Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol

Mae gan bron bob gweithiwr amaethyddol (ar wahân i hyfforddeion sy’n gwneud gwaith fel rhan o’u cytundeb hyfforddiant) hawl i wyliau blynyddol. Yma cewch wybod pa fath arall o absenoldeb â thâl y gallech fod â hawl iddo, er enghraifft gwyliau cyhoeddus ac absenoldeb oherwydd profedigaeth.

Gwyliau blynyddol – faint gewch chi

Mae blwyddyn wyliau pob gweithiwr amaethyddol yn dechrau ar 1 Hydref ac yn dod i ben ar 30 Medi'r flwyddyn ganlynol.

Mae faint o wyliau blynyddol gewch chi yn dibynnu ar nifer y diwrnodau yr ydych yn eu gweithio bob wythnos. Ni chewch gyfri unrhyw oriau goramser gwirfoddol yr ydych wedi eu gweithio.

Os byddwch yn gweithio goramser gwarantedig, gallwch gynnwys yr oriau hyn wrth gyfrifo nifer y diwrnodau yr ydych yn eu gweithio bob wythnos. Goramser gwarantedig yw goramser y mae’n rhaid i chi ei weithio o dan eich contract cyflogaeth. Byddech yn cael eich talu am y goramser hwn hyd yn oed os nad oedd gwaith i chi ei wneud.

Gwelir isod beth yw hawl gwyliau blynyddol gweithwyr sy'n gweithio blwyddyn wyliau gyfan i'r un cyflogwr.

Diwrnodau a weithiwyd bob wythnos

Hawl i wyliau blynyddol (diwrnodau)

Mwy na chwech

38

Mwy na phump ond dim mwy na chwech

35

Mwy na phedwar ond dim mwy na phump

31

Mwy na thri ond dim mwy na phedwar

25

Mwy na dau ond dim mwy na thri

20

Mwy nag un ond dim mwy na dau

13

Un neu lai

7.5

Patrymau gweithio gwahanol

Os nad ydych yn gweithio'r un nifer o ddiwrnodau bob wythnos, bydd angen i chi gyfrifo eich hawl i wyliau blynyddol mewn camau.

Cam un: cyfrifwch nifer yr wythnosau o ddechrau'r flwyddyn wyliau i'r dyddiad cyn y diwrnod y byddwch yn dechrau eich gwyliau ('y cyfnod')

Cam dau: cyfrifwch nifer y ‘diwrnodau cymhwyso’ yn y cyfnod, sef nifer y diwrnodau y gwnaethoch weithio oriau sylfaenol neu oramser gwarantedig neu nifer y diwrnodau y gwnaethoch eu cymryd ar gyfer y canlynol:

  • gwyliau blynyddol
  • absenoldeb amaethyddol arall
  • absenoldeb mabwysiadu arferol statudol
  • absenoldeb mamolaeth arferol statudol
  • absenoldeb tadolaeth statudol
  • absenoldeb salwch (boed gyda thâl ai peidio)

Cam tri: rhannwch nifer y ‘diwrnodau cymhwyso’ (cam dau) gyda nifer yr wythnosau yn ‘y cyfnod’ (cam un). Dyma faint o ddiwrnodau y gwnaethoch eu gweithio bob wythnos

Cam pedwar: cyfrifwch eich hawl i wyliau blynyddol yn y tabl uchod

Blwyddyn wyliau anghyflawn

Os nad ydych wedi cael eich cyflogi gan yr un cyflogwr am flwyddyn wyliau gyfan, bydd angen i chi gyfrifo eich gwyliau blynyddol mewn ffordd wahanol.

Cam un: defnyddiwch y tabl uchod i gyfrifo faint o wyliau blynyddol fyddech chi wedi'i gael dros flwyddyn gyflawn

Cam dau: cyfrifwch nifer yr wythnosau yr ydych wedi'u gweithio’n ddi-dor i’ch cyflogwr yn ystod y flwyddyn wyliau

Cam tri: rhannwch nifer yr wythnosau yr ydych wedi’u gweithio’n ddi-dor gyda 52

Cam pedwar: lluoswch nifer eich diwrnodau o wyliau blynyddol (cam un) gydag ateb cam tri

Dyma faint o wyliau blynyddol y mae gennych hawl iddo.

Os byddwch yn gadael cyflogwr yn ystod blwyddyn wyliau a bod gwyliau blynyddol yn ddyledus i chi, dylai’ch cyflogwr dalu hyn i chi. Os ydych wedi cymryd mwy o wyliau blynyddol nag yr ydych wedi’u cronni, gall eich cyflogwr ddidynnu gwerth hyn o’ch cyflog olaf.

Cymryd gwyliau

Gallwch gymryd eich gwyliau ar unrhyw adeg yn ystod eich blwyddyn wyliau, ond mae’n rhaid bod eich cyflogwr wedi cytuno iddo. Rhaid i'ch cyflogwr adael i chi gymryd pythefnos o'ch gwyliau blynyddol ar ddiwrnodau sy’n dilyn ei gilydd rhwng 1 Ebrill a 30 Medi'r un flwyddyn. Mae hyn yn golygu y cewch gymryd hyd at bythefnos o’ch gwyliau i gyd gyda'i gilydd rhwng mis Ebrill a mis Medi.

Gall eich cyflogwr ddweud wrthych pryd y dylech gymryd eich gwyliau blynyddol, a chaiff ofyn i chi gymryd o leiaf pythefnos rhwng 1 Hydref ac 31 Mawrth yn yr un flwyddyn wyliau.

Gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus

Mae gwyliau cyhoeddus wedi’u cynnwys yn eich hawl i wyliau blynyddol. Bydd gweithwyr sy’n gweithio pedwar diwrnod neu lai yr wythnos yn cael cyfran o’r rhain yn unol â'r oriau a weithir ganddynt.

Os bydd gwyliau cyhoeddus ar ddiwrnod yr ydych fel arfer yn gweithio, naill ai:

  • gall eich cyflogwr ddweud wrthych am beidio â gweithio a thrin y diwrnod fel gwyliau blynyddol
  • neu, os bydd eich cyflogwr angen i chi weithio, dylai dalu goramser i chi am yr oriau yr ydych wedi'u gweithio (mae'r diwrnod yn dal yn rhan o’ch gwyliau blynyddol y gallwch ei gymryd yn y dyfodol)

Cyflogwr yn prynu eich gwyliau blynyddol

Gallwch gytuno bod eich cyflogwr yn 'prynu' eich gwyliau blynyddol. Mae hyn yn golygu bod gennych hawl i wyliau â thal a’r gyfradd goramser briodol ar gyfer yr oriau a weithiwyd ar y diwrnod ‘a brynwyd’.

Dim ond hyn a hyn o ddiwrnodau y gall eich cyflogwr ei brynu.

Diwrnodau a weithiwyd bob wythnos

Uchafswm nifer o ddiwrnodau y gall cyflogwr eu prynu

Mwy na chwech

10

Mwy na phump ond dim mwy na chwech

7

Mwy na phedwar ond dim mwy na phump

3

Mwy na thri ond dim mwy na phedwar

2.5

Mwy na dau ond dim mwy na thri

2.5

Mwy nag un ond dim mwy na dau

1.5

Un neu lai

1.5

Mae’r amodau canlynol yn berthnasol hefyd:

  • rhaid i’ch cyflogwr gofnodi’n ysgrifenedig unrhyw gytundebau ar gyfer pob diwrnod o wyliau blynyddol y bydd yn eu prynu
  • rhaid iddo gadw'r cofnod am dair blynedd ar ôl y flwyddyn wyliau honno
  • os na fyddwch yn gweithio fel y cytunwyd ar ddiwrnod o wyliau blynyddol a brynwyd gan eich cyflogwr, caiff y diwrnod ei drin fel gwyliau blynyddol

Absenoldeb oherwydd profedigaeth

Mae gan bob gweithiwr amaethyddol hawl i absenoldeb â thal oherwydd profedigaeth am hyd at bedwar diwrnod. Mae gennych hawl i hyn os bydd aelod o'ch teulu'n marw – gallai fod yn rhiant, gwarcheidwad, plentyn, cymar, brawd, chwaer, taid neu nain/tad-cu neu fam-gu, ŵyr neu wyres neu unigolyn arall yr oedd gennych berthynas agos ag ef.

Ble mae cael cymorth

Os oes angen rhagor o gyngor arnoch am eich hawliau fel gweithiwr amaethyddol gallwch gysylltu â'r llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio, neu lenwi eu ffurflen ymholiadau ar-lein.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU