Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael gwybod beth yw eich statws cyflogaeth: ymgynghorwyr neu gontractwyr annibynnol

Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n ‘gyflogai’, yn ‘weithiwr’ ynteu’n ‘hunangyflogedig’, gallwch ddarllen y datganiadau isod i’ch helpu i benderfynu. Os ydych chi’n credu bod y rhan fwyaf o’r datganiadau’n berthnasol i chi, mae’n debyg mai hunangyflogedig ydych chi.

Ymgynghorwyr neu gontractwyr annibynnol – hunangyflogaeth

Os ydych chi’n cytuno â’r rhan fwyaf o’r datganiadau isod, mae’n debyg mai hunangyflogedig ydych chi:

  • rydych chi’n bidio neu’n darparu dyfynbrisiau er mwyn sicrhau gwaith
  • mae gennych chi brosiectau neu dargedau penodol i’w cwblhau, er mai chi sy’n penderfynu sut a phryd mae gwneud y gwaith
  • nid ydych chi dan oruchwyliaeth uniongyrchol wrth i chi weithio
  • nid oes yn rhaid i chi gyflawni’r gwaith eich hun – gallwch gyflogi rhywun arall i wneud y gwaith neu dalu o’ch poced eich hun am gynorthwywyr i ymwneud â’r gwaith
  • rydych chi’n cyflwyno anfonebau am y gwaith rydych wedi’i wneud
  • rydych chi’n gyfrifol am dalu eich treth a'ch Yswiriant Gwladol eich hun.
  • nid ydych yn cael tâl gwyliau neu dâl salwch pan na fyddwch ar gael i weithio
  • rydych chi’n darparu teclynnau, offer neu ddeunyddiau sy'n hanfodol er mwyn gallu gwneud y gwaith
  • mae’n rhaid i chi gywiro gwaith anfoddhaol yn eich amser eich hun a thalu amdano o’ch poced eich hun
  • rydych chi'n gyfrifol am dalu unrhyw golledion, yn ogystal ag am gymryd yr elw o’ch gwaith
  • rydych chi’n darparu eich gwasanaethau, neu gallech ddarparu eich gwasanaethau, i nifer o wahanol gleientiaid neu gwsmeriaid
  • rydych chi’n gweithredu dan gontract (a elwir efallai yn ‘gontract ar gyfer gwasanaethau’ neu’n ‘gytundeb ymgynghori') sy’n eich disgrifio fel eich bod yn ‘hunangyflogedig’, yn ‘ymgynghorwr’ neu’n ‘gontractwr annibynnol’

Mae’r datganiadau’n defnyddio'r enghraifft o waith a wneir ar gyfer ‘cwmni’. Fodd bynnag, maent yr un mor berthnasol os ydych chi’n gweithio i fasnachwr unigol, i bartneriaeth neu i unrhyw ffurf arall o sefydliad busnes.

Sefyllfa enghreifftiol

Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n hunangyflogedig, gallwch ddarllen y sefyllfa enghreifftiol ganlynol. Os yw’n disgrifio rhywbeth sy'n debyg i'ch trefniadau gweithio chi, mae'n debyg mai hunangyflogedig ydych chi.

Mae Sue yn blymwr. Mae’n gweithio i amrywiaeth o wahanol gwsmeriaid ac mae’n darparu dyfynbrisiau er mwyn sicrhau busnes newydd. Mae’n darparu amcangyfrif amser ar gyfer pob jobyn, ond mae’n dewis pa oriau y mae hi am weithio. Caiff dâl gros, ac mae’n talu ei threth a’i Hyswiriant Gwladol ei hun.

Yn gyffredinol, mae’n gwneud y gwaith ei hun ac mae’n darparu ei theclynnau ei hun i gyd. Fodd bynnag, os yw hi’n brysur iawn, mae’n galw am blymwr cynorthwyol i wneud y gwaith – nid oes yn rhaid iddi wneud y gwaith i gyd ei hun.

‘Tâl gros’ yw'r hyn a gewch eich talu cyn i unrhyw ddidyniadau gael eu gwneud, er enghraifft treth neu Yswiriant Gwladol.

Hawliau cyflogaeth os ydych chi’n hunangyflogedig

Os ydych chi’n wirioneddol hunangyflogedig, fel arfer ni fydd gennych chi ddim hawliau cyflogaeth am mai chi, yn y bôn, yw eich bos.

Byddwch yn elwa o warchodaeth ar gyfer eich iechyd a'ch diogelwch ac, mewn rhai achosion, o warchodaeth yn erbyn gwrth-gamwahaniaethu.

Llywodraethir eich hawliau a’ch cyfrifoldebau yn gyfan gwbl gan eich contract gyda’r parti sy’n eich cael i ymwneud â’r gwaith.

Ble i gael cymorth

Os nad yw’r datganiadau na’r enghraifft yn disgrifio eich sefyllfa waith, rhowch gynnig ar ddarllen yr erthyglau eraill yn yr adran hon.

Os ydych chi wedi darllen yr erthyglau eraill ac yn dal i fod yn ansicr, cysylltwch ag Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu). Bydd Acas yn gallu cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd, yn rhad ac am ddim, am bob mater sy’n ymwneud â chyflogaeth, gan gynnwys statws cyflogaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU