Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Dod o hyd i waith drwy asiantaeth cyflogaeth

Er mwyn amddiffyn hawliau gweithwyr, mae'n rhaid i asiantaethau cyflogaeth a busnesau ddilyn rheolau penodol. Yma cewch wybod beth yw eich hawliau a beth y gallwch ei wneud os nad yw’ch asiantaeth cyflogaeth yn dilyn y rheolau hyn.

Cyfyngiadau ar fusnesau ac asiantaethau cyflogaeth

Rhaid i asiantaethau cyflogaeth ddilyn rheolau penodol:

  • os ydynt yn ceisio dod o hyd i waith dros dro i chi
  • os ydych chi’n chwilio am swydd barhaol gyda chyflogwr newydd

Mae rhai pethau gwahanol yn y rheolau sy'n berthnasol, yn dibynnu ar a ydych yn chwilio am waith dros dro ynteu am waith parhaol.

I gael cyngor ynghylch sut mae manteisio i’r eithaf ar eich asiantaeth, darllenwch y dudalen ‘asiantaethau recriwtio’.

Rheolau gwahanol yn y diwydiant adloniant a'r diwydiant modelu

Os byddwch yn defnyddio asiantaethau cyflogaeth i chwilio am waith yn y diwydiant adloniant neu'r diwydiant modelu, bydd rhywfaint o reolau gwahanol yn berthnasol i'r asiantaethau hynny.

Ffioedd asiantaeth am chwilio am waith i chi

Ni chaiff eich asiantaeth cyflogaeth godi ffi arnoch am ddod o hyd i waith i chi nac am geisio dod o hyd i waith i chi. Gallant godi ffi arnoch am wasanaethau ychwanegol nad ydynt yn ymwneud â chwilio am waith (e.e. ysgrifennu CV). Ond, ni allant eich gorfodi i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn fel amod am chwilio am waith i chi.

Os yw'ch asiantaeth cyflogaeth yn darparu gwasanaethau y codir tâl ar eu cyfer, rhaid iddynt roi manylion llawn y gwasanaethau hyn i chi ar bapur. Dylai hyn gynnwys eich hawl i ganslo neu i roi’r gorau i ddefnyddio’r gwasanaethau, a hyd y cyfnod rhybudd y mae'n rhaid i chi ei roi.

Gallwch ganslo unrhyw wasanaethau â thal heb wynebu unrhyw gosb, gan gynnwys unrhyw wasanaethau ar gyfer llety, trafnidiaeth neu hyfforddiant. Rhaid i chi roi rhybudd ysgrifenedig o 10 diwrnod gwaith o leiaf i'r asiantaeth ganslo lle i fyw. Rhaid i chi roi rhybudd o bum niwrnod gwaith o leiaf ar gyfer pob gwasanaeth arall.

Os yw eich asiantaeth cyflogaeth yn dynodi cyfnod rhybudd hwy, yna mae'n torri'r gyfraith a dylech gwyno am yr asiantaeth. Mae hyn yr un mor berthnasol i weithwyr asiantaeth a cheiswyr gwaith sy'n defnyddio asiantaeth cyflogaeth i ddod o hyd i swydd newydd.

Cael eich talu gan asiantaeth

Mae gennych hawl i gael eich talu gan yr asiantaeth am yr holl oriau rydych wedi’u gweithio, p’un ai a ydych wedi cyflwyno taflen amser ai peidio. Gallai’ch asiantaeth oedi cyn eich talu tra byddant yn ymchwilio i weld a wnaethoch weithio'r oriau dan sylw, ond dim ond am gyfnod rhesymol y gallant oedi.

Mae gennych hawl i gael eich talu am y gwaith rydych wedi'i wneud hyd yn oed os nad yw'r cwmni cyflogi wedi talu'r asiantaeth cyflogaeth.

Safon eich gwaith

Os yw cwmni'n anfodlon â'ch gwaith, mae'n fater contract rhwng yr asiantaeth a'r cwmni. Mae’n dal yn rhaid i’r asiantaeth eich talu am yr holl oriau rydych wedi'u gweithio.

Telerau ac amodau defnyddio’r asiantaeth

Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio

Cymorth a chyngor i weithwyr asiantaeth – 0800 917 2368

Os ydych chi’n weithiwr asiantaeth sy’n defnyddio asiantaeth, bydd yn rhaid i'ch asiantaeth gyflwyno'ch telerau cyflogaeth yn ysgrifenedig i chi cyn chwilio am waith ar eich cyfer. Dylai’r rhain gynnwys:

  • a ydych yn cael eich cyflogi dan gontract ar gyfer gwasanaethau ynteu gontract cyflogaeth
  • eich cyfnod rhybudd
  • manylion eich cyflog
  • eich hawl i wyliau

Ni all asiantaeth newid eich telerau ac amodau heb ddweud wrthych.

