Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os yw'ch cyflogwr yn eich diswyddo dylai ddilyn trefniadau penodol. Mewn rhai achosion efallai y gall eich cyflogwr eich diswyddo yn y fan a'r lle heb ddilyn y drefn ddisgyblu arferol.
Os yw'ch cyflogwr yn eich diswyddo yn y fan a'r lle heb ymchwilio o gwbl i'r rhesymau pam yr ydych yn cael eich diswyddo, ystyrir yr amgylchiadau'n annheg bron bob amser. Os yw un o'ch cyd-weithwyr yn eich cyhuddo o wneud rhywbeth a bod eich cyflogwr, yn hytrach nag ymchwilio i'r honiadau, yn eich diswyddo yn y fan a'r lle, mae hyn yn enghraifft o ddiswyddo annheg.
Mewn rhai achosion prin iawn sy'n ymwneud â chamymddwyn difrifol gellid ystyried rhai diswyddiadau awtomatig yn deg gan nad oes angen i'ch cyflogwr gynnal ymchwiliad. Yn yr achosion hyn gall eich cyflogwr ddilyn trefn ddisgyblu dau gam. Gallai eich diswyddo a mynd yn syth o'r datganiad ysgrifenedig i'r apêl heb gynnal gwrandawiad yn y canol.
Ceir rhai amgylchiadau lle gall eich cyflogwr eich diswyddo'n awtomatig neu gymryd camau disgyblu yn eich erbyn heb ddilyn y drefn arferol:
Os oes gan eich cyflogwr sail resymol dros gredu y byddai dilyn trefniadau disgyblu arferol yn arwain at fygythiad sylweddol i'r canlynol, nid oes rhaid iddo ddilyn y trefniadau disgyblu arferol
Os mai'r ffordd orau o fynd â'r materion rhagddynt yw cael trafodaeth rhwng eich cyflogwr a chynrychiolwr y cyflogeion, nid oes rhaid dilyn y trefniadau disgyblu arferol. Er enghraifft, os yw'ch cyflogwr yn diswyddo grŵp o staff ac yna, cyn i'r gyflogaeth ddod i ben neu pan fydd hynny'n digwydd, yn cynnig eu cymryd yn ôl dan wahanol delerau ac amodau.
Dyletswydd i ymgynghori
Os oes gan eich cyflogwr ddyletswydd i ymgynghori â chynrychiolwyr y cyflogeion os oes mwy nag un unigolyn am golli ei swydd, nid oes rhaid iddynt ddilyn y trefniadau disgyblu arferol.
Gweithredu diwydiannol
Os cewch eich diswyddo pan rydych yn cymryd camau gweithredu diwydiannol nid oes rhaid i'ch cyflogwr ddilyn y trefniadau gweithredu arferol. Ceir trefniadau arbennig yng nghyd-destun gweithredu cyfreithiol sy’n cael ei drefnu’n swyddogol.
Ni chaiff eich cyflogwr barhau i'ch cyflogi
Os na fydd yn bosib i'r gyflogaeth barhau, er enghraifft, os yw ffatri'n llosgi i'r llawr ac nad yw'n ymarferol i'ch cyflogwr gyflogi neb mwyach neu os daw'n anghyfreithlon i'ch cyflogwr roi gwaith i gyflogai penodol, nid oes rhaid i'ch cyflogwr ddilyn y trefniadau disgyblu arferol.
Nid yw'n bosibl defnyddio'r trefniadau
Os nad yw'n bosibl neu'n ymarferol i chi na'ch cyflogwr gydymffurfio â'r gweithdrefnau o fewn cyfnod rhesymol yna nid oes yn rhaid i chi eu dilyn.
Rhybudd llafar ac ysgrifenedig neu waharddiad dros dro ar gyflog llawn
Os bydd eich cyflogwr yn rhoi rhybudd llafar neu ysgrifenedig i chi neu'n eich gwahardd dros dro ar gyflog llawn, nid oes yn rhaid iddynt ddilyn y trefniadau disgyblu arferol. Os nad ydych yn cytuno â chamau eich cyflogwr gallwch gwyno.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.
O 6 Ebrill 2009 ymlaen, os oes gennych anghydfod sy'n debygol o droi yn achos Tribiwnlys Cyflogaeth, efallai y gall Acas gynnig gwasanaeth cymodi cynnar i chi am ddim. Dylech gysylltu â llinell gymorth Acas i gael gwybod a fyddai hyn yn addas i chi.
Am ragor o wybodaeth am ble i gael cymorth gyda materion cyflogaeth, ewch i dudalen cysylltiadau cyflogaeth.