Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Categorïau a graddfeydd gweithwyr amaethyddol

Ceir gwahanol fathau o weithwyr amaethyddol. Cânt eu rhannu’n chwe graddfa a phedwar categori. Mae eich hawliau a'ch haeddiannau yn eich gwaith, er enghraifft eich cyflog, yn dibynnu ar eich graddfa a'ch categori.

Categorïau

Eich dyletswyddau, eich cyfrifoldebau a/neu eich cymwysterau sy’n pennu ym mha gategori ydych chi fel gweithiwr amaethyddol.

Gweithwyr hyblyg amser llawn a rhan-amser

Mae’r categorïau gweithwyr amser llawn a rhan-amser wedi cael eu newid. Os ydych chi'n gwneud cytundeb gweithio hyblyg ar 1 Hydref 2009 neu ar ôl y dyddiad hwnnw, ni fyddwch yn cael eich ystyried yn weithiwr hyblyg. Yn hytrach, dylech edrych ar yr hawliau sy'n berthnasol i'ch graddfa.

Os oes gennych gytundeb gweithio hyblyg ers 30 Medi 2009 neu cyn hynny, ceir trefniadau pontio sydd dal yn berthnasol i chi.

Rydych yn weithiwr hyblyg:

  • os oes gennych gytundeb gweithio hyblyg ysgrifenedig i ddilyn patrwm gweithio hyblyg, a ddechreuodd cyn 30 Medi 2009 ac sy’n para blwyddyn o leiaf
  • os ydych wedi gwneud cais am gynrychiolaeth gan undeb llafur mewn unrhyw drafodaethau ynghylch eich cytundeb gweithio hyblyg, os oedd angen

Rydych yn weithiwr hyblyg amser llawn os ydych yn gweithio:

  • wythnos 39 awr sylfaenol (gall fod ar gyfartaledd dros ddwy neu dair wythnos a dros gyfnod o rhwng pedwar a chwe diwrnod)
  • diwrnodau gwaith ac oriau gwaith penodol na ellir eu newid heb i chi a'ch cyflogwr gytuno ar hynny
  • uchafswm o ddeg o oriau gwaith sylfaenol bob diwrnod
  • ar ddydd Sul pan fo'ch angen, ond y cewch ddiwrnod arall yn rhydd yn ystod yr wythnos pan fyddwch yn gwneud hyn

Byddech yn weithiwr hyblyg rhan-amser os ydych yn gweithio:

  • llai na 39 awr sylfaenol yr wythnos
  • diwrnodau gwaith ac oriau gwaith penodol na ellir eu newid heb i chi a'ch cyflogwr gytuno ar hynny
  • eich oriau sylfaenol dros wythnos chwe diwrnod
  • o leiaf wyth a dim mwy na deg awr sylfaenol bob dydd
  • ar ddydd Sul heb gael eich talu am waith goramser

Prentis

Os ydych yn cael eich cyflogi fel prentis neu brentis uwch, rydych yn perthyn i’r categori prentis.

Hyfforddai

Rydych chi’n hyfforddai os ydych chi:

  • ar brofiad gwaith fel rhan o gynllun hyfforddiant amaethyddol a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesi a Sgiliau (BIS)
  • ar brofiad gwaith ym maes amaethyddiaeth fel rhan o Ddiploma mewn Astudiaethau Amgylcheddol a Diwydiannau'r Tir ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 a 19 oed
  • yn cymryd rhan yn ail gyfnod Rhaglen Ewropeaidd Leonardo da Vinci ac yn gweithio ym myd amaeth

Graddfeydd amaethyddol

Pan fo angen i chi feddu ar gymhwyster er mwyn cael ymuno ag un o'r graddfeydd, bydd angen i chi ddweud wrth eich cyflogwr bod gennych y cymhwyster priodol. Os bydd eich cyflogwr yn ysgrifennu atoch i ofyn am gadarnhad bod gennych y cymhwyster, bydd yn rhaid i chi ddangos y cymhwyster i’ch cyflogwr.

Byddwch yn ymuno â'r raddfa ar y dyddiad y byddwch yn dweud wrth eich cyflogwr. Ni ellir ei ôl-ddyddio i’r dyddiad y cawsoch eich cymhwyster.

Graddfa un – graddfa gychwynnol

Os nad ydych yn gymwys ar gyfer y graddfeydd eraill, byddwch yn weithiwr cychwynnol graddfa un. Yn aml, gweithwyr sy’n ymwneud â gwaith cynaeafu neu becynnu yw’r rhain.

