Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfrifo'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol: gwaith ar sail allbwn (fesul tasg)

Dylai pob gweithiwr bron gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gan gynnwys y rheini sy'n gweithio ar sail allbwn (neu'n gweithio 'fesul tasg'). Os ydych yn cael eich talu am nifer y pethau yr ydych yn eu gwneud neu am y tasgau y byddwch yn eu cwblhau, mae'n bur debyg eich bod yn gweithio ar sail allbwn.

Gwaith ar sail allbwn

Bydd gweithwyr sy'n gwneud gwaith ar sail allbwn, a elwir hefyd yn 'waith fesul tasg', yn cael eu talu am nifer y pethau a wnânt (er enghraifft, dillad) neu'r tasgau a wnânt (er enghraifft, llenwi amlenni).

Mae gweithwyr allbwn yn aml yn gweithio o'u cartrefi ac yn gallu dechrau a gorffen gweithio fel y mynnant. Os byddwch yn gwneud gwaith fesul tasg yn ystod oriau a bennir gan eich cyflogwr rydych yn gwneud gwaith ar sail amser, yn hytrach nag ar sail allbwn.

Llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith

I gael cymorth a chyngor cyfrinachol ynghylch yr ICC ffoniwch 0800 917 2368

Os nad ydych chi'n gweithio ar sail allbwn rhaid i'ch cyflogwr ddewis:

  • talu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (ICC) i chi am bob awr a weithiwch, neu
  • dalu cyfradd 'deg' i chi am bob darn a gynhyrchwch neu am bob tasg a gwblhewch

Cyfraddau 'teg' fesul tasg

Ceir rheolau arbennig ar gyfer cyfrifo cyfradd 'deg' fesul tasg. Rhaid i'ch cyflogwr ganfod sawl darn neu dasg y gall gweithiwr cyffredin eu cwblhau mewn awr. Gellir canfod y gyfradd 'deg' fesul tasg drwy luosi gydag 1.2 y gyfradd sy'n gadael i weithiwr sy'n gweithio ar gyflymdra arferol ennill yr ICC mewn awr. Mae hyn yn rhoi cyfle i weithwyr a allai fod ychydig yn arafach na'r cyffredin (ee am mai newydd gychwyn maen nhw) ennill yr ICC beth bynnag.

Rhaid i'ch cyflogwr roi rhybudd ysgrifenedig i chi cyn dechrau eich cyfnod cyfeirnod cyflog cyntaf. Os bydd telerau'r rhybudd yn newid dylid darparu rhybudd newydd i chi cyn dechrau'r cyfnod cyfeirnod cyflog nesaf. Rhaid i'r rhybudd esbonio sut y cyfrifwyd y gyfradd 'deg' fesul tasg a rhaid iddo:

  • egluro, at ddibenion cydymffurfio â deddfau'r ICC, y bydd eich cyflogwr yn eich trin fel petaech yn gweithio am gyfnod penodol pan fyddwch yn gwneud eich gwaith yn cynhyrchu darnau neu'n cyflawni tasgau
  • nodi bod eich cyflogwr, er mwyn cyfrifo'r cyfnod hwnnw, wedi cynnal prawf neu wedi amcangyfrif i weld beth yw cyflymdra cyfartalog y gweithwyr pan fyddant yn gwneud yr un gwaith â chi
  • nodi beth yw 'modd y gyfradd allbwn fesul awr' ar gyfer eich tasg ('modd y gyfradd allbwn fesul awr' yw nifer y darnau neu'r tasgau y gall gweithiwr cyffredin eu gwneud mewn awr)
  • nodi'r gyfradd neu'r swm a delir i chi am gynhyrchu'r darn neu am gwblhau'r dasg dan sylw
  • nodi rhif llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith: 0800 917 2368

Os nad yw'r rhybudd yn cynnwys yr wybodaeth hon i gyd bydd gennych hawl i'r ICC am bob awr a weithiwch, felly efallai y byddwch am gadw cofnod o'r oriau yr ydych wedi'u gweithio.

Oriau sy'n cyfrif at dâl ICC

Rhaid talu'r ICC o leiaf i'r rheini sy'n gweithio ar sail allbwn am amser a dreulir yn teithio mewn cysylltiad â'r gwaith, ee os ydych yn gwneud pethau gartref ond yn gorfod eu danfon i'ch cyflogwr. Fodd bynnag, os byddwch yn gwneud pethau yn y gweithle, nid oes gennych hawl i'r ICC am yr amser a dreuliwch yn teithio yno o'ch cartref.

Cyfrifo a ydych yn cael yr ICC

Os ydych yn gweithio ar sail allbwn, i gyfrifo a ydych yn cael yr ICC dylech wneud y canlynol:

Cam un: lluosi'r swm sy'n cael ei dalu i chi ar gyfer pob tasg gyda'r nifer yr ydych wedi'u cwblhau yn y cyfnod cyfeirnod cyflog
Cam dau: lluosi gyda nifer yr oriau yr ydych wedi'u gweithio

Cyfrifiad enghreifftiol ar gyfer gwaith ar sail allbwn

Rydych yn weithiwr 20 oed sy'n cael eich talu'n wythnosol (felly wythnos yw eich cyfnod cyfeirnod cyflog). Rydych yn cael £2 am bob teclyn a gynhyrchwch. Mewn wythnos benodol rydych yn gweithio 30 awr ac yn cynhyrchu 60 teclyn.

Cam un: lluoswch eich tâl fesul tasg gyda nifer y darnau yr ydych wedi'u cwblhau (£2 x 60 eitem = £120)
Cam dau: rhannwch eich tâl gyda nifer yr oriau yr ydych wedi'u gweithio (£120 / 30 awr = £4 yr awr)

Mae hyn yn is na'r ICC, sef £4.98 i unigolyn 20 oed.

Fodd bynnag, efallai eich bod yn cael hyn am eich bod yn gweithio gryn dipyn yn arafach na'r disgwyl. Rhaid i'ch cyflogwr bennu cyfradd 'deg' fesul tasg er mwyn sicrhau bod hyd yn oed y gweithwyr hynny sy'n gweithio ychydig yn arafach na'r cyffredin yn ennill yr ICC. Os yw lefel eich gwaith yn debyg i'r hyn sy'n gyffredin yn eich barn chi, dylech drafod hyn gyda'ch cyflogwr.

Ble mae cael cymorth

Mae llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith yn cynnig cymorth a chyngor cyfrinachol ar yr ICC mewn dros 100 o ieithoedd. Os nad ydych yn cael eich talu yr ICC gallwch gysylltu â’r Llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith neu ddefnyddio’r ffurflen ymholiadau neu gwyno ar-lein.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU