Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi’n gweithio ym maes amaethyddiaeth, mae gennych chi rai hawliau cyflogaeth gwahanol i weithwyr eraill. Er enghraifft, fe allech fod â hawl i gael yr Isafswm Cyflog Amaethyddol yn hytrach na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Yma cewch wybod beth yw eich hawliau, ar sail eich categori a’ch graddfa.
Mae gwaith amaethyddol yn cynnwys:
Nid yw’r gweithgareddau a restrir yn cynnwys popeth. Os ydych chi’n meddwl eich bod efallai yn gweithio ym maes amaethyddiaeth, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio i gael mwy o help a gwybodaeth.
Mae isafswm cyflog gweithiwr amaethyddol yn dibynnu ar ei raddfa. Mae gweithwyr amaethyddol yn perthyn i raddfa rhwng un a chwech, ac mae’r raddfa sy'n berthnasol i chi yn dibynnu ar eich dyletswyddau, eich cyfrifoldebau a/neu eich cymwysterau.
Ceir amodau gwahanol ar gyfer hyfforddeion a phrentisiaid. Ceir trefniadau trawsnewidiol i ddiogelu gweithwyr hyblyg sydd wedi gwneud cytundeb cyn 30 Medi 2009.
Mae hawliau gweithwyr amaethyddol wedi’u nodi yn y 'Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol'. Ni all eich contract cyflogaeth gynnig telerau cyflogaeth llai ffafriol i chi na’r hawliau a nodir yn y Gorchymyn.
Mae gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Amaethyddol os ydych naill ai:
Gallech hefyd fod â hawl i gael y canlynol (ar yr amod eich bod yn gymwys a chan ddibynnu ar eich contract cyflogaeth):
Hyfforddeion
Os ydych chi'n hyfforddai, nid oes gennych hawl i gael:
Gall eich 'cyflogwr' neu’ch darparwr hyfforddiant eich contractio i gyflawni gwaith ychwanegol ar ben yr oriau sy'n rhan o'ch cytundeb hyfforddiant. Os byddwch yn gwneud y gwaith ychwanegol, rhaid i chi gael eich talu ar y gyfradd goramser ar gyfer eich graddfa.
Mae gan bob gweithiwr amaethyddol 18 oed a hŷn hawl i gael egwyl pan fyddant yn gweithio mwy na phum awr a hanner y dydd.
Dylai'r egwyl bara 30 munud, a hynny’n ddi-dor ac i ffwrdd o'ch man gwaith. Ni chewch gymryd yr egwyl ar ddechrau nac ar ddiwedd y diwrnod gwaith. Ni roddir tâl am gyfnodau egwyl.
Wrth geisio cyfrifo eich hawl i gael cyfnod egwyl, mae 'amser gwaith' yn golygu:
Os byddwch yn dilyn unrhyw gyrsiau hyfforddi cymeradwy (e.e. cyrsiau hyfforddi i gael eich derbyn i'r raddfa nesaf), dylid talu o leiaf eich cyflog arferol i chi. Mae hyn yn berthnasol yn ystod yr hyfforddiant ac am unrhyw amser ychwanegol arall a dreulir yn teithio i'r hyfforddiant ac oddi yno.
Dylai’ch cyflogwr hefyd dalu am unrhyw ffioedd y cwrs ac am unrhyw dreuliau, er enghraifft teithio, bwyd a llety.
Os ydych yn weithiwr graddfa un ac wedi gweithio i’ch cyflogwr am gyfnod di-dor o 30 wythnos, efallai yr hoffech gael hyfforddiant er mwyn cael eich derbyn i raddfa dau. Yn ystod yr hyfforddiant, rhaid i’ch cyflogwr dalu am y canlynol:
Mae’n bosib y byddwch yn gweithio i asiantaeth sydd wedi ei ddosbarthu fel ‘gang feistr’ os ydych chi am wneud gwaith achlysurol neu dros dro yn un o’r meysydd canlynol:
Fel bod gangfeistr yn gallu gweithredu’n gyfreithlon efallai y bydd angen iddynt gael trwydded a gyhoeddir gan Awdurdod Trwyddedu Gangfeistr. Mae hyn yn gymorth i sicrhau nad ydych yn cael eich ymwela fel gweithiwr ac eich bod yn derbyn y tâl a budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
Gallwch weld os mae gangfeistr â thrwydded drwy fynd at y gofrestr ar wefan Awdurdod Trwyddedu Gangfeistr.
Mae yna, fodd bynnag, amgylchiadau penodol pan nad oes angen trwydded ar gangfeistri. Am fanylion ar yr eithriadau hyn gallwch ymweld â gwefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) neu gysylltu â Llinell gymorth Hawliau Tâl a Gwaith.
Os oes angen rhagor o gyngor arnoch am eich hawliau fel gweithiwr amaethyddol cysylltwch â'r llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio, neu lenwi eu ffurflen ymholiadau ar-lein.