Yn gyffredinol, caiff gweithwyr graddfa un eu goruchwylio. Pan fyddwch wedi gweithio i’r un cyflogwr am gyfnod di-dor o 30 wythnos, mae gennych hawl i gael hyfforddiant i fod yn weithiwr graddfa dau. Eich cyflogwr ddylai dalu am yr hyfforddiant hwn.

Graddfa dau – gweithiwr sylfaenol

Rydych yn weithiwr sylfaenol graddfa dau os ydych yn meddu ar un o'r canlynol:

  • tystysgrif alwedigaethol ar gyfer NVQ lefel dau o leiaf
  • tystysgrif cymhwysedd ar gyfer y sector amaethyddol yr ydych yn gweithio ynddo

Rydych hefyd yn weithiwr graddfa dau os oes un neu fwy o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn gweithio heb oruchwyliaeth gan amlaf
  • rydych yn gweithio gydag anifeiliaid
  • rydych yn defnyddio peiriannau gyda phŵer
  • rydych yn gyrru tractor amaethyddol

Graddfa tri – gweithiwr arweiniol

I fod yn weithiwr arweiniol graddfa tri, dylech fod wedi bod yn gweithio yn y sector amaethyddiaeth am o leiaf ddwy flynedd yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Dylech hefyd fod ag un o’r canlynol:

  • Tystysgrif Genedlaethol ym maes amaethyddiaeth neu arddwriaeth
  • Pedair tystysgrif cymhwysedd neu gymhwysedd an-achrededig, mewn unrhyw gyfuniad, gan gynnwys unrhyw dystysgrifau gorfodol ar gyfer y sector amaethyddol yr ydych yn gweithio ynddo

Er enghraifft, os ydych wedi bod yn gweithio yn y sector defaid, llaeth, moch neu fîff am y tair blynedd diwethaf a’ch bod yn dymuno bod yn weithiwr graddfa tri, rhaid i chi feddu ar Dystysgrif Cymhwysedd Cadw Stoc a Lles Sylfaenol fel un o’r pedair tystysgrif angenrheidiol.

Neu, rydych yn weithiwr graddfa tri:

  • os ydych yn gweithio fel rhan o dîm ac yn arwain y tîm hwnnw, gan fonitro bod gweithwyr yn dilyn cyfarwyddiadau'r rheolwyr ond nad ydych yn disgyblu aelodau o'r tîm
  • os yw eich cyflogwr yn eich ystyried yn arweinydd tîm graddfa tri a’ch bod wedi cyflawni hyd at fis o gyfnod prawf

Pan fyddwch chi’n arweinydd gradd tri, dylai eich cyflogwr roi tystysgrif cyrhaeddiad wedi'i llofnodi i chi ar gyfer dau gymhwysedd yr ydych wedi'u cyflawni.

Graddfa pedwar – graddfa crefft

Rydych yn weithiwr graddfa crefft os oes gennych naill ai:

  • gymhwyster galwedigaethol NVQ lefel tri
  • neu wyth tystysgrif cymhwysedd, gan gynnwys y cymwyseddau gorfodol, ar gyfer y sector amaethyddol yr ydych yn gweithio ynddo

Dylech hefyd naill ai:

  • fod wedi gweithio ym myd amaeth am o leiaf ddwy flynedd yn ystod y pum mlynedd diwethaf
  • neu fod wedi cael eich cyflogi gan yr un cyflogwr am gyfnod di-dor o 12 mis ers cael cymhwyster graddfa pedwar

Ceir amryw o gymwysterau dilys eraill ar gyfer y raddfa crefft. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â'r Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio.

Graddfa pump – graddfa goruchwylio

Rydych yn weithiwr goruchwylio graddfa pump os ydych yn gyfrifol am naill ai:

  • goruchwylio gwaith fferm o ddydd i ddydd a rhoi penderfyniadau rheolwyr ar waith, gan gynnwys disgyblu staff
  • neu'n gyfrifol am gyfarwyddo, goruchwylio a disgyblu staff

Graddfa chwech – graddfa rheoli fferm

Rydych yn weithiwr rheoli fferm graddfa chwech os oes gennych naill ai:

  • gyfrifoldeb rheolwr dros fferm gyfan, neu ran ohoni os caiff ei rhedeg fel busnes ar wahân
  • cyfrifoldeb dros gyflogi, disgyblu a diswyddo staff
  • neu gyfrifoldeb dros wneud argymhellion i’ch cyflogwr ynghylch diswyddo staff rydych chi’n eu rheoli

Ble i gael cymorth

Os oes angen rhagor o gyngor arnoch am eich hawliau fel gweithiwr amaethyddol cysylltwch â'r Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio, neu lenwi eu ffurflen ymholiadau ar-lein.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU