Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfnodau rhybudd

Pan fydd eich cyflogaeth yn dod i ben, fel arfer dylech roi neu dylech gael cyfnod rhybudd penodol. Gallai’ch contract cyflogaeth ehangu’r cyfnod hwn. Yma cewch wybod faint o rybudd y mae’n rhaid i’ch cyflogwr ei roi i chi.

Rhybudd y bydd yn rhaid i chi ei roi i'ch cyflogwr

Os ydych wedi gweithio i’ch cyflogwr ers mis neu fwy, wythnos yw’r cyfnod rhybudd cyfreithiol sylfaenol y mae’n rhaid i chi ei roi.

Fel rheol, bydd eich contract cyflogaeth yn nodi cyfnod rhybudd hwy. Os yw’n gwneud hynny, dylech roi’r cyfnod hwn o rybudd i’ch cyflogwr.

Os nad yw’ch contract cyflogaeth yn nodi cyfnod rhybudd, dylech roi cyfnod rhybudd rhesymol i’ch cyflogwr. Mae hyn wedi’i gynnwys fel ‘telerau dealledig’ yn eich contract cyflogaeth. Bydd yr hyn sy'n 'rhesymol' yn dibynnu ar lefel eich swydd ac ers faint ydych chi’n gweithio yno.

I gael mwy o arweiniad gallech gysylltu ag Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) neu gorff cynghori arall

Rhybudd y bydd yn rhaid i'ch cyflogwr ei roi i chi

Beth bynnag y dywed eich contract, rhaid i'ch cyflogwr roi o leiaf y cyfnod rhybudd sylfaenol statudol i chi, sy'n dibynnu ar ers faint yr ydych yn gweithio iddo:

  • un wythnos os ydych wedi'ch cyflogi'n barhaus am gyfnod o rhwng un mis a dwy flynedd
  • un wythnos am bob blwyddyn gyfan (hyd at uchafswm o 12) os ydych wedi'ch cyflogi'n barhaus am ddwy flynedd neu fwy

Felly, er enghraifft, os oes gennych wasanaeth o chwe blynedd a hanner, bydd gennych hawl i chwe wythnos o rybudd.

Contractau cyfnod penodol

Bydd contract cyfnod penodol yn dod i ben yn awtomatig (heb rybudd) ar ddyddiad gorffen y contract. Mae hyn yn fath o ddiswyddo. Os bydd eich cyflogwr yn dirwyn y contract i ben cyn y dyddiad y cytunwyd arno, byddai’n torri’r contract. Mae’n bosib y gallech hawlio iawndal am y tâl sy’n ddyledus i chi ac unrhyw fuddion y dylech eu cael yn ystod gweddill y cyfnod penodol.

Mae’r hawliau hyn yn berthnasol i brentisiaid hefyd, ac maent hwy ar gontractau cyfnod penodol fel rheol. Os byddwch yn aros gyda’ch cyflogwr ar ôl cwblhau eich prentisiaeth, bydd eich cyfnod fel prentis yn cyfri wrth gyfrifo’ch cyfnod rhybudd statudol.

Pan nad yw’r hawl i rybudd sylfaenol yn berthnasol

Mewn rhai achosion, mae’n bosib na fydd gennych hawl i gael cyfnod rhybudd sylfaenol cyn y bydd eich cyflogwr yn eich diswyddo, er enghraifft:

  • os nad ydych yn gyflogai, er enghraifft contractwr annibynnol neu asiant llawrydd
  • os ydych yn llongwr ar long a gofrestrwyd yn y Deyrnas Unedig a’ch bod yn aelod o griw sy’n dilyn y telerau a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth
  • os ydych yn was sifil
  • os ydych yn aelod o’r lluoedd arfog

Beth i'w wneud nesaf

Os nad ydych wedi cael rhybudd priodol (er enghraifft, os dywedir wrthych fod eich cyflogaeth yn terfynu'n syth), dylech anfon llythyr i’ch cyflogwr yn gofyn am dâl yn lle rhybudd diswyddo (PILON). Os oes gennych o leiaf blwyddyn o wasanaeth, gallech hefyd ofyn i’ch cyflogwr am gael y rhesymau dros eich diswyddo ar bapur.

Allweddumynediad llywodraeth y DU