Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Camau i'w cymryd os cewch eich diswyddo'n annheg

Os ydych yn teimlo i chi gael eich diswyddo’n annheg gan eich cyflogwr, dylech geisio apelio o dan weithdrefnau diswyddo neu ddisgyblu eich cyflogwr. Os na fydd hyn yn gweithio, mae’n bosib y bydd modd i chi apelio i Dribiwnlys Cyflogaeth (Tribiwnlys Diwydiannol yng Ngogledd Iwerddon).

Datrys y broblem gyda’ch cyflogwr

Dylech geisio datrys y rhesymau dros eich diswyddo gyda'ch cyflogwr cyn gwneud cwyn ffurfiol am ddiswyddo annheg.

Gallech chi a'ch cyflogwr geisio cymodi drwy’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas), lle bydd arbenigwr yn eich helpu i ddatrys y broblem.

Opsiwn arall yw cyflafareddu unigol, lle mae cyflafareddwr annibynnol yn gwrando'r achos ac yn gwneud penderfyniad sy'n gyfreithiol-rwym.

Pethau i'w cadw mewn cof

Cadwch gopïau o unrhyw lythyrau y byddwch yn eu hanfon, a nodiadau ysgrifenedig o gyfarfodydd a sgyrsiau ffôn.

Wrth i chi chwilio am swydd newydd, efallai y gallwch hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, Budd-dal Tai, neu Fudd-dal Treth Cyngor.

Mynd i Dribiwnlys Cyflogaeth

Os ydych am gyflwyno hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth am ddiswyddo annheg, fel arfer bydd angen cyfnod cymhwyso arnoch. Newidiodd hyn ar 6 Ebrill 2012:

  • i gyflogeion sy’n dechrau swydd newydd ar 6 Ebrill 2012 neu ar ôl hynny, dwy flynedd yw’r cyfnod cymhwyso ar gyfer yr hawl i hawlio am ddiswyddo annheg – dwy flynedd yw’r hawl i ofyn am reswm ysgrifenedig am ddiswyddo
  • i gyflogeion yn gweithio cyn 6 Ebrill 2012 mae’r cofnod cymhwyso'r un fath sef un flwyddyn - mae’r hawl i ofyn am reswm ysgrifenedig am ddiswyddo'r un fath sef un flwyddyn

Os cawsoch eich diswyddo am reswm sy’n annheg yn awtomatig, gallwch wneud cwyn ni waeth ers faint ydych chi'n gweithio i’ch cyflogwr.

Ni chewch wneud cwyn am ddiswyddo annheg os ydych yn:

  • weithiwr (yn hytrach na chyflogai)
  • aelod o’r lluoedd arfog
  • hunangyflogedig
  • gweithiwr asiantaeth dros dro sy’n gweithio o dan gontract ar gyfer gwasanaethau
  • pysgotwr cyfran
  • aelod o'r gwasanaeth heddlu (oni bai i chi gael eich diswyddo am gymryd camau ar sail iechyd a diogelwch neu am ddatgelu gwybodaeth er lles y cyhoedd)
  • gweithiwr sydd wedi’i eithrio rhag y darpariaethau diswyddo annheg o dan orchymyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau (er nad oes rhai’n berthnasol ar hyn o bryd)

Cytuno i beidio â gwneud cwyn am ddiswyddo annheg

Os ydych wedi gwneud ‘cytundeb cyfaddawd’ gyda’ch cyflogwr lle gwnaethoch gytuno i beidio â gwneud cwyn am ddiswyddo annheg, ni allwch wneud cwyn i'r Tribiwnlys Cyflogaeth. Rhaid i chi gael cyngor cyfreithiol annibynnol wrth wneud ‘cytundeb cyfaddawd’ gyda’ch cyflogwr.

Gwneud eich cwyn

Pan fyddwch yn gwneud hawliad am ddiswyddo annheg, mae’n rhaid i chi gyflwyno’r hawliad i'r Tribiwnlys Cyflogaeth cyn pen tri mis i chi gael eich diswyddo.

Eich gwaith chi yw profi eich bod wedi cael eich diswyddo. Bydd hyn yn amlwg fel arfer, ond gall fod yn anoddach os ydych yn hawlio eich bod wedi gorfod gadael eich swydd oherwydd ymddygiad eich cyflogwr.

Os byddwch yn llwyddiannus

Os bydd Tribiwnlys Cyflogaeth yn penderfynu o'ch plaid, fel arfer fe roddir iawndal i chi. Weithiau, cewch y cyfle i ddychwelyd i’ch swydd. Does dim rhaid i chi gymryd eich swydd yn ôl, ond mae'n bosib y bydd eich iawndal yn is os na wnewch chi hynny.

Pwrpas yr iawndal yw eich rhoi yn yr un sefyllfa ariannol â phetaech heb gael eich diswyddo - chewch chi ddim iawndal am deimladau sydd wedi'u brifo (oni bai eich bod wedi hawlio gwahaniaethu anghyfreithlon ac i’r hawliad fod yn llwyddiannus). Disgwylir i chi leihau unrhyw golled ariannol gymaint â phosib drwy gofrestru ar gyfer gwaith neu chwilio am swydd newydd.

Gall y Tribiwnlys Cyflogaeth leihau eich iawndal os bydd yn penderfynu bod eich ymddygiad chi wedi cyfrannu at eich diswyddo.

Rhyddhad interim

Mewn rhai achosion, cewch wneud cais i’r Tribiwnlys Cyflogaeth am ryddhad interim os ydych wedi cael eich diswyddo. Os yw’r Tribiwnlys Cyflogaeth yn credu y bydd eich cwyn yn llwyddiannus yn y gwrandawiad llawn, gall orchymyn:

  • eich bod yn cael dychwelyd i’ch swydd (sy’n golygu y dylid eich trin fel na phetaech erioed wedi cael eich diswyddo)
  • eich ailbenodi (sy’n golygu y dylech gael eich ailgyflogi ond nid o reidrwydd yn yr un swydd na chyda'r un telerau ac amodau cyflogaeth)
  • bod eich contract cyflogaeth yn parhau am y tro (sy’n golygu y bydd eich contract cyflogaeth yn parhau nes byddwch wedi datrys eich hawliad)

Gallwch wneud cais am ryddhad interim os ydych yn credu i chi gael eich diswyddo oherwydd:

  • rheswm yn ymwneud ag undeb llafur (e.e. am eich bod yn aelod)
  • un o’ch dyletswyddau fel cynrychiolydd iechyd a diogelwch, ymddiriedolwr cynllun pensiwn galwedigaethol neu gynrychiolydd cyflogeion
  • eich bod wedi datgelu gwybodaeth er lles y cyhoedd (gelwir hefyd yn chwythu’r chwiban)
  • eich bod yn dymuno i rywun ddod gyda chi i gyfarfod yn ymwneud â chŵyn neu ddisgyblu
  • eich bod yn dymuno gwneud cais i beidio ag ymddeol neu i drafod hynny, neu oherwydd bod arnoch eisiau i rywun ddod gyda chi i gyfarfod i drafod eich cais

Dylech gyflwyno hawliad ar gyfer rhyddhad interim cyn pen saith niwrnod o gael eich diswyddo.

Allweddumynediad llywodraeth y DU