Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Awgrymiadau ar gyfer defnyddio asiantaethau modelu ac adloniant

Mae’r mwyafrif o asiantaethau modelu ac adloniant yn ddilys, ond nid pob un. Mae rhai awgrymiadau a rheolau euraid i’w dilyn pan fyddwch yn defnyddio asiantaethau. Yma, cewch wybod beth yw’r rhain, a lle gallwch fynd os oes gennych chi broblem.

Sut mae osgoi’r peryglon

Os yw’n rhy dda i fod yn wir, yna mae'n debyg ei fod

Byddwch yn wyliadwrus o unrhyw un sy'n addo eich gwneud yn seren dros nos. Bydd asiantaethau amheus yn dweud wrthych chi'n union beth rydych chi am ei glywed: er enghraifft ‘chi yw’r union beth rydyn ni’n chwilio amdano’ er mwyn gwneud i chi gofrestru a thalu ffioedd diangen neu ormodol.

Dylech gwestiynu unrhyw honiadau y bydd gwaith yn cael ei ganfod i chi yn syth neu fod asiantaeth wedi cyflenwi pobl i gwmnïau adnabyddus. Gofynnwch gwestiynau i’r asiantaeth a byddwch yn amheus o unrhyw un sy’n methu, neu sy’n gwrthod, rhoi atebion clir.

Bydd asiantaethau dibynadwy yn dweud wrthych ei bod yn anodd iawn cael eich traed danoch yn y diwydiant, a dim ond nifer fechan o bobl sydd â’r hyn y mae ei angen i lwyddo. Mae llawer o bobl ddeniadol a thalentog yn cael trafferth i ddod o hyd i ddigon o waith.

Byddwch yn wyliadwrus o hysbysebion lleol am sesiynau castio "lle nad oes angen profiad"

Ceir enghreiftiau o asiantaethau diegwyddor yn defnyddio technegau llawn perswâd mewn sesiynau castio y maent wedi’u trefnu. Cyn i chi fynd i sesiwn castio, dylech wneud cymaint o ymchwil ag y bo modd i’r asiantaeth.

Os bydd rhywun yn defnyddio technegau llawn perswâd arnoch neu os byddwch yn teimlo dan bwysau i dalu ffioedd neu i lofnodi contract, yna gadewch y sesiwn. Os bydd gan asiantaeth ddibynadwy ddiddordeb ynoch chi, bydd yn rhoi cyfle i chi feddwl am ei chynnig.

Byddwch yn wyliadwrus o gwmnïau sy’n eich gweld ar y stryd ac yn dweud wrthych chi bod gennych chi’r ‘ddelwedd’ gywir

Bydd rhai cwmnïau diegwyddor yn targedu modelau ifanc addawol ar y stryd, e.e. mewn canolfannau siopa, ac yn dweud wrthynt fod ganddyn nhw’r ‘ddelwedd’ gywir. Byddant yn cymryd eich manylion ac yn tynnu llun ohonoch, ac yn dweud wrthych y byddant yn gallu dod o hyd i waith i chi.

O fewn rhai diwrnodau, byddant yn cysylltu â chi i ddweud:

  • bod ganddyn nhw swydd y byddech chi’n berffaith ar ei chyfer
  • bod angen tynnu ffotograffau proffesiynol ohonoch er mwyn i chi gael eich ystyried ar gyfer y swydd

Byddant yn eich cynghori i fynd i dynnu’r ffotograffau mewn stiwdio sydd mewn cydweithrediad â nhw. Pan fyddwch yn cyrraedd, bydd pobl yn ceisio eich perswadio ac yn rhoi pwysau arnoch i brynu portffolios mawr, a fydd weithiau'n costio hyd at £1,500.

Yn aml, ni fydd y swyddi y maent wedi rhoi gwybod i chi amdanynt yn bodoli ac nid ydynt yn bwriadu dod o hyd i waith i chi.

Dylech bob amser wneud yn siŵr bod asiantaeth sy’n dod atoch ar y stryd yn asiantaeth ddilys a dibynadwy.

Byddwch yn wyliadwrus o hysbysebion sy'n honni eu bod yn darparu artistiaid ar gyfer rhaglenni teledu poblogaidd

Fel rheol, bydd rhaglenni poblogaidd yn defnyddio asiantaethau a chleientiaid y maent wedi eu defnyddio o'r blaen. Mae’n annhebygol bod hysbysebion sy’n honni eu bod yn gweithio â rhaglenni teledu poblogaidd yn dweud y gwir. Os oes gennych amheuaeth, ceisiwch ffonio'r cwmni teledu i holi a ydynt yn defnyddio'r asiantaeth, neu gofynnwch i'r asiantaeth am eirdaon gan gleientiaid diweddar.

