Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Defnyddio asiantaethau cyflogaeth

Er bod gan weithwyr asiantaeth (neu weithwyr dros-dro/'temps') lawer o hawliau cyflogaeth, mae ganddynt hawliau gwaith gwahanol i weithwyr. Fel gweithiwr asiantaeth, mae'n bwysig eich bod yn gwybod beth yw eich hawliau a'r rheolau ynghylch sut y dylai asiantaethau cyflogaeth a busnesau cyflogaeth eich trin.

Asiantaethau cyflogaeth a busnesau cyflogaeth

Mae busnesau cyflogaeth ac asiantaethau cyflogaeth yn wahanol:

  • gelwir busnes sy'n trefnu gwaith dros dro gyda 'chwmni cyflogi' yn gyfreithiol fel 'busnes cyflogaeth'
  • 'asiantaeth cyflogaeth' yw busnes sy'n cyflwyno ceiswyr gwaith i gyflogwyr (ee, ymgynghorydd recriwtio)

Mewn gwirionedd, mae llawer o fusnesau yn delio â dod o hyd i waith dros dro a chyflogaeth barhaol a chaiff y term 'asiantaeth' ei ddefnyddio ar gyfer asiantaethau cyflogaeth yn ogystal â busnesau cyflogaeth.

Dylai eich asiantaeth gadarnhau gyda chi os yw'n gweithredu er mwyn dod o hyd i swydd gyda chyflogwr i chi neu waith dros dro. Os nad ydych yn siŵr a ydych yn weithiwr asiantaeth dylech edrych i weld pwy sy'n eich talu, os cewch eich talu gan yr asiantaeth, yna mae hynny'n golygu eich bod yn weithiwr asiantaeth.

Recriwtio parhaol drwy asiantaethau cyflogaeth

Mae gwahaniaethau pwysig rhwng gweithwyr asiantaeth dros dro, a phobl sydd wedi dod o hyd i swydd cyfnod penodedig neu swydd barhaol drwy asiantaeth cyflogaeth.

Mae cwmnïau'n aml yn defnyddio asiantaeth cyflogaeth i ddod o hyd i ymgeiswyr addas ar gyfer swydd, ac yna'n cyflogi rhywun ar sail yr ymgeiswyr a gyflwynir gan yr asiantaeth. Yn yr achos hwn, byddai eich contract cyflogaeth gyda'r cwmni sy'n eich cyflogi, yn hytrach na gyda'r asiantaeth cyflogaeth.

Os ydych yn defnyddio asiantaethau cyflogaeth i ddod o hyd i waith parhaol neu waith cyfnod penodedig, rydych yn dal wedi'ch gwarchod dan y rheolau sy'n llywodraethu asiantaethau cyflogaeth. Fodd bynnag na fydd yr holl reolau'n berthnasol i'ch sefyllfa, er enghraifft nid yr asiantaeth cyflogaeth fydd yn talu eich cyflog.

Pan gewch eich cyflogi'n uniongyrchol gan gwmni bydd gennych hawliau cyflogaeth gwahanol fel staff parhaol neu staff cyfnod penodedig o'i gymharu â phe byddech yn weithiwr asiantaeth.

Beth yw gweithwyr asiantaeth?

Fel gweithiwr asiantaeth bydd gennych naill ai gontract ar gyfer gwasanaeth neu gontract cyflogaeth gyda'r asiantaeth sy'n dod o hyd i waith i chi. Gelwir y gwaith hwn yn aml yn 'waith dros dro', 'tempio' neu'n 'waith asiantaeth'. Bydd y cwmni sy'n eich cyflogi yn talu ffi i'r asiantaeth, a'r asiantaeth fydd yn talu eich cyflog. Mae'n rhaid i'r asiantaeth eich talu hyd yn oed os nad yw'r cwmni cyflogi wedi talu'r asiantaeth. Ni chaiff asiantaethau godi tâl arnoch am ddod o hyd i waith i chi (er bod rhai eithriadau os ydych yn chwilio am waith yn y diwydiant adloniant neu fodelu).

Mae sawl mantais o fod yn weithiwr asiantaeth, gallwch:

  • ddefnyddio hyn yn garreg gamu i gyrraedd eich dewis swydd
  • defnyddio hyn fel dull o gael eich troed i mewn i'r farchnad swyddi neu ail-afael mewn swydd
  • defnyddio hyn i weithio'n fwy hyblyg er mwyn ceisio cael cydbwysedd o ran dyletswyddau yn y cartref
  • symud yn rhwydd o'r naill swydd i'r llall, heb roi prin ddim rhybudd neu ddim o gwbl
  • rhoi cynnig ar wahanol fathau o waith

Mae hyblygrwydd o ran y gweithiwr a'r cyflogwr yn un o nodweddion gwaith asiantaeth. Fel gweithiwr asiantaeth bydd gennych yr hyblygrwydd i ddechrau a gadael swyddi ar fyr rybudd. Mae gan y cwmni cyflogi hefyd yr hyblygrwydd i ddod â'ch gwaith dros dro i ben heb fod yn gyfrifol am ddiswyddo annheg neu dâl diswyddo. Dylech ddarllen eich contract gyda'ch asiantaeth gan y gallai gynnwys cyfnod rhybudd y gallech orfod ei roi.

Os oes gennych eich cwmni eich hun

Os oes gennych eich cwmni eich hun neu os ydych yn gweithio drwy gwmni cyfyngedig a'ch bod yn defnyddio asiantaeth yna rydych yn dal wedi'ch gwarchod fel gweithiwr asiantaeth. Gallwch ddewis gwrthod rhannau o’r warchodaeth hyn ond mae'n rhaid i chi wneud hyn cyn y cewch eich cyflwyno i gwmni cyflogi gan eich asiantaeth. Mae'n rhaid i gontractwr y cwmni cyfyngedig a'r unigolyn sy'n gwneud y gwaith mewn gwirionedd wrthod hyn (ee, os yw contractwr y cwmni cyfyngedig yn defnyddio ei weithwyr ei hun).

Yn y rhan fwyaf o achosion byddwch dal yn cael eich gwarchod gan Reoliadau Gweithwyr Asiantaeth.

Ni chaiff asiantaeth gyflawni eu gwasanaethau dod o hyd i waith neu gynnig gwaith yn amodol ar y ffaith eich bod yn gwrthod eich hawliau.

Ble mae cael cymorth

Gall y llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith rhoi cymorth i chi ar eich hawliau fel gweithiwr asiantaeth.

Os oes gennych ymholiad cyffredinol ynghylch eich hawliau cyflogaeth fel gweithiwr asiantaeth gallwch ffonio’r llinell gymorth neu ddefnyddio ei ffurflen ar-lein.

Os hoffech wneud cwyn am asiantaeth cyflogaeth, dylech gwblhau ffurflen cwyn ar-lein yr Arolygiaeth Safonau'r Asiantaethau Cyflogi.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU