Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw'r isafswm y mae gan y rhan fwyaf o weithwyr yn y DU yr hawl iddo fesul awr. Cael gwybod beth yw’r cyfraddau cyfredol a ble i gael cymorth os ydych yn credu eich bod yn cael eich talu’n is na’r gyfradd isafswm cyflog.
Mae gwahanol lefelau’n perthyn i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gan ddibynnu ar eich oedran ac ai prentis ydych chi. Dyma’r cyfraddau cyfredol (o 1 Hydref 2011):
Os ydych chi mewn oedran ysgol gorfodol nid oes gennych hawl i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae rhai o’ch hawliau cyflogaeth yn wahanol hefyd.
Gellir gweld cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer blynyddoedd a fu ar wefan y Comisiwn Cyflogau Isel.
I gael cymorth a chyngor cyfrinachol ynghylch yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ffoniwch 0800 917 2368
Mae gan y rhan fwyaf o weithwyr yn y DU sydd dros oedran gadael ysgol hawl gyfreithiol i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf, ac mae’n rhaid i bob cyflogwr ei dalu i chi os oes gennych hawl iddo. Nid yw’n gwneud gwahaniaeth:
Mae gennych chi hawl i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol hyd yn oed os byddwch chi’n llofnodi contract yn cytuno i gael cyfradd is. Mae hyn yn wir os ydych chi’n llofnodi o’ch gwirfodd neu am fod eich cyflogwr yn eich perswadio neu’n gwneud i chi lofnodi. Ni fydd y contract yn cael dim effaith gyfreithiol ac mae dal yn rhaid i chi gael y gyfradd briodol.
Os nad ydych yn siŵr a ddylech chi gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, darllenwch ‘Gweithwyr sydd â hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol’ a ‘Pwy sydd wedi'u heithrio rhag cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol’.
Mae’r Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio yn rhoi cymorth a chyngor cyfrinachol ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a gall ddelio â galwadau mewn dros 100 o ieithoedd. Os nad ydych yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol gallwch gysylltu â llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio neu ddefnyddio’r ffurflen i wneud ymholiad neu gŵyn ar-lein.