Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Fel gweithiwr asiantaeth fe'ch ystyrir fel arfer yn 'weithiwr' yn hytrach na chyflogai. Byddwch yn cael yr un hawliau cyflogaeth â gweithiwr, yn ogystal ag ambell hawl ychwanegol i helpu i’ch ddiogelu chi.
Mae gan bob gweithiwr, gan gynnwys gweithwyr asiantaeth, hawliau, sef:
Fodd bynnag, yn gyffredinol, nid oes gan weithwyr hawl i dâl dileu swydd nac i ddwyn achos diswyddo annheg, sy'n hawliau y mae gan gyflogeion hawl iddynt. Os ydych chi yn y sefyllfa hon dylech geisio rhagor o arweiniad i egluro'ch sefyllfa.
Mae gweithwyr asiantaeth nawr yn gymwys i gael hawliau cyflogaeth newydd. Pan fyddwch ar aseiniad, byddwch yn cael rhai o'r hawliau hyn o'r diwrnod cyntaf a rhai eraill ar ôl 12 wythnos yn yr un swydd.
Fel gweithiwr asiantaeth, mae'n debygol fod gennych gontract ar gyfer gwasanaethau gyda'ch asiantaeth. Mae hyn yn golygu nad ydych wedi'ch cyflogi gan yr asiantaeth, ond yn hytrach bod gennych gytundeb y byddant yn chwilio am waith dros dro i chi. Nid yw'r asiantaeth dan unrhyw rwymedigaeth i ddod o hyd i waith i chi, ac nid ydych chithau dan rwymedigaeth i dderbyn unrhyw waith a ganfyddant i chi.
Yn gyffredinol, ni fydd asiantaethau'n rhoi contractau cyflogaeth i'w gweithwyr. Os oes gennych gontract cyflogaeth gyda'ch asiantaeth, mae'n debygol mai contract 'dim oriau' ydyw ac nad yw'n gwarantu lefel benodol o waith i chi.
Os ydych chi’n ansicr p’un ai mai gweithiwr yn hytrach na chyflogai ydych chi, dylech gael cyngor cyfreithiol.
Os ydych chi’n weithiwr asiantaeth, efallai fod gennych hawl i dâl mamolaeth neu dâl tadolaeth, ond nid i absenoldeb mamolaeth neu dadolaeth.
Gallwch gael Tâl Salwch Statudol yn yr un ffordd â gweithwyr eraill. Gall Cyllid a Thollau EM eich helpu i gael gwybod beth mae gennych hawl iddynt.
Ceir rheolau arbennig hefyd i weithwyr asiantaeth ynghylch talu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol. Darllenwch ragor am dreth ac Yswiriant Gwladol.
Dylech holi eich cyswllt â'r asiantaeth i weld beth y gallech fod â hawl iddo, neu siarad â'ch asiantaeth. Oni allwch chi ddangos bod rhywun yn gwahaniaethu'n anghyfreithlon yn eich erbyn, go brin fod llawer y gallwch ei wneud os ydych yn cael llai o fuddiannau. Mae camwahaniaethu anghyfreithlon yn golygu cael eich trin yn wahanol oherwydd eich rhyw, eich oed, eich hil neu'ch crefydd.
Eich asiantaeth fydd yn penderfynu pwy maen nhw'n ei gynnig ar gyfer gwaith. Y duedd yw bod gan asiantaethau fel arfer fwy o bobl ar eu llyfrau nag sydd eu hangen er mwyn ymateb i adegau prysur.
Os nad yw'ch asiantaeth yn darparu gwaith, codwch y mater gyda nhw. Os ydynt wedi cael gair drwg amdanoch gan gyflogwr blaenorol, dylai eich asiantaeth esbonio hyn a rhoi cyfle i chi ddweud eich dweud.
Mae’n bosib mai rheswm yr asiantaeth am nad ydynt wedi eich rhoi chi ymlaen am waith yw nad oes digon o alw am y math o waith yr ydych eisiau. Os mai hwn yw’r achos, mae’n bosib y byddwch yn ystyried ehangu'r ystod o waith yr ydych yn barod i’w wneud. Os bydd hyn yn methu ceisiwch ymuno ag asiantaeth arall, does dim terfyn ar y nifer y gallwch gofrestru gyda nhw.
Os nad yw eich asiantaeth yn darparu chi gyda gwaith does dim llawer y gallwch ei wneud, oni bai eich bod yn meddwl bod yr asiantaeth yn camwahaniaethu yn eich erbyn yn anghyfreithlon.
Gall y llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith rhoi cymorth i chi ar eich hawliau fel gweithiwr asiantaeth.
Os oes gennych ymholiad cyffredinol ynghylch eich hawliau cyflogaeth fel gweithiwr asiantaeth neu gŵyn am yr asiantaeth gallwch ddefnyddio ei ffurflen ymholiad neu gwyno ar-lein.