Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael gwybod beth yw eich statws cyflogaeth: gwirfoddolwyr

Os nad ydych chi’n siŵr a ydych yn ‘gyflogai’, yn ‘weithiwr’ ynteu’n ‘hunangyflogedig’, gallwch ddarllen y datganiadau isod i’ch helpu i benderfynu. Os ydych chi’n credu bod y rhan fwyaf o’r datganiadau’n berthnasol i chi, mae’n debygol mai gwirfoddolwr ydych chi.

Gwirfoddolwyr

Os ydych chi’n cytuno â’r rhan fwyaf o’r datganiadau isod, mae’n debygol iawn mai gwirfoddolwr ydych chi:

  • rydych yn ymgymryd â gwaith ar gyfer mudiad elusennol neu fusnes penodol heb unrhyw wobr na budd ariannol, ar wahân i ad-daliad am eich treuliau
  • does dim rhaid i chi fynd i’r gwaith os nad ydych chi’n dymuno gwneud hynny (hyd yn oed os yw pobl yn disgwyl i chi wneud hynny neu’ch bod yn arfer dilyn patrwm gweithio rheolaidd)
  • nid oes gennych unrhyw fath o gontract ar gyfer eich gwaith

Gallwch fod yn wirfoddolwr hyd yn oed os ydych chi’n gweithio dan oruchwyliaeth neu reolaeth rheolwr/cyfarwyddwr, neu ei bod yn rhaid i chi fodloni canllawiau neu safonau penodol.

Os ydych chi’n cael eich talu am wirfoddoli neu’n cael unrhyw wobr ariannol neu fuddion anariannol eraill, efallai y bydd hyn yn ddigon i ffurfio ‘perthynas gontractiol’. Gallai hyn olygu eich bod yn weithiwr a bod gennych hawliau cyflogaeth. Gallai budd anariannol olygu, er enghraifft, hyfforddiant lefel uwch nag oedd ei angen arnoch i gyflawni'ch gwaith.

Sefyllfa enghreifftiol

Os nad ydych yn siŵr a ydych chi’n wirfoddolwr, gallwch ddarllen y sefyllfa enghreifftiol ganlynol. Os yw’n disgrifio sefyllfa debyg i'ch trefniadau gweithio chi, mae'n debygol mai gwirfoddolwr ydych chi.

Mae Lisa yn rhoi o’i hamser ddwywaith yr wythnos i roi help llaw mewn siop elusen leol. Nid yw’n cael ei thalu am y gwaith hwn. Er bod Lisa’n gweithio ar ddydd Mawrth a dydd Iau yn rheolaidd, does dim rhaid iddi fynd i'r gwaith a does dim ots os bydd hi'n colli diwrnod.

Hawliau cyflogaeth ar gyfer gwirfoddolwyr

Fel gwirfoddolwr, nid ydych yn gyflogai nac yn weithiwr. Caiff eich hawliau iechyd a diogelwch wrth wirfoddoli eu diogelu, ond nid oes gennych ddim hawliau cyflogaeth.

Ble i gael cymorth

Os nad yw’r datganiadau na’r enghraifft yn disgrifio eich sefyllfa waith chi, ceisiwch ddarllen yr erthyglau eraill yn yr adran hon.

Os ydych chi wedi darllen yr erthyglau eraill ac yn dal yn ansicr, cysylltwch ag Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu). Bydd Acas yn gallu cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd, yn rhad ac am ddim, am bob mater sy’n ymwneud â chyflogaeth, gan gynnwys statws gwaith.

Allweddumynediad llywodraeth y DU