Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Diswyddo annheg

Os ydych chi’n teimlo eich bod chi wedi colli’ch swydd yn annheg, un ai oherwydd y rheswm i chi gael eich diswyddo, neu'r broses a ddefnyddiwyd, mae’n bosib eich bod wedi cael eich diswyddo’n annheg, ac efallai y gallwch chi gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth.

Beth yw diswyddo annheg?

Gall eich diswyddiad fod yn annheg mewn sawl ffordd:

  • nid oes gan eich cyflogwr reswm teg dros eich diswyddo chi (e.e. os nad oedd dim o’i le ar eich perfformiad yn eich swydd)
  • ni fu i'ch cyflogwr ddilyn y broses gywir wrth eich diswyddo (e.e. os nad yw wedi dilyn prosesau diswyddo ei gwmni)
  • rydych chi wedi cael eich diswyddo am reswm sy’n annheg yn awtomatig (e.e. am fod arnoch eisiau cymryd absenoldeb mamolaeth)

Diswyddo annheg awtomatig

Ceir rhai rhesymau dros ddiswyddo sy’n annheg yn awtomatig. Os cewch chi eich diswyddo am unrhyw un o’r rhesymau hyn, dylech fedru gwneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth am ddiswyddo annheg.

diswyddo am arfer, neu geisio arfer, un o’ch hawliau cyflogaeth statudol (cyfreithiol), rydych chi’n cael eich diswyddo yn annheg yn awtomatig.

Mae hawliau cyflogaeth statudol gweithiwr yn cynnwys yr hawl:

  • i gael datganiad ysgrifenedig o fanylion cyflogaeth i gael datganiad cyflog eitemedig
  • i gael isafswm o gyfnod rhybudd
  • i gael absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu
  • i gael amser o'r gwaith ar gyfer gofal cynenedigol
  • i gael absenoldeb rhiant
  • i gael amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion
  • i gael gofyn am drefniadau gweithio hyblyg
  • i beidio â chael rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail eich rhyw, eich hil, eich anabledd, eich crefydd neu gred, eich cyfeiriadedd rhywiol na’ch oedran chi
  • i gael tâl sydd wedi’i warantu pan nad oes gwaith ar gael i chi
  • i gael amser o’r gwaith ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus (e.e. gwasanaeth rheithgor)
  • i gael gwarchodaeth rhag didynnu arian o'ch cyflog yn anghyfreithlon
  • i gael taliad cydnabyddiaeth yn ystod cyfnod atal o’r gwaith ar sail feddygol
  • i wrthod â gwneud gwaith siop na gwaith betio ar Ddydd Sul
  • i ddatgelu gwybodaeth er lles y cyhoedd neu ‘chwythu’r chwiban’

Diswyddo cyn trosglwyddo busnes, yn ystod y broses o drosglwyddo, neu ar ôl y broses

Os ydych chi’n gweithio i fusnes sy’n cael ei drosglwyddo i gwmni arall neu sy’n cael ei feddiannu, mae’n bosib eich bod chi wedi eich gwarchod o dan amddiffyniadau ‘Trosglwyddo Ymgymeriadau’ (TUPE).

Os ydych chi wedi eich gwarchod a'ch bod yn cael eich diswyddo gan un ai eich hen gyflogwr neu eich cyflogwr newydd oherwydd y trosglwyddo neu reswm cysylltiedig, bydd y diswyddo yn annheg yn awtomatig. Yr unig eithriad i hyn yw os gall eich cyflogwr ddangos bod y diswyddo wedi bod am reswm economaidd, rheswm technegol, neu reswm trefniadol.

Dewis annheg ar gyfer dileu swydd

Math ar ddiswyddo yw dileu swydd. Os yw’r rheswm dros eich dewis chi ar gyfer dileu eich swydd yn annheg, yna byddwch chi wedi cael eich diswyddo yn annheg.

Diswyddo ar sail hawliau mamolaeth neu feichiogrwydd

Os ydych chi’n feichiog, ni allwch chi gael eich diswyddo’n deg am y canlynol:

  • unrhyw reswm sy’n ymwneud â’ch beichiogrwydd
  • eich bod wedi rhoi genedigaeth a’ch bod yn cael eich diswyddo yn ystod eich absenoldeb mamolaeth arferol neu absenoldeb mamolaeth ychwanegol
  • cymryd absenoldeb mamolaeth arferol, neu absenoldeb mamolaeth ychwanegol, neu fod arnoch eisiau ei gymryd
  • mater iechyd a diogelwch a all olygu y cewch chi eich atal o’r gwaith, neu eich bod wedi cael eich atal eisoes
  • cadw mewn cysylltiad (neu beidio â chadw mewn cysylltiad) gyda’ch cyflogwr yn ystod eich absenoldeb mamolaeth

Byddai hefyd yn annheg os byddai eich cyflogwr yn eich diswyddo am i chi fod yn hwyr yn dychwelyd o’ch absenoldeb mamolaeth oherwydd i’ch cyflogwr wneud y canlynol:

  • peidio â dweud wrthych chi’n iawn pryd y bu i’ch absenoldeb ddod i ben
  • rhoi llai na 28 diwrnod o rybudd i chi o’r dyddiad y bydd eich absenoldeb mamolaeth yn dod i ben, ac nid oedd yn ymarferol i chi ddychwelyd i’r gwaith

Diswyddo yn ymwneud â gwrandawiadau disgyblu neu gwyno

Mae gennych chi’r hawl i fynd â chynrychiolydd o’r undeb llafur, neu gydweithiwr, gyda chi i gyfarfod disgyblu neu gwyno. Gallwch hefyd ohirio’r gwrandawiad, o fewn rheswm, os na all eich cydymaith fod yn bresennol. Os cewch chi eich diswyddo am geisio mynnu’r hawliau hyn, neu am fynd gyda chydweithiwr i gyfarfod, yna byddai’n annheg yn awtomatig.

Mae hyn yn berthnasol i weithwyr cyflogedig a gweithwyr eraill ill dau (e.e. gweithwyr asiantaeth).

Diswyddo yn ymwneud â’ch amser gwaith

Mae gennych chi fel arfer yr hawl i gael absenoldeb â thâl, i gael cyfnodau egwyl, ac i gyfyngu ar yr oriau cyfartalog y gall eich cyflogwr ofyn i chi eu gweithio bob wythnos. Ni allwch chi gael eich diswyddo’n deg am wrthod gwneud y canlynol:

  • torri eich hawliau amser gwaith – hyd yn oed os yw eich cyflogwr yn dweud wrthych chi am weithio
  • ildio un o’ch hawliau amser gwaith
  • llofnodi cytundeb gweithlu sy’n effeithio ar eich hawliau amser gwaith

Diswyddo yn ymwneud â gweithio rhan-amser neu weithio cyfnod penodol

Fel gweithiwr rhan-amser, neu weithiwr cyfnod penodol, ni ddylech chi gael eich trin yn llai ffafriol na gweithwyr amser llawn neu barhaol (e.e. dylech chi gael cynnig yr un hawliau a buddiannau cyflogaeth, neu rai cyfwerth). Ni allwch chi gael eich diswyddo’n deg:

  • am mai rhan-amser yr ydych yn gweithio
  • am wneud cwyn ynghylch cael eich trin yn llai ffafriol na gweithiwr arall
  • am roi tystiolaeth neu gymryd rhan mewn cwyn a godwyd gan weithiwr arall
  • am fod eich cyflogwr yn credu eich bod wedi bwriadu gwneud unrhyw rai o’r uchod

Diswyddo yn gysylltiedig â rhesymau yn ymwneud ag undeb llafur

Os ydych chi’n cael eich diswyddo am reswm sy’n ymwneud ag aelodaeth o undeb llafur, cydnabyddiaeth o un neu gronfeydd tanysgrifiadau undeb llafur bydd yn annheg yn awtomatig. Mae hyn yn cynnwys cael eich diswyddo am y canlynol:

  • dewis ymuno, neu beidio ag ymuno, neu i gymryd rhan yng ngweithgareddau undeb llafur neu undeb llafur annibynnol, neu am ddefnyddio’i wasanaethau
  • gwrthod ag ildio eich hawliau o dan gytundeb ar y cyd
  • gwrthwynebu neu wrthod talu am aelodaeth undeb
  • dangos eich cefnogaeth, neu ddiffyg cefnogaeth, tuag unrhyw agwedd ar gydnabod undeb llafur yn y gweithle
  • gofyn i’ch cyflogwr beidio â thalu cyfraniad o’ch tanysgrifiad i undeb llafur i gronfa wleidyddol yr undeb llafur
  • gwrthwynebu didynnu tanysgrifiadau undeb llafur anawdurdodedig neu ormodol o'ch tâl

Diswyddo yn ystod anghydfod diwydiannol

Mae’n annheg yn awtomatig i’ch cyflogwr eich diswyddo am fod yn rhan o weithredu diwydiannol cyfreithiol sy’n para 12 wythnos neu lai. Os yw’r gweithredu diwydiannol yn para mwy na 12 wythnos gan nad yw eich cyflogwr wedi cymryd camau rhesymol i ddatrys yr anghydfod, rydych chi wedi eich gwarchod rhag eich diswyddo yn annheg.

Os ydych chi’n bod yn rhan o weithredu diwydiannol anghyfreithlon gallai eich cyflogwr eich diswyddo yn deg, cyn belled â’i fod yn eich trin chi'r un fath â’r gweithwyr eraill a oedd yn rhan o’r gweithredu diwydiannol anghyfreithlon.

Diswyddo yn ymwneud â’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Ni allwch chi gael eich diswyddo’n deg am y canlynol:

  • cymhwyso ar gyfer cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, neu ar fin cymhwyso ar ei gyfer
  • mynnu bod gennych chi’r hawl i gael o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • riportio eich cyflogwr am beidio â thalu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Diswyddo yn ymwneud â gweithgarwch fel ymddiriedolwr cynllun pensiwn galwedigaethol

Os ydych chi’n weithiwr sydd hefyd yn ymddiriedolwr cynllun pensiwn galwedigaethol, mae gennych chi’r hawl i gael amser rhesymol o’r gwaith ar gyfer eich dyletswyddau. Ni allwch chi gael eich diswyddo’n deg am gyflawni eich dyletswyddau, nac am geisio eu cyflawni.

Diswyddo am weithredu ar sail iechyd a diogelwch

Rydych chi wedi cael eich diswyddo’n annheg os ydych chi wedi cael eich diswyddo am y canlynol:

  • gweithredu, neu geisio gweithredu, i gyflawni eich swyddogaeth fel cynrychiolydd iechyd a diogelwch i leihau’r risg i iechyd a diogelwch
  • cyflawni, neu geisio cyflawni, eich dyletswyddau fel aelod pwyllgor neu gynrychiolydd iechyd a diogelwch swyddogol neu gydnabyddedig gan y cyflogwr
  • rhoi gwybod i’ch cyflogwr am bryder ynglŷn ag iechyd a diogelwch yn y gweithle
  • gadael, bwriadu gadael neu wrthod â dychwelyd i weithle (neu unrhyw ran beryglus ohono) os oes perygl difrifol ar fin digwydd na allwch chi ei atal
  • cymryd, neu geisio cymryd y camau priodol i'ch diogelu chi'ch hun neu bobl eraill rhag perygl difrifol sydd ar fin digwydd

Diswyddo yn ymwneud â gweithgarwch fel cynrychiolydd gweithwyr

Ni allwch chi gael eich diswyddo’n deg am fod yn gynrychiolydd gweithwyr (nac am ystyried bod yn gynrychiolydd gweithwyr) ar gyfer ymgynghori â’ch cyflogwr am y canlynol:

  • dileu swyddi
  • trosglwyddo busnes

Ni allwch chi gael eich diswyddo’n deg am gyflawni eich dyletswyddau fel y canlynol (nac am fod yn un o'r canlynol):

  • cynrychiolydd Cyngor Gwaith Ewropeaidd
  • aelod o gorff trafod arbennig
  • cynrychiolydd gwybodaeth ac ymgynghori

Diswyddo yn ymwneud â chredydau treth

Rydych chi wedi cael eich diswyddo’n annheg os ydych chi wedi cael eich diswyddo oherwydd:

  • bod gennych chi’r hawl i Gredydau Treth Gwaith, neu y bydd gennych chi'r hawl iddynt neu ei bod yn bosib bod gennych chi’r hawl iddynt.
  • eich bod wedi ceisio gorfodi eich hawl i gael Credydau Treth Gweithio
  • bod eich cyflogwr wedi cael ei erlyn neu wedi cael dirwy o ganlyniad i chi geisio gorfodi eich hawl

Allweddumynediad llywodraeth y DU