Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Adleoli gwaith

Weithiau, bydd cwmnïau'n symud i le newydd, oherwydd bod angen gostwng costau, dod o hyd i adeiladau mwy, oherwydd ad-drefnu neu er mwyn uno gyda busnes arall - os bydd eich cyflogwyr yn symud, bydd gennych hawliau a dyletswyddau penodol.

Oes rhaid i chi symud os bydd eich cyflogwyr yn symud?

Os bydd eich cyflogwyr yn symud eu busnes i rywle arall, bydd eich sefyllfa chi'n dibynnu yn y lle cyntaf ar delerau eich contract cyflogaeth.

Bydd rhai contractau'n cynnwys 'cymal symudedd' sy'n dweud bod rhaid i chi symud o fewn terfynau penodol. Os bydd eich contract yn cynnwys cymal symudedd, gall eich cyflogwyr fel arfer eich gorfodi i symud i lefydd a ganiateir yn y cymal oni bai fod hyn yn gwbl afresymol (megis gofyn i chi symud i wlad arall gyda dim ond diwrnod o rybudd).

Mae'n bosib bod gennych resymau dros beidio â bod eisiau symud i'r lleoliad newydd, er enghraifft:

  • mwy o gostau ac amser teithio
  • os oes rhaid i chi symud tŷ, nad ydych chi'n gallu fforddio cartref yn y lleoliad newydd, neu nad ydych chi'n awyddus i adael eich cartref presennol
  • sefyllfa'ch teulu, megis bod gennych rieni mewn oed sydd ag angen gofal
  • addysg eich plant

Os nad oes gennych gymal symudedd yn eich contract, a bod y cwmni'n symud yn gymharol bell, fe gewch chi benderfynu peidio â symud. Os felly, mae'n bosib y bydd eich cyflogwyr yn dileu eich swydd.

Pan fydd gwrthod symud yn arwain at ddileu swydd

Os nad ydych yn awyddus i symud gyda'ch cyflogwyr, mae'n bosib y caiff eich swydd ei dileu oherwydd:

  • nid yw'r swydd yn bodoli rhagor yn yr un lleoliad
  • cynigir swydd arall i chi, ond rydych yn gwrthod y cynnig am nad yw'n addas ar eich cyfer

Bydd sawl ffactor yn penderfynu a gewch chi dâl dileu swydd ai peidio, gan gynnwys ers faint rydych chi wedi bod yn gweithio i'ch cyflogwyr. Fodd bynnag, y cwestiwn pwysicaf yw a ydych chi wedi gwrthod yn 'afresymol' gynnig o waith addas yn lle'ch swydd bresennol.

Does dim pellter sefydlog sy'n 'rhesymol' - mae'n dibynnu ar eich amgylchiadau penodol. Os mai dim ond ychydig filltiroedd i ffwrdd y mae'r lleoliad newydd a'ch bod yn gallu gyrru yno neu fynd yno'n rhwydd ar gludiant cyhoeddus, mae'n debyg y bydd gwrthod y cynnig yn cael ei ystyried yn afresymol. Fodd bynnag, os yw'n golygu taith anodd, hyd yn oed os yw hynny ond yn daith o ychydig filltiroedd, neu fod y newid yn effeithio ar faterion personol megis sefyllfa'ch teulu neu addysg eich plant, fe allai fod yn rhesymol i chi wrthod.

Pan fyddwch yn wynebu dileu'ch swydd, bydd gennych yr hawl i gyfnod prawf mewn unrhyw swydd arall a gynigir i chi yn ei lle - edrychwch ar y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth.

Math o ddiswyddo yw colli swydd ac felly, gallwch wastad ystyried dwyn achos diswyddo annheg os teimlwch i chi gael eich trin yn wael.

Rhesymau dros benderfynu symud gyda'ch cyflogwyr

Pecyn adleoli da

Does dim rhaid i'ch cyflogwyr gynnig unrhyw iawndal am adleoli, oni bai fod hynny wedi'i gynnwys yn eich contract cyflogaeth. Mae'n bosib y byddan nhw'n fodlon cynnig cymorth ariannol i chi, gan gynnwys:

  • help gyda ffioedd cyfreithiol
  • costau teithio ychwanegol
  • costau symud
  • a llety dros dro

Os byddwch chi'n gwrthod y cynnig adleoli a chithau wedi cael cynnig iawndal, mae'n bosib na chewch chi daliad dileu swydd.

Rhagolygon da ar gyfer swydd yn y dyfodol

Mae'n bosib y bydd eich swydd newydd yn wahanol i'ch hen swydd, ond gyda gwell cyflog a chyfle ar gyfer datblygiad personol. Efallai y bydd yn werth i chi gytuno ar gyfnod prawf, efallai tra'ch bod yn cymudo neu'n symud i lety dros dro yn yr ardal newydd, er mwyn gweld a ydych chi'n hoffi'r swydd newydd. Os cytunwch chi ar gyfnod prawf, mae'n syniad da gwneud hynny ymlaen llaw, ac ar ffurf ysgrifenedig.

Os ydych chi mewn sefyllfa lle dilewyd eich swydd, bydd gennych yr hawl statudol i gyfnod prawf o bedair wythnos. Os penderfynwch chi symud, hyd yn oed i swydd newydd, mae eich cyflogaeth yn ddi-dor, a'ch hawliau statudol yn ddigyfnewid.

Beth os oes gan y cwmni berchnogion newydd a bod y rheiny'n dymuno adleoli?

Gwarchodir eich hawliau dan reoliadau a elwir yn TUPE - Trosglwyddo Busnes (Diogelu Cyflogaeth) - ac o dan y rheoliadau hynny gwarchodir pob hawl sydd gennych eisoes, gan gynnwys hawliau dan eich contract a gwarchodaeth rhag dileu eich swydd. Does dim gwahaniaeth o gwbl mai perchennog newydd sy'n gyfrifol am yr adleoli.

Beth i'w wneud nesaf

Os bydd eich cyflogwyr yn penderfynu adleoli:

  • edrychwch ar eich contract cyflogaeth i weld a oes 'cymal symudedd' ynddo
  • holwch a yw eich cyflogwyr yn cynnig pecyn adleoli, ac os felly, a ydych chi'n meddwl ei fod yn rhesymol
  • trafodwch y sefyllfa gyda'ch teulu a'ch ffrindiau, gan gynnwys eich cydweithwyr
  • dywedwch wrth eich cyflogwyr a ydych chi'n dymuno symud ai peidio, gan esbonio pam - os oes problem, mae'n bosib y byddan nhw'n gallu helpu
  • os penderfynwch chi symud, mynnwch sgwrs â'ch cyflogwyr ynglŷn â chyfnod prawf yn y lleoliad newydd/swydd newydd
  • os penderfynwch chi hawlio tâl dileu swydd, dywedwch wrth eich cyflogwr, ac esboniwch pam
  • os oes unrhyw anghydfod, trafodwch y peth gyda'ch cyflogwyr gyntaf - os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (megis swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall eich helpu
  • os penderfynwch chi beidio â symud a bod eich cyflogwyr yn meddwl eich bod yn afresymol ac yn gwrthod rhoi tâl dileu swydd i chi, cewch fynd â'r mater at Dribiwnlys Diwydiannol er mwyn iddyn nhw benderfynu ai chi ynteu'ch cyflogwyr sy'n bod yn afresymol

Ble i gael cymorth

Am ragor o wybodaeth ar ble i gael cymorth gyda materion cyflogaeth gallwch â’r dudalen cysylltiadau cyflogaeth neu gael gwybod mwy ynghylch undebau llafur.

Allweddumynediad llywodraeth y DU