Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os oes arnoch eisiau ymddiswyddo, neu os yw eich cyflogwr yn rhoi rhybudd ei fod am eich diswyddo, dylech chi ddilyn y camau priodol i sicrhau nad yw eich contract cyflogaeth yn cael ei dorri. Yma, cewch wybod beth yw’r camau hyn a beth yw eich hawliau cyflogaeth.
Gallwch chi neu eich cyflogwr roi rhybudd unrhyw bryd. Fel arfer, bydd y cyfnod rhybudd yn dechrau ar y bore canlynol. Er enghraifft, os ydych chi’n rhoi rhybudd ar ddydd Llun, bydd eich cyfnod rhybudd yn dechrau fore dydd Mawrth ac yn gorffen brynhawn dydd Llun.
Dylech chi ddarllen eich contract cyflogaeth. Os ydyw'n nodi trefn wahanol ar gyfer pryd y gall rhybudd gael ei roi neu pryd y bydd eich cyfnod rhybudd yn dechrau, yna mae’n rhaid i chi a’ch cyflogwr ddilyn y cytundeb sy’n eich contract.
Ceir rhai ffurfiau o ddiswyddo sy’n golygu nad oes yn rhaid i chi na’ch cyflogwr roi na chael rhybudd.
Dylai’r ddyletswydd i roi rhybudd fod yn rhan o'ch contract cyflogaeth chi. Os nad ydych chi na'ch cyflogwr yn rhoi'r rhybudd priodol, bydd hyn yn gyfystyr â thorri contract. Gall hyn ddigwydd:
Gallwch chi ddewis cytuno ar gyfnod rhybudd byrrach gyda’ch cyflogwr. Bydd eich cyflogaeth yn dod i ben ar y dyddiad y cytunwyd arno a dim ond am y cyfnod y cytunwyd arno y cewch eich talu.
Os oes arnoch eisiau newid sut rydych chi a’ch cyflogwr yn rheoli eich rhybudd, dylech geisio dod i gytundeb gyda’ch cyflogwr ac, os oes modd, cael hwnnw ar bapur.
Mae gan eich cyflogwr yr hawl i'ch diswyddo heb unrhyw rybudd (diswyddo'n syth) os ydych chi wedi camymddwyn yn ddifrifol. Yn yr un modd, mae gennych chi’r hawl i ystyried eich bod chi wedi cael eich diswyddo heb rybudd pan fydd eich cyflogwr wedi torri contract mewn modd difrifol (diswyddo oherwydd ymddygiad cyflogwr - constructive dismissal).
Arian a delir i chi yn lle cael eich cyfnod rhybudd llawn yw tâl yn lle rhybudd diswyddo. Gellir naill ai ei bennu yn eich contract cyflogaeth fel opsiwn i'ch cyflogwr, neu gellir ei dalu yn syml er mwyn gwarchod y cyflogwr rhag y posibilrwydd o orfod talu iawndal am dorri contract.
Os oes cymal tâl yn lle rhybudd diswyddo yn eich contract, bydd y swm a gewch yn cael ei nodi yno fel arfer. Os na chaiff ei nodi yno, bydd yn rhaid i chi a'ch cyflogwr gytuno ar swm priodol. Weithiau, mae’n bosib y byddwch chi’n barod i dderbyn swm bychan os byddai o fudd i chi adael yn gynnar.
Fel arfer bydd y swm a gewch yn cynnwys popeth y byddech chi wedi'i ennill yn ystod eich cyfnod rhybudd. Bydd hyn yn cynnwys eich tâl sylfaenol ac mae’n bosib y bydd yn cynnwys pethau eraill megis comisiwn neu iawndal am golli buddiannau (e.e. defnydd personol o gar cwmni, ffôn neu yswiriant meddygol).
Efallai y bydd eich cyflogwr yn penderfynu caniatáu i chi ddefnyddio buddiannau megis car cwmni yn ystod eich cyfnod rhybudd. Os nad ydych yn teimlo bod y swm y mae'ch cyflogwr yn ei gynnig i chi yn gymaint â'r hyn y byddech chi wedi'i ennill, gallwch barhau i ystyried dwyn achos o dorri contract.
Mae'n bosib y cewch rybudd gan eich cyflogwr ac y dywedir wrthych am gadw o'r gwaith yn ystod eich cyfnod rhybudd. Gelwir hyn yn 'garden leave' ac fe'i defnyddir yn aml i stopio gweithwyr rhag gweithio i gystadleuwyr am gyfnod o amser.
Mae'n ddefnyddiol i'ch cyflogwr oherwydd bod gweithiwr yn y sefyllfa honno'n dal yn rhwym wrth ddyletswyddau'i gontract (e.e. dyletswydd i barchu cyfrinachedd) tan ddiwedd y cyfnod rhybudd. Gellir hefyd ofyn i chi ddod yn ôl i'r gwaith os oes angen. Yn yr amgylchiadau hyn, mae gennych chi'r hawl i'ch tâl arferol ac unrhyw fuddiannau gan y cwmni.
Os oes gennych chi gŵyn am sut y bu i'ch cyflogwr roi rhybudd i chi, dylech chi geisio datrys y broblem yn anffurfiol gydag ef. Os na fydd hyn yn llwyddiannus, gallwch chi ddilyn trefniadau cwyno eich cwmni.
Os ydych chi a’ch cyflogwr yn dal i fethu datrys y broblem, efallai y gallwch chi wneud cwyn am dorri contract i Dribiwnlys Cyflogaeth.