Os byddwch yn cytuno i’r newidiadau, rhaid iddynt roi dogfen newydd i chi a fydd yn cynnwys holl fanylion y newidiadau a’r dyddiad y dônt i rym.

Ni chaiff asiantaeth rannu gwybodaeth amdanoch chi ag unrhyw drydydd parti na chyflogwr presennol heb eich caniatâd chi, oni bai y gwneir hynny am resymau cyfreithiol neu ei fod yn gorff proffesiynol rydych chi’n aelod ohono.

Hefyd, rhaid i asiantaeth ddweud y gwir wrth hysbysebu (mae hyn hefyd yn berthnasol i geiswyr gwaith sy'n defnyddio asiantaeth cyflogaeth i ddod o hyd i swydd).

Gwybodaeth sylfaenol y dylech ei chael wrth ddechrau gweithio i gwmni

Pan fydd asiantaeth yn cynnig swydd i chi gyda chwmni, dylent ddweud y canlynol wrthych:

  • eich dyddiad dechrau
  • cyfnod tebygol y gwaith
  • y math o waith
  • lleoliad
  • eich oriau
  • peryglon iechyd a diogelwch a'r camau y mae'r cwmni a fydd yn eich cyflogi wedi'u cymryd i reoli peryglon o'r fath
  • profiad, hyfforddiant neu gymwysterau angenrheidiol ar gyfer y rôl
  • unrhyw gostau sy'n daladwy
  • cyfradd eich cyflog

Ni chaiff asiantaeth ymrwymo i gytundeb gyda chwmni cyflogi ar eich rhan nac eich cofrestru ar gyfer cytundeb ar ran cwmni cyflogi.

Ni chaiff asiantaeth eich anfon at gwmni cyflogi i wneud gwaith a wneir fel arfer gan eu gweithwyr eu hunain sy'n cymryd rhan mewn streic neu weithred ddiwydiannol arall.

Gweithio ym maes amaethyddiaeth

Os ydych chi'n defnyddio asiantaeth i chwilio am waith yn un o'r meysydd canlynol, rydych yn defnyddio asiantaeth a elwir yn gangfeistr (gangmaster):

  • amaethyddiaeth
  • coedwigaeth
  • garddwriaeth
  • casglu pysgod cregyn
  • prosesu a phecynnu bwyd a diod

Rhaid i asiantaethau gangfeistr gofrestru â’r Awdurdod Trwyddedu Gangfeistri a meddu ar drwydded.

Gweithio dramor

Os cewch gynnig gwaith dramor, mae'n rhaid i'ch asiantaeth sicrhau bod gan y cwmni cyflogi safle busnes yn y DU. Os nad oes ganddo, mae'n rhaid i'ch asiantaeth ofyn i'r cwmni cyflogi am ddatganiad ysgrifenedig yn nodi na fydd y gwaith arfaethedig yn amharu ar eich buddiannau.

Os yw’ch asiantaeth wedi talu eich costau ar gyfer teithio i’r swydd, bydd yn rhaid i’r asiantaeth dalu costau'r daith yn ôl hefyd:

  • pan ddaw eich swydd i ben
  • os na wnaiff y swydd ddechrau
  • os oes ganddynt gytundeb ysgrifenedig gyda'ch cwmni cyflogi ar gyfer talu
  • os yw eich cwmni cyflogi yn gwrthod talu costau'r daith yn ôl pan na ddylai wneud hynny

Os byddwch yn derbyn swydd dramor, darllenwch y datganiad ysgrifenedig a ddarparwyd gan eich asiantaeth yn ofalus. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall telerau ac amodau eich cyflogaeth cyn gadael.

Gweithwyr o dan 18 oed

Os ydych chi dan 18 oed mae rheolau ychwanegol i'ch amddiffyn. Os disgwylir i chi weithio yn ystod oriau ysgol, mae'n rhaid i’r asiantaeth sicrhau eich bod wedi cael arweiniad galwedigaethol gan y gwasanaeth gyrfaoedd lleol. Os yw’r asiantaeth yn trefnu swydd dramor, rhaid iddynt gael caniatâd ysgrifenedig gan eich rhiant neu’ch gwarcheidwad.

Ble i gael cymorth

Gall y Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio roi cymorth neu gyngor i chi ar eich hawliau fel gweithiwr asiantaeth.

Os oes gennych ymholiad cyffredinol ynghylch eich hawliau cyflogaeth fel gweithiwr asiantaeth neu gŵyn am yr asiantaeth gallwch ddefnyddio ei ffurflen ymholiad neu gwyno ar-lein.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU