Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Diogelu cyflogeion tymor penodol

Mae gan weithwyr tymor penodol yr un hawliau gofynnol â gweithwyr parhaol. Mynnwch wybod beth yw contract tymor penodol a pha ddiogelwch ychwanegol sydd ar gael i gyflogeion tymor penodol.

Beth yw ystyr 'tymor penodol'

Er mwyn bod yn gyflogai tymor penodol, mae'n rhaid i'r ddau amod canlynol fod yn gymwys:

  • rhaid bod gennych gontract cyflogaeth â'r busnes rydych yn gweithio iddo
  • rhaid i'ch contract cyflogaeth fod yn un 'tymor penodol', sy'n golygu bod yn rhaid iddo ddod i ben ar ddyddiad penodol, ar ôl digwyddiad penodol neu ar ôl cwblhau tasg.

Ymhlith yr enghreifftiau o gyflogeion tymor penodol mae:

  • staff 'tymhorol' neu 'achlysurol' a gyflogir am chwe mis yn ystod cyfnod prysur (er enghraifft, gweithwyr amaethyddol neu weithwyr siop tymhorol)
  • cyflogai arbenigol a gyflogir ar gyfer prosiect
  • rhywun a gyflogir i weithio yn ystod cyfnod mamolaeth cyflogai arall

Nid ydych yn gyflogai tymor penodol os:

  • oes gennych gontract cyflogaeth neu gydberthynas gytundebol arall ag asiantaeth yn hytrach na'r cwmni rydych yn gweithio iddo (er enghraifft, gweithwyr dros dro neu weithwyr asiantaeth)
  • rydych yn aelod o'r lluoedd arfog
  • rydych yn brentis, yn fyfyriwr neu'n hyfforddai arall ar leoliad profiad gwaith neu gynllun gwaith dros dro

Diogelwch yn erbyn triniaeth lai ffafriol

Ni ddylai cyflogwr drin cyflogeion tymor penodol yn llai ffafriol na chyflogeion parhaol sy'n gwneud yr un swydd, neu'r un swydd yn bennaf, oni bai bod rheswm da dros wneud hynny.

Fel cyflogai tymor penodol, mae gennych yr hawl i:

  • gael yr un cyflog ac amodau
  • cael yr un pecyn buddiannau, neu becyn cyfwerth
  • ymuno â chynllun pensiwn galwedigaethol (cwmni) (oni bai efallai pan fo'r contract tymor penodol am lai na dwy flynedd)
  • cael gwybod am gyfleoedd am swyddi parhaol yn y sefydliad
  • diogelwch yn erbyn achosion o ddileu swyddi neu ddiswyddo am eich bod yn gyflogai tymor penodol

Sut i gymharu'r ffordd y cewch eich trin

Fel cyflogai tymor penodol, gallwch gymharu sut y cewch eich trin â sut y caiff 'cyflogai parhaol tebyg' ei drin. Dylai:

  • weithio i'r un cyflogwr
  • gweithio yn yr un sefydliad
  • bod yn gwneud yr un swydd, neu'r un swydd yn bennaf

Dylech hefyd ystyried ei sgiliau a'i gymwysterau lle maent yn berthnasol i'r swydd.

Os nad oes cyflogai parhaol tebyg sy'n gweithio yn yr un sefydliad, gallwch ddefnyddio cymharydd (cyflogai parhaol tebyg) mewn rhan arall o sefydliad eich cyflogwr. Ni allwch gymharu amodau â rhywun mewn sefydliad cyflogwr cysylltiedig.

'Cyfiawnhad gwrthrychol' o driniaeth lai ffafriol

Caniateir trin cyflogeion tymor penodol yn llai ffafriol os gall eich cyflogwr ddangos bod rheswm da dros wneud hynny. Gelwir hyn yn 'gyfiawnhad gwrthrychol'.

Gellir cyfiawnhau triniaeth lai ffafriol yn wrthrychol os gellir dangos ei bod:

  • er mwyn cyflawni amcan cyfreithlon, er enghraifft, amcan busnes gwirioneddol
  • yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r amcan hwnnw
  • yn ffordd briodol o gyflawni'r amcan hwnnw

Er enghraifft, rydych yn gyflogai tymor penodol ar gontract tri mis. Mae gan gyflogai parhaol tebyg gar cwmni, ond efallai na fydd eich cyflogwr yn cynnig car i chi os bydd y gost yn rhy uchel. Gellir diwallu eich angen busnes i deithio mewn ffordd arall hefyd.

Dylai eich cyflogwr ystyried a yw'n bosibl cynnig rhai buddiannau i gyflogeion tymor penodol yn unol â'r cyfnod o amser y byddant yn ei weithio (a elwir hefyd yn 'pro rata'). Er enghraifft, os na ddisgwylir i chi weithio am y cyfnod cyfan y cynigir y buddiant ar ei gyfer.

Beth i'w wneud os byddwch o'r farn eich bod yn cael eich trin yn annheg

Yn gyntaf, dylech drafod hyn â'ch rheolwr a/neu gyswllt yn yr adran adnoddau dynol. Os na chaiff y mater ei ddatrys o hyd, gofynnwch i'ch cyflogwr am ddatganiad ysgrifenedig yn egluro pam ei fod yn eich trin yn llai ffafriol.

Dylai eich cam nesaf gynnwys gwneud cwyn ysgrifenedig o dan weithdrefn gwyno safonol eich cyflogwr.

Os na allwch ddatrys y mater gyda'ch cyflogwr, yr opsiwn olaf yw cwyno i'r Tribiwnlys Cyflogaeth.

Ble i gael help

Ewch i'r dudalen cysylltiadau cyflogaeth i gael mwy o wybodaeth am ble i gael help gyda materion cyflogaeth. Gallwch hefyd gael cyngor a chymorth gan eich undeb llafur.

Allweddumynediad llywodraeth y DU