Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael eich diswyddo gan eich cyflogwr

Gallai eich cyflogwr eich diswyddo am nifer o wahanol resymau. Os yw’ch cyflogwr yn eich diswyddo o’ch gwaith neu'n terfynu eich contract cyflogaeth, mae gennych chi hawliau penodol i wneud yn siŵr bod y rheswm dros eich diswyddo yn deg.

Beth yw diswyddo?

Pan fydd cyflogwr yn dod â chyflogaeth unigolyn i ben, gelwir hyn yn ddiswyddo. Gallai hyn ddigwydd mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • os yw’ch cyflogwr yn dweud wrthych ei fod yn terfynu’ch cyflogaeth, gyda rhybudd neu heb rybudd
  • os yw’ch cyflogwr yn torri eich contract cyflogaeth i’r fath raddau eich bod yn cael eich gorfodi i adael (gelwir hyn yn ddiswyddo oherwydd ymddygiad cyflogwr)
  • os nad yw’ch contract cyfnod penodol yn cael ei adnewyddu

Cyfrifoldebau eich cyflogwr

Os yw’ch cyflogwr yn eich diswyddo, mae’n ofynnol:

  • bod ganddo reswm dilys y gellir ei gyfiawnhau (e.e. os nad ydych chi wedi bod yn gallu gwneud eich gwaith)
  • ei fod wedi gweithredu'n rhesymol yn yr amgylchiadau (e.e. os nad oedd hyfforddiant neu gymorth i helpu)

Mae gofyn bod eich cyflogwr wedi ymchwilio’n llawn i’r sefyllfa cyn eich diswyddo. Os aeth eich cyflogwr ati i weithredu’n deg, ond ei fod wedi dod i’r casgliad anghywir, (ee os cafodd y ffeithiau’n anghywir) ni fydd hyn o reidrwydd yn golygu eich bod wedi cael eich diswyddo’n annheg.

Mae’n rhaid bod eich cyflogwr yn gallu dangos ei fod wedi bod yn gyson ac nad yw wedi eich diswyddo am wneud rhywbeth y bydd fel arfer yn gadael i gyflogeion eraill ei wneud. Efallai y bydd modd i chi hawlio eich bod wedi cael eich diswyddo’n annheg os gallwch brofi nad oedd eich cyflogwr wedi sôn wrthych am un o reolau neu bolisïau'r cwmni, a bod hynny’n berthnasol i’r achos.

Diswyddo annheg

Os bydd eich cyflogwr yn eich diswyddo (neu’n eich gorfodi i adael eich gwaith) heb reswm da, neu os na fydd yn dilyn camau diswyddo teg, gelwir hyn yn ddiswyddo annheg.

Os cewch eich diswyddo am i chi geisio mynnu un o’ch hawliau cyflogaeth statudol, gallai hyn fod yn ddiswyddo annheg yn awtomatig.

Yn y rhan fwyaf o achosion, cyn y i chi hawlio eich bod wedi cael eich diswyddo’n annheg bydd angen cyfnod cymhwyso arnoch.

Newidiodd y cyfnod cymhwyso ar 6 Ebrill 2012:

  • i gyflogeion sy’n dechrau swydd newydd ar 6 Ebrill 2012 neu ar ôl hynny, mae’r cyfnod cymhwyso ar gyfer yr hawl i hawlio am ddiswyddo annheg yn ddwy flynedd – mae’r hawl i ofyn am reswm ysgrifenedig am ddiswyddo yn ddwy flynedd
  • i gyflogeion yn gweithio cyn 6 Ebrill 2012 mae’r cofnod cymhwyso'r un fath sef un flwyddyn - mae’r hawl i ofyn am reswm ysgrifenedig am ddiswyddo'r un fath sef un flwyddyn

Diswyddo ar gam

Os bydd eich cyflogwr yn torri eich contract wrth eich diswyddo neu eich gorfodi i adael, gelwir hyn yn ddiswyddo ar gam. Er enghraifft, efallai ei fod wedi eich diswyddo heb rybudd neu heb ddilyn y drefn disgyblu a diswyddo.

Gellir diswyddo rhywun ar gam ac mewn modd annheg.

Faint o rybudd y mae’n rhaid i’ch cyflogwr ei roi i chi?

