Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gan bron bawb sy'n gweithio yr hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf. Wrth gyfrifo faint o Isafswm Cyflog Cenedlaethol gewch chi, mae angen i chi feddwl am y math o waith a wnewch ac unrhyw ddidyniadau o’ch cyflog, yn ogystal â’ch cyflog a’r oriau rydych chi’n eu gweithio.
Yma, cewch fanylion am y pethau sylfaenol y dylech eu gwybod wrth gyfrifo'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gan gynnwys beth yw cyfnod cyfeirnod cyflog, pa dâl sy’n cyfrif fel Isafswm Cyflog Cenedlaethol a sut i drin ‘buddion ymarferol'.
Rydym yn argymell eich bod yn darllen yr erthygl hon cyn ceisio cyfrifo beth yw eich Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Os ydych yn cael eich talu yn ôl nifer yr oriau yr ydych yn y gwaith, rydych yn gweithio 'ar sail amser'. Os ydych yn cael eich talu mewn rhandaliadau cyfartal bob wythnos neu bob mis am weithio nifer sylfaenol o oriau dros gyfnod o flwyddyn, rydych chi'n weithiwr cyflog.
Mae’r modd o gyfrifo a ydych chi’n cael o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn debyg iawn ar gyfer gwaith ar sail amser ac oriau cyflogedig. Fodd bynnag, mae pethau gwahanol yn cyfrif fel ‘oriau gwaith’ – felly, yn gyntaf, mae’n rhaid i chi fod yn glir ynghylch am ba hyd rydych chi wedi bod yn gweithio. I gael cymorth i gyfrifo hyn, dilynwch y ddolen isod.
Os yw'ch cyflogwr yn darparu llety i chi, gall rhywfaint o werth y llety hwnnw gyfrannu at faint o Isafswm Cyflog Cenedlaethol gewch chi. Gelwir hyn yn osod costau llety yn erbyn eich cyflog. I gael cymorth i ddeall pryd fydd gosod costau llety yn erbyn eich cyflog yn berthnasol, ac i gyfrifo eich cyflog at ddibenion yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, dilynwch y ddolen isod.
Os ydych yn cael eich talu am nifer y pethau yr ydych yn eu gwneud neu am y tasgau y byddwch yn eu cwblhau, mae'n bur debyg eich bod yn gweithio ar sail allbwn – a elwir hefyd yn weithio fesul tasg. Gall eich cyflogwr un ai dalu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i chi neu dalu cyfradd deg fesul tasg i chi am bob eitem y byddwch yn ei chynhyrchu neu am bob tasg y byddwch yn ei chwblhau. I gael rhagor o wybodaeth am gyfrifo cyfraddau teg fesul tasg, dilynwch y ddolen isod.
Os nad ydych yn meddwl eich bod yn gweithio ar sail amser, ar sail oriau cyflogedig nac ar sail allbwn, mae'n debygol eich bod yn gwneud gwaith heb ei fesur. Mae gennych chi'r hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o hyd. I gael rhagor o wybodaeth am gyfrifo a ydych chi’n cael eich talu ar gyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf, dilynwch y ddolen isod.