ar leoedd gwaith eich cwmni mewn mwy nag un wlad yw materion trawswladol.

Hawl i gael eich cynrychioli ar Gyngor Gwaith Ewropeaidd

Efallai bod gennych hawliau dan Reoliadau Trawswladol Hysbysu ac Ymgynghori â Chyflogeion 1999, os ydych chi'n gweithio i fusnes sydd:

  • yn rhan o gwmni rhyngwladol
  • yn gweithredu mewn dwy wlad, o leiaf, o fewn Ardal Economaidd Ewrop (AEE)

Mae Rheoliadau Trawswladol Hysbysu ac Ymgynghori â Chyflogeion yn rhoi hawl i gyflogeion sy'n rhan o gwmnïau rhyngwladol a chanddynt o leiaf 1,000 o gyflogeion i gael eu cynrychioli ar Gyngor Gwaith Ewropeaidd (CGE).

Fforwm hysbysu ac ymgynghori yw CGE, wedi'i gynllunio fel y gall cyflogeion o wahanol wledydd o fewn AEE gael eu hysbysu ac ymgynghori â hwy am faterion trawswladol sy'n effeithio ar y cwmni.

Mae rhai cwmnïau rhyngwladol mawr yn defnyddio CGE fel rhan o'u rhwydwaith hysbysu ac ymgynghori ledled y byd. Mae cwmnïau eraill yn sefydlu CGE o ganlyniad i gais gan eu cyflogeion.

Gofyn am gytundeb Cyngor Gwaith Ewropeaidd

Cewch ofyn i CGE gael ei sefydlu os oes gan y busnes yr ydych chi'n gweithio iddo:

  • 1,000 neu ragor o gyflogeion
  • o leiaf 150 o gyflogeion mewn dwy neu ragor o wledydd AEE

Er mwyn i gais fod yn ddilys rhaid iddo gael ei wneud gan o leiaf 100 o gyflogeion mewn o leiaf dwy gangen mewn dwy neu ragor o wledydd yr AEE.

Pan fydd cais dilys wedi ei wneud, rhaid i'ch cyflogwr wneud y trefniadau angenrheidiol er mwyn i chi allu ethol neu apwyntio cynrychiolwyr i grŵp a elwir yn CTA.

Corff trafod arbennig

Mae corff trafod arbennig yn cynnwys cynrychiolwyr cyflogeion o bob un o aelod-wladwriaethau AEE lle mae gan eich cwmni gyflogeion. Ei swyddogaeth yw cynnal trafodaethau â rheolaeth ganolog y cwmni sy'n eich cyflogi ynglŷn â chyfansoddiad a thermau y CGE.

Pan fydd CTA wedi ei sefydlu, mae gan yr aelodau hyd at dair blynedd er mwyn dod i gytundeb CGE, a fydd yn penderfynu:

  • sut caiff y CGE ei sefydlu
  • beth fydd y cyngor yn ei drafod
  • pa mor aml y bydd yn cyfarfod

Rhaid i gytundeb CGE amlinellu:

  • pa rannau o'r cwmni a gynhwysir yn y cytundeb
  • cyfansoddiad a swyddogaeth y CGE
  • y drefn hysbysu ac ymgynghori â'r CGE
  • am ba hyd y cynhelir cyfarfodydd y CGE, pa mor aml y'u cynhelir, ac ymhle
  • yr adnoddau ariannol a fydd ar gael i'r CGE
  • tan pryd y bydd y cytundeb CGE yn sefyll
  • sut y caiff ei ail-drafod

Bydd angen i'r cytundeb CGE fodloni anghenion y darpariaethau safonol (wrth gefn) a amlinellir yn y Rheoliadau Trawswladol wrth Hysbysu ac Ymgynghori â Chyflogeion. Mae'r darpariaethau safonol yn llawer mwy clir a manwl wrth drafod beth y dylai'r cwmni ymgynghori yn ei gylch, a phryd.

Tra dylai eich cyflogwr geisio bod mor agored â phosib gyda'r CGE, mae'r Rheoliadau yn caniatáu iddynt beidio â datgelu rhywfaint o wybodaeth benodol pe bai ei datgelu yn amharu'n ddifrifol ar weithrediad y cwmni.

Diogelu cyflogeion a chynrychiolwyr cyflogeion

Os gofynnwch am gytundeb CGE, neu y byddwch chi'n rhan o'r cytundeb, un ai fel cyflogai neu gynrychiolydd cyflogeion, mae gennych rai hawliau penodol. Fe'ch diogelir rhag bod ar eich colled (triniaeth annheg) neu gael eich diswyddo'n annheg gan eich cyflogwr am unrhyw reswm sy'n ymwneud â'r canlynol:

  • gofyn am wybodaeth gan eich cyflogwr
  • gofyn am gytundeb CGE
  • sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad CTA neu etholiad CGE
  • unrhyw un o'ch dyletswyddau pan fyddwch yn gynrychiolydd cyflogeion

Os ydych chi'n gynrychiolydd CTA neu'n gynrychiolydd Cyngor Gwaith Ewropeaidd, mae gennych hawl i gymryd amser i ffwrdd yn ystod oriau gwaith, o fewn rheswm, a hynny gyda thâl, er mwyn ymgymryd â'ch dyletswyddau.

Gallwch wneud cwyn i Dribiwnlys Cyflogaeth os byddwch chi'n defnyddio'ch hawliau dan y Rheoliadau Rhyngwladol wrth Hysbysu ac Ymgynghori â Chyflogeion, a bod eich cyflogwr:

  • yn gwrthod gadael i chi gymryd amser i ffwrdd, a hynny gyda thâl, o fewn rheswm
  • yn eich diswyddo mewn modd annheg
  • yn peri i chi fod 'ar eich colled' - hynny, yw eich bod dan anfantais yn y gwaith - na chewch chi godiad cyflog neu y cyfyngir ar eich oriau

Gallech chi neu'ch cynrychiolwyr wneud cwyn i'r Pwyllgor Cyflafareddu Canolog (PCC) os na fydd eich cyflogwr:

  • yn ymgynghori â staff mewn modd sy'n dderbyniol yn ôl y Rheoliadau Rhyngwladol wrth Hysbysu ac Ymgynghori â Chyflogeion
  • os na fydd eich cyflogwr yn gwneud trefniadau sy'n bodloni'r safonau hysbysu ac ymgynghori arferol - amlinellir y rhain yn y Rheoliadau Rhyngwladol wrth Hysbysu ac Ymgynghori â Chyflogeion

Os bydd y PCC yn cytuno â'ch cwyn, caiff eich cynrychiolwyr (neu chi) wneud cais i'r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth, a gofyn iddynt roi gorchymyn i'ch cyflogwr dalu cosb ariannol o hyd at £75,000.

Allweddumynediad llywodraeth y DU