Fel rheol, mae’n rhaid i’ch cyflogwr sicrhau eich bod yn cael y cyfnod rhybudd a nodir yn eich contract cyflogaeth o leiaf, neu'r cyfnod rhybudd sylfaenol statudol – pa un bynnag yw'r hiraf.

Mae ‘Diswyddo yn y fan a’r lle’ yn golygu diswyddo heb rybudd, a dim ond mewn sefyllfaoedd o ‘gamymddwyn difrifol’ y caniateir hyn. Dylai sefyllfa o’r fath fod yn ddigon difrifol i’ch cyflogwr eich diswyddo heb rybudd (e.e. am i chi ymddwyn yn dreisgar). Dylai eich cyflogwr bob amser ymchwilio i'r amgylchiadau cyn eich diswyddo, hyd yn oed mewn achosion o gamymddwyn difrifol posib.

Cyfrifo pryd mae eich contract cyflogaeth yn dod i ben

Os bydd eich cyflogwr yn rhoi rhybudd i chi y byddwch yn cael eich diswyddo, bydd eich contract cyflogaeth yn dod i ben ar ddiwrnod olaf eich rhybudd. Os byddwch yn gweithio y tu hwnt i'r dyddiad hwn, bydd eich contract cyflogaeth yn dal i ddod i ben ar ddiwrnod olaf eich rhybudd.

Os caiff eich contract ei derfynu heb rybudd gan eich cyflogwr ac nad oes gennych chi hawl i gael rhybudd (e.e. os cewch eich diswyddo am gamymddwyn difrifol) bydd eich cyflogaeth yn dod i ben ar y diwrnod y cewch eich diswyddo.

Os bydd eich cyflogwr yn rhoi cyfnod rhybudd llai i chi na’r hyn y mae gennych hawl iddo, bydd eich contract cyflogaeth yn dod i ben ar y dyddiad y byddai wedi dod i ben pe baech wedi cael y rhybudd cywir.

Os ydych chi’n weithiwr cyfnod penodol, bydd eich contract cyflogaeth yn dod i ben ar y dyddiad y cytunwyd arno ymlaen llaw.

Os byddwch chi’n cael taliad yn lle rhybudd (‘PILON’), fel rheol, daw eich cyflogaeth i ben ar y diwrnod olaf y byddwch yn gweithio i’ch cyflogwr. Dylai eich hawl i gael PILON fod wedi’i nodi yn eich contract cyflogaeth.

Eich hawl i gael rhesymau ysgrifenedig dros eich diswyddo

Mae’n ymarfer da i gyflogwr roi rhesymau dros ddiswyddo. Mae gennych chi hawl i gael datganiad ysgrifenedig gan eich cyflogwr yn rhoi’r rhesymau dros eich diswyddo:

  • os ydych chi’n gyflogai ac wedi gweithio i’ch cyflogwr am flwyddyn
  • os ydych chi’n gyflogedig dan gontract cyfnod penodol sydd wedi dod i ben ac na fydd yn cael ei adnewyddu
  • os cawsoch eich diswyddo a chithau’n feichiog neu ar gyfnod o absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu

Os byddwch chi’n cael problemau

Os oes gennych chi hawl i gael rhesymau ysgrifenedig sy’n dweud pam eich bod wedi cael eich diswyddo, gallwch gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth:

  • os yw eich cyflogwr yn gwrthod rhoi’r rhesymau i chi
  • os nad ydych chi’n meddwl mai’r rhesymau a roddwyd yw’r rhai go iawn

Efallai y byddwch am roi cynnig ar ddefnyddio trefn gwyno eich cwmni cyn gwneud hyn (ond does dim rhaid i chi).

Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi cael eich diswyddo’n annheg, gallech ystyried hawlio eich bod wedi cael eich diswyddo’n annheg mewn Tribiwnlys Cyflogaeth.

Lle i gael help

Edrychwch ar yr adran cysylltiadau cyflogaeth i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â lle i gael rhagor o gymorth neu gyngor ynghylch materion yn ymwneud â chyflogaeth. Os ydych chi’n aelod o undeb llafur gallwch hefyd gael cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw.

Allweddumynediad llywodraeth y DU