Peidiwch byth â thalu ar y diwrnod

Os yw asiantaeth yn gofyn i chi am arian y tro cyntaf i chi siarad, maent yn torri'r gyfraith, a dylech chithau gerdded ymaith. Dylech ei riportio i’r Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio neu lenwi'r ffurflen gwyno ar-lein.

Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio

Cymorth a chyngor gyda'ch hawliau cyflogaeth

0800 917 2368

Peidiwch byth â llofnodi dim ar y diwrnod, yn enwedig os ydych chi dan bwysau i wneud hynny

Bydd asiantaethau dibynadwy yn gadael i chi fynd â'r gwaith papur adref gyda chi i'w ddarllen yn eich amser eich hun. Sicrhewch eich bod yn deall holl delerau ac amodau'r contract cyn llofnodi. Gofynnwch i rywun arall am help os nad ydych yn deall y telerau a'r amodau eich hun, neu cysylltwch â’r Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio i gael cymorth.

Dim ond dan rai amgylchiadau y caiff asiantaethau godi ffioedd

Mae’n gyffredin i’ch asiant gymryd comisiwn o’ch enillion. Os bydd rhywun yn gofyn i chi am arian cyn neu ar ôl i chi lofnodi contract, gofynnwch beth rydych chi'n ei gael am eich arian.

O 1 Hydref 2010 ymlaen, bydd asiantaethau sy’n canfod gwaith i chi fel model ffotograffig a/neu fodel ffasiwn yn cael eu gwahardd rhag codi ffi arnoch ymlaen llaw, gan gynnwys ffi i ddangos eich manylion mewn cyhoeddiad neu ar wefan.

Os ydych chi’n chwilio am waith fel actor, artist cefnogol, dawnsiwr, ecstra, cerddor, canwr neu berfformiwr arall, gall asiantaethau godi ffi arnoch am roi eich manylion mewn cyhoeddiad neu ar wefan. Os bydd rhywun yn gofyn i chi am arian er mwyn dangos eich manylion, gofynnwch am gael gweld fersiwn gyfredol a gofynnwch lle fydd eich manylion ar gael. Gofynnwch sut fyddai cael eich manylion yn y cyhoeddiad hwn yn eich helpu i ddod o hyd i waith.

Ni all yr asiantaeth gymryd arian oddi arnoch am 30 diwrnod ar ôl llunio cytundeb, ac yn ystod y cyfnod hwn, bydd gennych chi'r hawl i dynnu'n ôl o'r contract.

Byddwch yn wyliadwrus o asiantaethau sy’n gofyn i chi am ffioedd eraill o hyd

Os ydych chi wedi talu am gyfres o ffotograffau neu wasanaethau eraill a bod asiantaeth arall yna’n eich ffonio yn dweud bod angen mwy o luniau a ffioedd arnynt, byddwch yn wyliadwrus. Nid oes sicrwydd y dewch o hyd i waith, hyd yn oed gydag asiantaethau dibynadwy, ond byddwch yn wyliadwrus o bobl sy'n gofyn i chi am ffioedd eraill o hyd.

Mae gennych 30 diwrnod i newid eich meddwl ar ôl cytuno i ffioedd cyhoeddi

Os byddwch yn cytuno i'ch manylion ymddangos mewn cyhoeddiad neu ar wefan, cofiwch fod gennych chi 30 diwrnod i newid eich meddwl ac na chaiff yr asiantaeth gymryd y ffi yn ystod y cyfnod hwnnw. Os bydd asiantaeth yn ceisio cymryd y ffi, mae hyn yn drosedd a dylech roi gwybod am yr asiantaeth i’r Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio.

Ymchwilio i hanes yr asiantaeth cyn cytuno

Ewch i edrych ar wefan yr asiantaeth a gofyn faint o’i chleientiaid sy’n cael gwaith yn rheolaidd. Ni all yr un asiantaeth sicrhau gwaith i gleientiaid gan ei fod yn ddiwydiant anodd, ond bydd asiantaeth ddibynadwy yn gallu ateb eich cwestiynau’n ddi-drafferth. Gofynnwch i'r asiantaeth am gysylltiadau a all roi geirdaon i chi.

Ble i gael cymorth

Gall y Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio roi cymorth neu gyngor i chi ynghylch eich hawliau fel gweithiwr asiantaeth.

Os oes gennych chi ymholiad cyffredinol ynglŷn â’ch hawliau cyflogaeth fel gweithiwr asiantaeth neu gŵyn am yr asiantaeth, gallwch ddefnyddio ffurflen ymholiadau neu ffurflen gwyno ar-lein y Llinell Gymorth.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU