Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Ymdrin â chamau disgyblu

Os bydd eich cyflogwr yn penderfynu dechrau cymryd camau disgyblu neu ddiswyddo ffurfiol yn eich erbyn, dylai ddilyn trefniadau'r cwmni. Dylai'r rhain gyd-fynd â Chod Ymarfer Acas (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) ar drefniadau disgyblu a chwyno.

Cael llythyr gan eich cyflogwr

Os yw’ch cyflogwr yn ystyried cymryd camau disgyblu neu ddiswyddo, yn gyffredinol, dylai yn y lle cyntaf ysgrifennu atoch yn nodi beth yn union yw’r broblem.

Dylai’r llythyr gynnwys gwybodaeth am eich perfformiad gwael neu'ch camymddygiad honedig a’r canlyniadau posib. Dylai roi digon o wybodaeth i'ch galluogi i baratoi ateb neu esboniad cyn cyfarfod.

Cyfarfod â'ch cyflogwr

Pan fydd eich cyflogwr wedi ysgrifennu atoch, dylai drefnu cyfarfod ar adeg ac mewn lleoliad rhesymol i drafod y mater. Ni ddylai eich cyflogwr gymryd dim camau disgyblu cyn y cyfarfod hwn.

Yn y cyfarfod, dylai eich cyflogwr egluro'r gŵyn yn eich erbyn a mynd drwy'r dystiolaeth. Dylai eich cyflogwr roi cyfle i chi gyflwyno’ch achos yn y cyfarfod. Gwnewch bob ymdrech i fod yn bresennol yn y cyfarfod.

Mae gennych hawl statudol i fynd â rhywun gyda chi i’r cyfarfod. I arfer yr hawl hon, yn gyntaf oll mae’n rhaid i chi ofyn i’ch cyflogwr gewch chi ddod â rhywun gyda chi. Gall eich cydymaith fod:

  • yn gydweithiwr
  • yn gynrychiolydd o’r undeb llafur
  • yn swyddog o’r undeb llafur

Os nad oes un o’ch cydweithwyr am ddod gyda chi, ac nad ydych yn aelod o undeb llafur, gofynnwch a gaiff aelod o'ch teulu neu weithiwr o'r Ganolfan Cyngor Ar Bopeth fod yn bresennol. Nid oes yn rhaid i’ch cyflogwr gytuno i hyn oni bai fod eich contract cyflogaeth yn mynnu ei bod yn rhaid iddo. Fodd bynnag, mae'n werth holi ac esbonio pam y byddai'n ddefnyddiol yn eich barn chi.

Gall y person sy'n dod gyda chi wneud y canlynol:

  • cyflwyno a/neu grynhoi eich achos
  • siarad ar eich rhan
  • siarad gyda chi yn ystod y gwrandawiad

Fodd bynnag, ni chaiff yr unigolyn hwnnw ateb cwestiynau ar eich rhan. Maent wedi'u diogelu rhag cael eu diswyddo'n annheg neu’u trin yn anffafriol am eich cefnogi chi.

Mewn rhai achosion, os byddwch yn codi ffaith neu fater pwysig newydd yn y cyfarfod fe allai eich cyflogwr ddirwyn y cyfarfod i ben er mwyn edrych ar y materion hynny. Dylai aildrefnu'r cyfarfod ar ddyddiad arall.

Ar ôl y cyfarfod, dylai eich cyflogwr, heb unrhyw oedi afresymol, roi gwybod i chi beth yw ei benderfyniad a pha gamau y mae am eu cymryd. Gall wneud hyn ar lafar, er y dylai bob amser roi cadarnhad ar bapur. Rhaid i'ch cyflogwr hefyd roi gwybod i chi am eich hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Dyma benderfyniadau posib:

  • dim gweithredu
  • rhybudd llafar
  • rhybudd ysgrifenedig
  • rhybudd terfynol
  • israddio
  • diswyddo

Hefyd, gall y canlyniad fod yn unrhyw beth arall a allai ddatrys y broblem. Er enghraifft, fe allai fod yn gytundeb i fod yn rhan o broses gyfryngu gyda chydweithiwr y mae gennych broblemau personol ag ef.

Apelio yn erbyn penderfyniad eich cyflogwr

Os teimlwch fod y camau disgyblu a gymerir yn eich erbyn yn anghywir neu'n annheg, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad. Bydd angen i chi ysgrifennu at eich cyflogwr gan roi gwybod iddo eich bod yn apelio yn erbyn ei benderfyniad, ac egluro pam nad ydych yn cytuno ag ef. Dylai eich cyflogwr drefnu cyfarfod arall i drafod eich apêl.

Dylid gwrando apeliadau heb oedi afresymol. Lle bynnag y bo'n bosibl, dylai eich cyflogwr sicrhau yr ymdrinnir â'r apêl gan reolwr nad yw wedi bod yn gysylltiedig â'r achos yn y gorffennol.

Bydd y gwrandawiad apêl yn cael ei rhedeg yn debyg i'r cyfarfod gwreiddiol, ac mae gennych chi hawl eto i ddod â chydymaith. Dylech sicrhau eich bod yn gwneud nodiadau yn y cyfarfod apêl. Ar ôl y cyfarfod apêl, dylai eich cyflogwr ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi beth yw ei benderfyniad terfynol.

Ystyried opsiynau eraill

Os byddwch chi’n dal yn anfodlon â phenderfyniad eich cyflogwr, efallai y byddwch am ystyried ffyrdd eraill o ddatrys eich cwyn.

Cyflwyno hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth

Os ydych wedi ystyried ffyrdd eraill o ddatrys eich problem ond heb gael llwyddiant, efallai y byddwch am ystyried gwneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth.

Peidio â dilyn egwyddorion disgyblu a diswyddo

Mae gan Acas God Ymarfer ar drefniadau disgyblu a chwyno (y Cod). Bydd Tribiwnlys Cyflogaeth yn ystyried egwyddorion y Cod pan mae’n ymdrin ag achosion disgyblu a chwyno.

Os na fyddwch chi neu’ch cyflogwr yn dilyn yr egwyddorion hyn, ni wnaiff Tribiwnlys Cyflogaeth eich gwneud chi na’ch cyflogwr yn atebol (yn gyfreithiol gyfrifol) yn awtomatig. Fodd bynnag, os bydd Tribiwnlys Cyflogaeth yn cyfiawnhau eich hawliad, efallai bydd y swm a ddyfernir i chi yn cael ei addasu hyd at 25 y cant i adlewyrchu unrhyw fethiant afresymol i ddilyn y Cod, naill ai gennych chi neu gan eich cyflogwr.

Mae Acas wedi cynhyrchu canllaw i'ch helpu chi a'ch cyflogwr i ddeall y Cod.

Gogledd Iwerddon

Mae gan Ogledd Iwerddon ei drefniadau ei hun ar gyfer datrys anghydfodau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rhain ar wefan nidirect.

Ble mae cael cymorth

Mae Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd yn rhad ac am ddim ynghylch bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.

Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol ddarparu cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU