Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cyflogaeth ddi-dor

Mae hawliau llawer o’ch gweithwyr ond yn berthnasol os oes gennych gyfnod sylfaenol o gyflogaeth ddi-dor. Mae cyflogaeth ddi-dor fel arfer yn golygu gweithio i’r un cyflogwr yn ddi-fwlch, fodd bynnag mae yna eithriadau.

Beth mae cyflogaeth ddi-dor yn ei olygu

Mae cyflogaeth ddi-dor fel arfer yn golygu gweithio i’r un cyflogwr yn ddi-fwlch. Mae absenoldeb o’r gwaith o ganlyniad i unrhyw un o’r canlynol yn cyfrif fel cyflogaeth ddi-dor, cyhyd â bod eich contract cyflogaeth yn parhau trwy gydol yr absenoldeb:

  • salwch
  • absenoldeb mamolaeth
  • absenoldeb tadolaeth
  • absenoldeb mabwysiadu
  • absenoldeb rhiant
  • terfynu'ch cyflogaeth dros dro
  • cyfnod gwyliau
  • amser arall i ffwrdd a’i caniateir gan eich contract cyflogaeth


Cyfrifir eich cyflogaeth ddi-dor mewn misoedd a blynyddoedd, gan ddechrau ar y dyddiad pan ddechreuoch weithio i’ch cyflogwr. Os oes toriad yn eich cyflogaeth, yna fel arfer ni fydd yr wythnosau na’r misoedd cyn y dyddiad hwnnw yn cyfrif fel cyflogaeth ddi-dor. Er enghraifft, buoch yn gweithio i gwmni am bum mlynedd ac yna’n dechrau swydd gan fusnes arall am chwe mis cyn dychwelyd i’ch cyflogwr gwreiddiol, ni fydd eich cyflogaeth ddi-dor yn cynnwys y pum mlynedd cynt y buoch yn gweithio i’r cwmni.

Seibiannau yn eich cyflogaeth ddi-dor

Ceir rhai amgylchiadau lle gall seibiannau yn eich contract cyflogaeth gael ei ystyried fel cyflogaeth ddi-dor o hyd.

Wythnosau lle nad oes contract

Os nad oes gennych gontract cyflogaeth gyda’ch cyflogwr am sawl wythnos, gallai’r amser gyfrif o hyd tuag at eich cyflogaeth ddi-dor os:

  • ydych i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch neu anaf ac yna’n cael eich ail-gyflogi o fewn 26 wythnos o’r contract yn cael ei ddisodli neu ei ganslo
  • ydy’r gwaith yn dod i ben dros dro
  • ydych i ffwrdd o dan amgylchiadau y mae eich cyflogwr yn ystyried fel cyflogaeth ddi-dor oherwydd trefniadau neu arferiad yn eich gweithle

Adfer i’r swydd ar ôl achos o ddiswyddo annheg

Yn dilyn cwyn am ddiswyddo annheg ac yna'n cael eich adfer i'r swydd, bydd yr wythnosau rhwng y dyddiad pan gawsoch eich ymddiswyddo a’r dyddiad y cawsoch eich adfer i'r swydd yn cyfrif tuag at eich cyflogaeth ddi-dor.

Gweithredu diwydiannol

Yn ystod streic neu weithredu diwydiannol bydd eich cyflogaeth ddi-dor yn cael ei drin fel 'wedi'i ohirio'. Golyga hyn na fydd y cyfnod pan oeddech ar streic yn cyfrif tuag at eich cyflogaeth ddi-dor, ond nid yw’n torri ar ddilyniant eich cyfnod o gyflogaeth.
Yn hytrach, bydd y dyddiad dechrau yn cael ei drin fel wedi’i ohirio am y nifer hynny o ddiwrnodau. Er enghraifft, os dechreuoch gyda chyflogwr newydd ar 1 Chwefror a dros gyfnod o flwyddyn ar streic am bum niwrnod, eich dyddiad dechrau ar gyfer cyflogaeth ddi-dor fyddai 6 Chwefror.

Gwaith dramor

Yn gyffredinol, mae gweithio dramor yn cyfrif tuag at eich cyfnod o gyflogaeth ddi-dor. Os ydych yn ceisio cyfrifo faint o dâl dileu swydd y gallai fod gennych hawl iddo, gallai gwaith dramor gyfrif tuag ato. Bydd gofyn eich bod wedi cael eich cyfrif fel gweithwyr cyflog ar gyfer dibenion nawdd cymdeithasol yn ystod yr wythnos honno. Am ragor o gymorth ar beth y mae hyn yn ei olygu i chi, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM, Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) neu eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol.

Cyfnod gyda chyflogwr blaenorol

Os byddwch yn newid cyflogwr, bydd hynny fel arfer yn cyfrif fel toriad yn eich cyflogaeth. Fodd bynnag, ceir amgylchiadau arbennig lle gall cyfnod gyda chyflogwr blaenorol gyfrif tuag at y gyflogaeth ddi-dor gyda’ch cyflogwr presennol. Y rhain yw:

  • os yw’r busnes yr ydych yn gweithio iddo yn cael ei drosglwyddo i gyflogwr arall (a elwir hefyd yn TUPE)
  • os, drwy Ddeddf Seneddol, mae un corff corfforaethol yn disodli un arall fel eich cyflogwr
  • os yw’ch cyflogwr yn marw a bod ei gynrychiolwyr personol neu ei ymddiriedolwyr yn parhau i’ch cyflogi
  • os byddwch yn symud o un cyflogwr i gyflogwr ‘cysylltiedig’, sy’n golygu bod un o'r cwmnïau yn rhan o’r cwmni arall neu’n perthyn iddo (naill ai’n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol)
  • os ydych yn athro sy’n symud o ysgol awdurdod lleol i gael eich cyflogi gan gorff llywodraethol ysgol arall o fewn yr un awdurdod
  • os ydych yn cael eich cyflogi gan awdurdod lleol neu gorff cysylltiedig ac yn cael eich symud i awdurdod gwahanol ar gyfer pwrpas tâl dileu swydd yn unig
  • os ydych yn cael eich cyflogi gan y gwasanaeth iechyd ac yn symud at gyflogwr gwasanaeth iechyd arall tra’n cael hyfforddiant

Beth i'w wneud os byddwch chi'n wynebu problemau

Mae’n well bob amser i geisio datrys unrhyw broblem gyda’ch cyflogwr yn anffurfiol. I gael mwy o wybodaeth ynghylch ble i gael cymorth gyda materion yn ymwneud â chyflogaeth, ewch i'r dudalen 'cysylltiadau cyflogaeth'. Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw.

Os ydych mewn anghydfod ynghylch eich cyfnod o wasanaeth na allwch ei ddatrys, gallwch wneud cais i Dribiwnlys Cyflogaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU