Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cael gwybod beth yw eich statws cyflogaeth: gweithwyr cyflogedig

Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n ‘gyflogai’, yn ‘weithiwr’ neu’n ‘hunangyflogedig’, gallwch ddarllen y datganiadau isod i’ch helpu i benderfynu. Os ydych chi’n credu bod y rhan fwyaf o’r datganiadau’n berthnasol i chi, mae’n debygol mai cyflogai ydych chi.

Gweithwyr cyflogedig amser llawn, rhan amser a chyfnod penodol

Os ydych chi’n cytuno gyda’r rhan fwyaf o’r datganiadau isod, mae’n debygol mai cyflogai ydych chi, ni waeth a ydych chi'n gweithio yn llawn amser neu'n rhan amser, neu hyd yn oed os ydych chi'n gweithio dan gontract cyfnod penodol.

Mae’r datganiadau isod yn defnyddio'r enghraifft o waith a wneir ar gyfer ‘cwmni’. Fodd bynnag, maent yr un mor berthnasol os ydych chi’n gweithio i fasnachwr unigol, i bartneriaeth neu i unrhyw ffurf arall o sefydliad busnes.

  • mae gofyn i chi fod yn bresennol yn y gwaith yn rheolaidd oni bai fod eich absenoldeb wedi'i awdurdodi (e.e. gwyliau, absenoldeb oherwydd salwch, cyfnod mamolaeth)
  • mae gofyn i chi weithio isafswm o oriau (un ai oriau sefydlog neu amrywiol) ac rydych yn disgwyl cael eich talu am yr oriau y byddwch yn gweithio
  • mae eich rheolwr neu’ch goruchwyliwr yn gyfrifol am eich baich gwaith, ac mae’n cyfarwyddo pryd y dylai gwaith penodol gael ei gwblhau a sut y dylid ymgymryd â'r gwaith (gall rheolwyr uwch fod yn weithwyr cyflogedig o hyd, hyd yn oed os ydynt yn gosod eu amcanion eu hunain ac yn trefnu eu hamser eu hunain)
  • ni allwch anfon dirprwy i wneud eich gwaith drosoch
  • mae’r cwmni yn didynnu treth ac Yswiriant Gwladol o’ch cyflog
  • rydych wedi cael (neu mae hawl gennych i gael) Tâl Salwch Statudol neu dâl salwch dan gontract gan y cwmni pan nad oeddech yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anaf
  • rydych wedi cael (neu mae hawl gennych i gael) Tâl Mamolaeth neu Dadolaeth Statudol neu dâl dan gontract gan y cwmni pan oeddech ar gyfnod mamolaeth neu dadolaeth
  • mae’r cwmni’n eich talu pan fyddwch yn cymryd gwyliau
  • gallwch ymuno â chynllun pensiwn y cwmni
  • rydych wedi’ch cynnwys ar siart trefniadaethol y cwmni
  • rydych yn agored i drefn ddisgyblu a chwyno'r cwmni
  • rydych yn gweithio ar dir neu yn un o adeiladau’r cwmni neu mewn lleoliad a benodwyd gan y cwmni
  • mae’r cwmni yn darparu’r teclynnau a’r offer sydd arnoch eu hangen er mwyn gwneud eich swydd
  • mae eich contract yn nodi gweithdrefnau a darpariaethau ar gyfer dileu swydd
  • rydych yn gweithio i’r cwmni yn unig, neu mae gennych chi swydd arall, ond mae’n hollol wahanol i’ch gwaith ar gyfer y cwmni
  • mae gennych chi gontract, datganiad o delerau ac amodau, neu lythyr cynnig sy’n defnyddio termau megis ‘cyflogwr’ a ‘cyflogai’ a/neu sy’n cael ei ddisgrifio fel ‘contract cyflogaeth’

Sefyllfaoedd enghreifftiol

Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n gyflogai, gallwch ddarllen y sefyllfaoedd enghreifftiol canlynol. Os ydynt yn disgrifio rhywbeth sy'n debyg i'ch trefniadau gweithio chi, mae'n debygol eich bod yn gyflogai.

Mae Stefan yn gweithio mewn swyddfa rhwng 10.00 am a 3.00 pm (gydag awr o hoe am ginio), bedwar diwrnod yr wythnos. Caiff gyflog blynyddol, a didynnir treth ac Yswiriant Gwladol o’i gyflog. Mae’r cwmni yn darparu cyfrifiadur ac offer arall er mwyn galluogi Stefan i wneud ei swydd. Mae bos Stefan yn trafod ei amcanion gydag ef ac maent yn cytuno ar sut y cânt eu cyflawni. Mae Stefan yn aelod o gynllun pensiwn y cwmni. Ymunodd â’r cynllun ar ôl gweithio i’r cwmni am ddwy flynedd.

Mae ei horiau’n amrywio o wythnos i wythnos yn unol â rota’r staff, ond mae hi’n sicr o gael o leiaf 16 awr yr wythnos, ac mae’n rhaid iddi ddod i weithio’i sifftiau. Caiff ei thalu ar sail cyfradd yr awr ar gyfer yr oriau y bydd yn eu gweithio, ac mae ganddi’r hawl i gael pum wythnos o wyliau â thâl bob blwyddyn. Unwaith, cafodd rybudd llafar am fod yn hwyr i'r gwaith gan fod ganddi hefyd swydd ran amser arall fel cynorthwyydd mewn siop.

Hawliau cyflogaeth ar gyfer gweithwyr cyflogedig

Fel cyflogai, mae gennych chi’r ystod fwyaf eang ar gyfer hawliau cyflogaeth yn ogystal â chyfrifoldebau i’ch cyflogwr.

I gael crynodeb o hawliau cyflogaeth cyflogai, darllenwch yr erthygl ‘Mathau o statws cyflogaeth’ yn yr adran hon. Fel arall, gallwch ymweld â gweddill yr adran gyflogaeth i gael gwybodaeth fanwl am hawliau cyflogaeth penodol.

Ble i gael cymorth

Os nad yw’r datganiadau na’r enghreifftiau yn disgrifio eich sefyllfa waith, rhowch gynnig ar ddarllen yr erthyglau eraill yn yr adran hon.

Os ydych chi wedi darllen yr erthyglau eraill ac yn dal i fod yn ansicr, cysylltwch ag Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu). Bydd Acas yn gallu cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd, yn rhad ac am ddim, am bob mater sy’n ymwneud â chyflogaeth, gan gynnwys statws gwaith.

Allweddumynediad llywodraeth y DU