Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cael help gyda phroblemau yn y gwaith

Os byddwch yn cael problemau yn y gwaith, efallai y bydd angen i chi gael cyngor ar beth y gallwch ei wneud. Mae'n bwysig deall eich hawliau a'r opsiynau sydd ar gael i chi. Mynnwch wybod pa sefydliadau a all roi cyngor am ddim i chi ar faterion cyflogaeth.

Eich hawliau cyflogaeth

Mae eich hawliau cyflogaeth wedi'u diogelu o dan y gyfraith er mwyn sicrhau na fydd pobl yn camfanteisio arnoch nac yn eich trin yn wael. Mae rhai hawliau gennych cyn gynted ag y byddwch yn dechrau gweithio ac mae eraill yn dibynnu ers faint rydych wedi bod yn gweithio.

Cael cyngor ar eich hawliau cyflogaeth

Os bydd angen cyngor arnoch, mae amrywiaeth o sefydliadau'n cynnig cyngor am ddim a rhai lle gallwch gael cyngor cyfreithiol y gall fod angen i chi dalu amdano.

Isod ceir rhai o'r sefydliadau a all gynnig cyngor am ddim.

Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio

Gall y Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio eich helpu gyda chwestiynau neu gwynion ynghylch:

  • hawliau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • gweithio i asiantaeth cyflogaeth
  • yr hawl i beidio â gorfod gweithio mwy na 48 awr yr wythnos yn erbyn eich ewyllys
  • hawliau'r Isafswm Cyflog Amaethyddol
  • gweithio i reolwr gangiau (sef asiant sy'n dod o hyd i waith i chi ym maes amaethyddiaeth, coedwigaeth, prosesu bwyd, pecynnu bwyd, prosesu pysgod cregyn)

Gallwch ffonio'r llinell gymorth ar 0800 917 2368 am gyngor neu ddefnyddio'r ffurflen ymholiadau neu'r ffurflen gwynion ar-lein o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • mae angen mwy o wybodaeth arnoch am eich hawliau yn y meysydd hyn
  • rydych o'r farn nad yw eich cyflogwr yn parchu'r hawliau hynny

Os bydd gennych gwestiwn am faes cyflogaeth arall nad yw wedi'i restru yma, mae'n debygol na fydd y Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio yn gallu ei ateb.

ACAS (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu)

Mae Acas yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar hawliau cyflogaeth fel hawliau gwyliau, tâl salwch a diswyddo annheg.

Gall hefyd helpu cyflogeion a chyflogwyr sy'n ymwneud ag anghydfod cyflogaeth i nodi ffyrdd ymarferol o ddatrys y broblem.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

I gael cyngor neu wybodaeth am wahaniaethu, cydraddoldeb a hawliau dynol, gallwch gysylltu â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Sefydliadau eraill

Mae sefydliadau eraill a all fod yn gallu darparu help am ddim gydag ystod eang o faterion gan gynnwys cyflogaeth:

  • Cyngor ar Bopeth - help gyda phroblemau cyfreithiol, ariannol ac eraill
  • Cyngor Cyfreithiol Cymunedol - help dros y ffôn gyda budd-daliadau a chredydau treth, dyled, addysg, tai, cyflogaeth a phroblemau teuluol

I gael manylion cyswllt dilynwch y dolenni isod.

Efallai y bydd angen i chi dalu am gyngor cyfreithiol. Mynnwch wybod mwy am y canlynol:

  • cael cyngor cyfreithiol a chymorth cyfreithiol
  • chwilio am gyfreithwyr cymeradwy, asiantaethau cynghori a darparwyr gwybodaeth eraill (Cymru a Lloegr)
  • dod o hyd i gyfreithiwr yn yr Alban

Allweddumynediad llywodraeth y DU