Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall profiad gwaith a lleoliadau proffesiynol fod â thâl neu'n ddi-dâl, yn dibynnu ar y trefniadau a fydd gennych gyda'ch cyflogwr. Mynnwch wybod a oes gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol wrth wneud profiad gwaith neu leoliad proffesiynol.
Yn gyffredinol mae'r term 'profiad gwaith' yn cyfeirio at gyfnod cyfyngedig o amser y byddwch yn ei dreulio â chyflogwr.
Gall profiad gwaith roi'r canlynol i chi:
Mae natur, cyfnod a threfniadau profiad gwaith yn amrywio'n fawr.
Weithiau cyfeirir at brofiad gwaith fel 'lleoliad' neu 'interniaeth'.
Maent yn aml yn swyddi sydd angen lefel uwch o gymhwyster na mathau eraill o brofiad gwaith, lle byddwch yn meithrin profiad ar gyfer gyrfa broffesiynol. Fodd bynnag, nid oes gan y term 'intern' unrhyw statws cyfreithiol. Os byddwch yn intern, cewch eich trin yn yr un ffordd â rhywun sy'n gwneud profiad gwaith at ddibenion yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Os byddwch yn gwneud profiad gwaith, bydd eich hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn dibynnu ar y trefniadau sy'n gymwys i'ch gwaith.
Bydd un o'r categorïau canlynol yn gymwys:
Nid yw eich hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn dibynnu ar deitl eich swydd. Er enghraifft, ni chewch eich atal rhag bod yn gymwys i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol drwy:
Os bydd gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ni allwch wrthod yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol hyd yn oed os byddwch yn cytuno â'ch cyflogwr i gael cyflog sy'n is na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Mynnwch wybod a ydych yn weithiwr sydd â hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Mae gan bron bob unigolyn sy'n weithiwr yn y DU hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae'r eithriadau os byddwch yn gwneud profiad gwaith yn cynnwys:
Efallai na fydd gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol os bydd y canlynol yn berthnasol:
Fodd bynnag, nid yw'r eithriad hwn yn berthnasol os:
Os ydych yn oedran ysgol gorfodol ac yn gwneud profiad gwaith, nid oes gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Caiff gweithwyr gwirfoddol eu diffinio'n benodol yn neddfwriaeth yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ac nid oes ganddynt hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Byddwch yn weithiwr gwirfoddol os byddwch yn cael buddiannau cyfyngedig a phenodol fel treuliau teithio neu ginio rhesymol ac yn gweithio i:
At hynny, o dan delerau eich cyflogaeth ni fydd gennych hawl i gael:
Os byddwch yn cymryd rhan yn un o raglenni penodol y Llywodraeth neu Ewrop, ni fydd gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am waith y byddwch yn ei wneud fel rhan o'r rhaglen.
Efallai na fyddwch yn rhan o'r diffiniad o weithiwr, ac na fydd gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae'r enghreifftiau canlynol yn arbennig o berthnasol i brofiad gwaith.
Os byddwch yn ymgymryd â lleoliad nad yw'n cynnwys unrhyw waith yn cael ei wneud, fel gwylio, gwrando a holi, ni fydd gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Yn gyffredinol, byddwch yn wirfoddolwr os:
Fel gwirfoddolwr ni fyddwch ar eich colled (triniaeth annheg) os na fyddwch yn cyflawni eich dyletswyddau. Nid yw'r bwriad y tu ôl i weithgarwch di-dâl (p'un a yw o fudd i'r amgylchedd, grwpiau eraill neu chi fel unigolyn) yn berthnasol wrth benderfynu ar eich statws.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am benderfynu p'un a ydych yn wirfoddolwr.
Dylech ystyried cadw cofnodion o drefniadau y byddwch yn eu gwneud â'ch cyflogwr, y tasgau y gofynnir i chi eu gwneud a'r oriau y byddwch yn eu gweithio. Gellir defnyddio'r wybodaeth hon fel tystiolaeth os byddwch yn weithiwr sy'n gymwys i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
I gael mwy o gyngor neu i wneud cwyn, cysylltwch â'r Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio. Mae galwadau i'r llinell gymorth am ddim ac yn gyfrinachol neu defnyddiwch y ffurflen ymholiadau neu'r ffurflen gwyno ar-lein.
Os hoffech, gellir anfon cwyn i Cyllid a Thollau EM (CThEM). Mae CThEM yn ymchwilio i bob cwyn a gyfeirir atynt gan y llinell gymorth a bydd yn cymryd camau i sicrhau na allwch gael eich adnabod.
Mae CThEM yn ymchwilio i gwynion sy'n dyddio nôl chwe blynedd. Os gwnaethoch adael lleoliad proffesiynol yn ystod y chwe blynedd diwethaf a bod gennych ymholiad ynghylch eich tâl, bydd yn werth cysylltu â'r Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio.