Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Contractau cyflogaeth

Mae gan bob cyflogai gontract cyflogaeth gyda'i gyflogwr, er y gall y contract hwnnw fod yn un llafar. Os nad oes gennych gontract cyflogaeth ysgrifenedig, byddai eich contract wedi'i greu yn awtomatig pan wnaethoch ddechrau gweithio i'ch cyflogwr.

Beth yw contract cyflogaeth?

Mae contract cyflogaeth yn gytundeb rhwng cyflogwr a chyflogai sy'n gosod allan eu hawliau cyflogaeth, eu cyfrifoldebau a'u dyletswyddau. Gelwir y rhain yn 'delerau'r' contract.

Does dim rhaid i'ch contract cyflogaeth fod yn ysgrifenedig. Fodd bynnag, mae gennych hawl cael datganiad ysgrifenedig o'ch prif delerau cyflogaeth o fewn dau fis i ddechrau gweithio.

Caiff y contract cyflogaeth ei wneud cyn gynted ag y byddwch yn derbyn cynnig am swydd. Os byddwch yn dechrau gweithio bydd yn dangos eich bod wedi derbyn y swydd ar y telerau a gynigir gan y cyflogwr, hyd yn oed os nad ydych yn gwybod beth ydynt. Gallai cael contract ysgrifenedig ddatrys anghydfodau gyda'ch cyflogwr yn ddiweddarach, a bydd yn eich helpu i ddeall eich hawliau cyflogaeth.

Rydych chi a'ch cyflogwr yn rhwym wrth y contract cyflogaeth nes bydd yn dod i ben (drwy gyflwyno hysbysiad fel arfer) nes bydd y telerau wedi newid (drwy gytundeb rhyngoch chi a'ch cyflogwr fel arfer).

Telerau contract cyflogaeth

Gallai telerau eich contract cyflogaeth fod yn amryw o fathau gwahanol, ac nid oes yn rhaid ysgrifennu rhai ohonynt. Dylech fod yn ymwybodol beth yw telerau eich contract cyflogaeth, fel eich bod yn deall rhai o'ch hawliau cyflogaeth.

Datganiad ysgrifenedig o fanylion cyflogaeth

Os ydych yn gyflogai sydd wedi bod yn gweithio i'ch cyflogwr am fwy na mis, mae gennych hawl i gael datganiad ysgrifenedig o fanylion eich cyflogaeth. Mae'n rhaid i'ch cyflogwr ddarparu hwn o fewn dau fis i chi ddechrau gweithio, hyd yn oed os byddwch yn gweithio iddynt am lai na dau fis. Bydd y datganiad ysgrifenedig yn gosod allan rai o'ch prif hawliau cyflogaeth.

Contract i ddarparu gwasanaethau

Os oes gennych 'gontract i ddarparu gwasanaethau' neu 'gontract ar gyfer gwasanaethau' gyda rhywun, yna mae hyn yn wahanol i gontract cyflogaeth ac mae'n golygu'n gyffredinol eich bod yn hunangyflogedig.

Mae contract i ddarparu gwasanaethau yn gytundeb rhyngoch chi a rhywun arall i gyflawni rhywfaint o waith iddynt (er enghraifft peintio tŷ rhywun). Ni fyddwch yn dod yn 'gyflogai' i'r unigolyn hwn - y cwbl rydych yn ei wneud yw darparu gwasanaeth iddynt.

Os ydych yn weithiwr asiantaeth dros dro mae'n bosib y cewch gontract gan eich asiantaeth dan 'gontract ar gyfer gwasanaethau'. Bydd yn rhaid i'ch asiantaeth, fel busnes cyflogaeth, roi contract ysgrifenedig i chi.

Beth i'w wneud os oes gennych broblem

Os oes gennych broblem, dylech geisio datrys y broblem gyda'ch cyflogwr yn gyntaf. Gallech gysylltu â'r Gwasanaethau Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) i gael cymorth, neu ewch i'r adran cysylltiadau cyflogaeth defnyddiol i weld manylion cyswllt eraill. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith e.e. swyddog undeb llafur, mae'n bosib y gall eich helpu.

Os na allwch ddatrys y broblem gyda'r cyflogwr, efallai y bydd modd i chi wneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth (Tribiwnlys Diwydiannol yng Ngogledd Iwerddon).

Allweddumynediad llywodraeth y DU