Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae datrys problem yn y gwaith

Os oes gennych broblem yn y gwaith, cael gwybod am y gwahanol ffyrdd, ffurfiol ac anffuriol, y gallech roi cynnig arnynt i geisio datrys pethau. Cyn gweithredu ceisiwch ganfod beth yn union yw'r broblem a gwneud yn siŵr nad camgymeriad neu gamddealltwriaeth syml mohoni.

Ceisio datrys y broblem yn anffurfiol i ddechrau

Bydd problemau gyda'ch cyflogwr fwy na thebyg yn berthnasol i un o ddau gategori, cwynion neu gamau disgyblu.

Cwynion

Pryderon, problemau neu gwynion y byddwch yn eu codi gyda'ch cyflogwr yw’r rhain. Er enghraifft, pryderon sydd gennych ynghylch:

  • eich swydd
  • telerau ac amodau eich cyflogaeth
  • eich hawliau cytundebol neu statudol
  • y ffordd y cewch eich trin yn y gwaith

Os ydych chi’n credu bod gennych chi broblem go iawn, eglurwch eich pryderon wrth eich rheolwr uniongyrchol i weld a allwch chi ddatrys y mater yn anffurfiol. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi awgrymu beth hoffech iddo’i wneud i ddatrys eich problem.

Camau disgyblu

Efallai y bydd gan eich cyflogwr bryderon ynghylch eich ymddygiad, eich absenoldeb o'r gwaith neu’r ffordd rydych chi’n gwneud eich swydd.

Os bydd eich cyflogwr yn codi’r pryderon hyn gyda chi mewn modd anffurfiol, yn gyffredinol, bydd o fudd i chi geisio cytuno ar ateb yn y fan a’r lle. Fel arall, gallai'r materion hyn arwain at gamau disgyblu, gan gynnwys diswyddo mewn achosion mwy difrifol.

Ble i gael cymorth

Os ydych chi’n cael problemau yn y gwaith, mae’n bosib y bydd angen i chi gael cyngor ynghylch yr hawliau a’r opsiynau sydd ar gael i chi. Cael gwybod pa sefydliadau gallai rhoi cyngor i chi ynghylch materion cyflogaeth.

Gwneud cwyn ffurfiol neu gymryd camau disgyblu

Os nad yw'r dull anffurfiol wedi gweithio, gallech ystyried codi'r mater gyda'ch cyflogwr fel cwyn ffurfiol.

Yn ogystal, gallai eich cyflogwr ddechrau trefn ddisgyblu ffurfiol a allai arwain at gamau disgyblu a diswyddo mewn achosion mwy difrifol.

Mae gan Acas God Ymarfer ar drefniadau disgyblu a chwyno. Mae’n pennu’r egwyddorion y dylech chi a’ch cyflogwr eu dilyn er mwyn cyrraedd safon o ymddygiad sy’n rhesymol o ran ymdrin ag achosion cwyno ac achosion disgyblu.

Cymorth gan drydydd parti i ddatrys problemau yn y gwaith

Oni allwch chi a'ch cyflogwr ddatrys y broblem eich hunain, gallai fod yn ddefnyddiol dod â rhywun o'r tu allan i'ch adran gwaith i'ch helpu i ddod i gytundeb. Gallai hyn fod ar ffurf:

  • cyfryngu (mediation) neu gymodi (conciliation), pan fydd rhywun annibynnol a diduedd yn gweithio gyda chi a'ch cyflogwr i geisio’ch helpu i gyrraedd ateb eich bod chi’ch dau yn hapus gydag
  • cyflafareddu (arbitration), pan fyddwch chi a'ch cyflogwr yn defnyddio trydydd parti diduedd i wneud penderfyniad

Cytuno ar ateb gyda’ch cyflogwr

Mae’n bosib y gallwch chi a’ch cyflogwr gytuno ar ffordd o ddatrys y broblem. Os felly, efallai y byddwch am gofnodi ar bapur beth mae’r ddau ohonoch wedi cytuno i’w wneud a phryd y byddwch yn ei wneud.

Fodd bynnag, mae'n bosib y bydd arnoch chi neu'ch cyflogwr eisiau i'r canlyniad gynnwys cytundeb sy'n rhwym dan y gyfraith. Cytundeb yw hwn i ildio’ch hawl i gyflwyno achos gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth, neu i barhau gydag achos, ynghylch y materion cysylltiedig. Dim ond drwy un o’r cytundebau canlynol y byddwch yn gallu gwneud hyn:

  • ‘cytundeb ‘COT3', a fydd yn cael ei lofnodi ar ôl i un o gymodwyr Acas ddod i’ch helpu i ddod i gytundeb
  • cytundeb cyfaddawd, lle y byddwch chi’n cael cyngor annibynnol gan berson sy’n meddu ar y cymwysterau priodol, e.e. gweithiwr sy’n rhoi gwasanaeth cynghori gwirfoddol, swyddog undeb llafur neu gyfreithiwr sydd â’r cymwysterau addas

Cofiwch y bydd datrys eich problem yn y gwaith, pan fo'n bosibl, yn arbed llawer o amser a straen i chi, ac y bydd yn helpu i gynnal cysylltiadau gweithio da.

Tribiwnlysoedd Cyflogaeth a Llysoedd Sifil

Os na allwch chi ddatrys eich problem yn y gweithle, mae’n bosib y bydd gennych yr hawl i gyflwyno achos gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth. Cyn gwneud hynny dylech ystyried cael cyngor gan Acas neu gan wasanaeth cynghori arall cyn gwneud hynny. Efallai y byddant yn gallu rhoi cyngor ar natur eich cwyn a’r canlyniad bosib, a byddant hefyd yn gallu esbonio proses y Tribiwnlys Cyflogaeth.

Mae Tribiwnlys Cyflogaeth yn debyg i lys sy'n delio gydag anghydfodau ym maes hawliau cyflogaeth. Mae Llysoedd Sirol hefyd yn delio â rhai materion sy'n gysylltiedig â chyflogaeth, megis achosion o dorri contract.

Os ydych chi’n ystyried cyflwyno achos gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth, cofiwch y gall fod yn straen. Hefyd, mae’n bosib y codir tâl arnoch.

Gogledd Iwerddon

Mae gan Ogledd Iwerddon ei drefniadau ei hun ar gyfer datrys anghydfodau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rhain o wefan nidirect.

Allweddumynediad llywodraeth y DU