Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Materion disgyblu yn y gwaith

Bydd cyflogwyr yn defnyddio trefniadau disgyblu i roi gwybod i weithwyr nad yw eu perfformiad neu’u hymddygiad yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig, a hefyd i annog gwelliant. Os ydych chi wedi cael eich disgyblu yn y gwaith, cewch wybod am y broses ddisgyblu yma.

Trefniadau disgyblu

Mae trefn ddisgyblu yn ffordd i’ch cyflogwr roi gwybod i chi bod rhywbeth o'i le. Mae'n ei alluogi i esbonio'n eglur pa welliant sy'n angenrheidiol, a dylai roi cyfle i chi esbonio eich ochr chi o'r sefyllfa. Gall arwain at gamau disgyblu, gan gynnwys diswyddo mewn achosion mwy difrifol.

Cyn cymryd camau disgyblu ffurfiol neu eich diswyddo, mae’n bosib y bydd eich cyflogwr yn ceisio codi'r mater yn anffurfiol gyda chi. Mae hyn yn aml yn ffordd dda o ddatrys problem yn gyflym. Weithiau, gallai'r broblem ddeillio o ganlyniad i gamddealltwriaeth, ac mae'n bosib y gallwch roi tystiolaeth er mwyn egluro'r sefyllfa.

Gall eich cyflogwr benderfynu mynd yn uniongyrchol at ei drefniadau disgyblu neu ddiswyddo ffurfiol.

Cod Ymarfer Acas ar drefniadau disgyblu a chwyno

Mae gan Acas God Ymarfer ar drefniadau disgyblu a chwyno (y Cod). Mae’n pennu’r egwyddorion y dylech chi a’ch cyflogwr eu dilyn er mwyn cyrraedd safon o ymddygiad sy’n rhesymol o ran ymdrin â sefyllfaoedd disgyblu a diswyddo.

Trefniadau disgyblu cyflogwr

Yn unol â'r Cod, mae trefn ddisgyblu eich cyflogwr yn debygol o gynnwys y camau canlynol:

  • llythyr gan eich cyflogwr yn nodi’r mater
  • cyfarfod â'ch cyflogwr i drafod y mater
  • y gallu i apelio yn erbyn penderfyniad eich cyflogwr

Dylai eich cyflogwr sicrhau bod ei drefn ddisgyblu ar gael yn ysgrifenedig, a sicrhau eich bod yn gallu ei weld yn hwylus. Er enghraifft, gall roi’r manylion i chi yn llawlyfr y staff. Dylai’r manylion gynnwys:

  • rheolau trefn ddisgyblu eich cyflogwr
  • pa berfformiad ac ymddygiad a allai arwain at gamau disgyblu
  • pa gamau y gallai eich cyflogwr eu cymryd

Mae'n rhaid i'ch cyflogwr hefyd roi i chi, yn ysgrifenedig, enw'r sawl y gallwch ei holi os nad ydych yn fodlon gyda phenderfyniad eich cyflogwr.

Gall eich cyflogwr hefyd nodi ei drefniadau disgyblu ei hun yn eich contract cyflogaeth. Os yw’ch cyflogwr wedi gwneud hynny ond heb eu dilyn, gallwch siwio nhw am dorri contract.

Yn ystod trefn ddisgyblu, os bydd eich cyflogwr yn gwneud rhywbeth sy’n afresymol yn eich barn chi, dylech ddweud wrthynt ar bapur ac awgrymu ffyrdd o ddatrys y broblem. Efallai y bydd yn penderfynu bwrw ymlaen â'r drefn beth bynnag, ac felly gallech benderfynu defnyddio'r mater fel sail ar gyfer apelio.

Atal o'r gwaith

Mae’n bosib y gall eich cyflogwr eich atal o'r gwaith tra mae’r mater disgyblu neu ddiswyddo yn cael ei ystyried. Dylech gael gwybod pam eich bod yn cael eich atal o'r gwaith.

Os yw eich contract cyflogaeth yn caniatáu i chi gael eich atal o'r gwaith heb dâl, gall eich cyflogwr wneud hynny, cyn belled â'i fod yn gweithredu'n rhesymol. Os nad yw'ch contract cyflogaeth yn datgan y caiff eich cyflogwr wneud hyn, mae dal yn bosib y bydd eich cyflogwr yn eich atal o'r gwaith, ond gyda thâl. Er mwyn ei gwneud yn glir nad cosb yw hyn, cewch gyflog llawn fel arfer pan fyddwch wedi'ch atal o'r gwaith.

Rydych yn cadw’ch hawliau cyflogaeth pan fyddwch wedi cael eich atal. Os na fyddwch yn cael y tâl priodol, gallwch gyflwyno achos gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth am 'ddidynnu arian o gyflog yn anghyfreithlon'.

Tra byddwch wedi cael eich atal, efallai y dywedir wrthych am beidio â siarad â gweithwyr eraill, cwsmeriaid a/neu gyflenwyr. Os yw hyn yn eich rhwystro rhag amddiffyn eich hun, gall fod yn sail ar gyfer apelio. Eich penderfyniad chi yw a fyddwch yn gwrando ar hyn ai peidio, ond byddai’n bosib i’ch cyflogwr gymryd camau disgyblu pellach os na wnewch.

Gogledd Iwerddon

Mae gan Ogledd Iwerddon ei drefniadau ei hun ar gyfer datrys anghydfodau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rhain ar wefan nidirect.

O lle mae cael cymorth

Os byddwch yn wynebu camau disgyblu ac yn ansicr beth i'w wneud, gallwch geisio cyngor am eich hawliau. Mae Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) a'ch Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol yn darparu cyngor diduedd am ddim. Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael cymorth gan gynrychiolydd eich undeb llafur.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU